Theatr Cenedlaethol
Ieuenctid Cymru
Mae cofrestriadau i archebu clyweliad ar gyfer Theatr Cenedlaethol Cymru (ThCIC) 2025 bellach ar agor!
Dyddiad cau: Dydd lau 27 Mawrth
Gwelir rhaglen isod.
Waeth os wyt ti’n dod yn ôl i ThCIC neu’n rhoi tro ar glyweliadau am y tro cyntaf, mae aelodaeth ThCIC 2025 yn cynnig lefel heb ei debyg o brofiadau hyfforddiant a pherfformio proffesiynol.
Eleni rydym yn canolbwyntio ar roi cynnig hyfforddiant ehangach i fwy o bobl ifanc gyda chyfle i weithio gyda ni i ddatblygu cynlluniau cyffrous ar gyfer cynhyrchiad pen-blwydd ThCIC yn 50 oed a gynllunnir ar gyfer 2026. Er na fyddwn yn teithio gyda chynhyrchiad ThCIC eleni, nid yw hynny’n golygu na fyddwch yn defnyddio eich cyhyrau perfformio a dyfeisio gan y byddwch yn gweithio gyda thîm neilltuol o gyfarwyddwyr, hyfforddwyr symud a llais fydd yn rhoi hwb mawr i’ch sgiliau perfformio.
Nodyn gan ein cynhyrchydd ThCIC
Rydym wedi datblygu 5 llinyn cyffrous ar gyfer ThCIC 2025 y bydd pob aelod yn cymryd rhan ynddynt gydag opsiynau i arbenigo ymhellach mewn ambell faes, os cynigir lle iti. Gan weithio gyda’n partneriaid yn y diwydiant, sef Theatr Clwyd a Chanolfan Mileniwm Cymru, Yr Egin S4C, Ffilm Cymru ynghyd â gweithwyr creadigol blaenllaw o Gymru a’r tu hwnt, byddwn yn edrych ar sgiliau oddi ar y llwyfan fel ysgrifennu sgriptiau ar gyfer y llwyfan a’r sgrîn, dyfeisio ac edrych ar ffyrdd newydd o berfformio a gweithio yn y maes adrodd straeon ymgolli digidol. Byddwn hefyd yn cyflwyno sgiliau llawrydd arbenigol fel sain ddisgrifiad, isdeitlo a dylunio sain. Bydd hyn i gyd yn mireinio sgiliau perfformio hanfodol a gwybodaeth am y diwydiant yn ystod y cyrsiau preswyl hynod gefnogol a chyfeillgar, gan ddod â phobl ifanc ynghyd o bob cwr o Gymru i weithio a chymdeithasu gyda’i gilydd.
Bydd ein clyweliadau ar ffurf gweithdy grŵp mor groesawus a chefnogol ag erioed, felly cofia ddarllen y ddogfen ‘Beth i Paratoi’ mewn clyweliad isod ac fe edrychaf ymlaen at dy weld ar un o’r dyddiadau yma’n fuan.
Megan Childs
Cynhyrchydd Theatr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru
Rhaglen ThCIC 2025
Bydd aelodau ThCIC yn cymryd rhan mewn 3 cwrs preswyl hyfforddiant a datblygu ar draws Cymru rhwng Mehefin a Tachwedd 2025, lle byddwch yn:
Cysylltu a gweithio gyda’r cwmnïau a’r artistiaid gorau o Gymru a thu hwnt yn cynnwys ein partneriaid diwydiant blaenllaw sef Theatr Clwyd a Chanolfan y Mileniwm Cymru.
Rhoi hwb i dy sgiliau a dy hyder yn ystod gweithdai a dosbarthiadau meistr gyda hyfforddwyr llais, cyfarwyddwyr symud, cyfarwyddwyr, ysgrifennwyr, dylunwyr sain, storïwr digidol a mwy.
Gwneud ffrindiau am oes yn ystid ein rhaglen cymdeithasol.
Gweld gwaith gwych a chael mewnwelediad gan dimau creadigol proffesiynol.
Helpu ni siapo ein cynhyrchiad yn 2026 yn dathlu 50 mlynnedd o ThCIC.
Gweithio a chwarae mewn amgylchedd dwyieithog, balch.
Dyddiadau Preswyliad ThCIC
27 – 29 Mehefin: Canolfan y Mileniwm - Cymru
25 – 30 Awst: Yr Egin + Prifysgol Drindod Dewi Sant - Caerfyrddin
30 Hydref – 2 Tachwedd: Theatr Clwyd - Yr Wyddgrug
Pump Ffrwd y Rhaglen
Mae'r uchod i gyd yn cael eu darparu drwy ein 5 Ffrwd y Rhaglen y bydd holl aelodau ThCIC yn eu profi gydag opsiynau i arbenigo ymhellach mewn rhai meysydd os cynigir lle.
Crefft Llwyfan a Sgrîn
Sgiliau actio hanfodol i gyflymu dy ddatblygiad fel perfformiwr.
Llawenydd Creu
Dod i ddeall dyfeisio a chyd-greu, ysgrifennu a dweud straeon digidol ymgollol.
Llwybrau+
Sesiynau gyda gweithwyr proffesiynol o’r diwydiant i helpu gyda cham nesaf dy hyfforddiant neu ddatblygiad gyrfa.
Sgiliau Tu Cefn Llwyfan
Archwilio ffyrdd newydd o weithio’r tu ôl i’r llenni ac ychwanegu at dy gronfa sgiliau
Lab 50
Archwilio syniadau, arddulliau a llwyfannu yn yr ystafell ymarfer gyda dramodwyr a chyfarwyddwyr i ffurfio a bod yn rhan o’n perfformiad 50fed pen-blwydd, yn 2026.
Darllenwch beth i ddisgwyl mewn clyweliad a’r hyn sydd angen ei baratoi yma.
Sut i wneud cais i ddod yn aelod o ThCIC…
2. Edrychwch ar ein lleoliadau a dyddiadau ar gyfer ein clyweliadau.
3. Bwciwch eich clyweliad!
Cynhelir ein clyweliadau fel gweithdai tair awr cyfeillgar a chefnogol a gallwn helpu gyda chostau clyweliadau yn ogystal â'r ffioedd aelodaeth fel y nodir ar ein tudalen bwrsariaeth. Byddwn hefyd yn gofyn i chi am unrhyw anghenion mynediad pan fyddwch yn trefnu eich clyweliad. Cysylltwch â ni os oes gennych unrhyw cwestiynau nyaw@nyaw.org.uk.
Dyddiadau Allweddol…
Dyddiad cau:
27 Mawrth
Clyweliadau:
29 Mawrth – 13 Ebrill
Canlyniadau:
W/D 28 Ebrill
Lleoliadau a Dyddiadau Clyweliadau
Dydd Sadwrn 29 Mawrth - Abertawe (AM + PM)
Dydd Sul 30 Mawrth - Caerdydd (AM + PM)
Dydd Mawrth 1 Ebrill - Caerfyrddin (Nos)
Dydd Mercher 2 Ebrill - Aberystwyth (Nos)
Dydd Iau 3 Ebrill - Y Drenewydd (Nos)
Dydd Gwener 4 Ebrill - Bangor (Nos)
Dydd Sadwrn 5 Ebrill - Yr Wyddgrug (AM) + Wrecsam (PM)
Dydd Mawrth 8 Ebrill - Merthyr Tudful (Nos)
Dydd Mercher 9 Ebrill - Pontypridd (Nos)
Dydd Gwener 11 Ebrill - Caerdydd (Nos)
Dydd Sadwrn 12 Ebrill - Casnewydd (AM) + Caerdydd (PM)
Dydd Sul 13 Ebrill - Caerdydd (AM) + Ar-lein (PM)
-
Cost: £600
Mae'r ffi hon yn gyfraniad tuag at eich costau dysgu, llety, bwyd a bwrdd, teithio o fewn y preswyliad a'r gweithgareddau cymdeithasol. Mae'r gwerth llawn a dderbynnir gan bob unigolyn dros £2,500 - ond diolch i'r gefnogaeth hael gan ein cyllidwyr a'n cefnogwyr, rydym yn sybsideiddio rhan sylweddol o'r costau i bawb a gynigir mewn ensemble cenedlaethol.
Gallai ein Cronfa Bwrsariaeth helpu i dalu am rywfaint, neu eich tâl aelodaeth i gyd, fel na fydd unrhyw un yn cael ei rwystro rhag ymgeisio am le gydag Ensembles CCIC am resymau ariannol. Os yw eich incwm teuluol yn llai na £70,000, gallech fod yn gymwys i dderbyn cymorth ariannol.
Yn ogystal, gyda chefnogaeth Ymddiriedolaeth Leverhulme, gallwn gynnig Ildiad Ffïoedd llawn a chymorth ychwanegol tuag at gostau teithio a chostau eraill sy’n gysylltiedig ag aelodaeth CCIC i’r rheini sydd ei angen fwyaf.
Ymwelwch â CHRONFA BWRSARIAETH CCIC am wybodaeth lawn, yn cynnwys sut i hawlio cymorth tuag at gostau clyweliadau a thâl aelodaeth.
-
Gallai ein Cronfa Bwrsariaeth helpu i dalu am rywfaint neu eich tâl aelodaeth i gyd, fel na fydd unrhyw un yn cael ei rwystro rhag ymgeisio am le gydag Ensembles CCIC am resymau ariannol. Os yw eich incwm teuluol yn llai na £70,000, gallech fod yn gymwys i dderbyn cymorth ariannol. Ymwelwch â CHRONFA BWRSARIAETH CCIC am wybodaeth lawn, yn cynnwys sut i hawlio cymorth tuag at gostau clyweliadau a thâl aelodaeth.
-
Mae CCIC yn derbyn ceisiadau gan bobl 16 – 22 sy'n byw/astudio'n llawn amser yng Nghymru neu a anwyd yng Nghymru sy’n barod i fynd a’u sgiliau creadigol, perfformio a thechnegol i’r lefel nesaf.
Efallai dy fod…
yn astudio neu’n cymryd rhan mewn drama / perfformio yn dy ysgol neu goleg
mewn ysgol ddrama ac yn paratoi ar gyfer y cam nesaf yn dy yrfa
yn cymryd rhan mewn theatr ieuenctid neu theatr gerdd yn dy ardal
yn berson creadigol llawn angerdd sy’n chwilfrydig ynghylch adrodd straeon y tu ôl i’r llenni a sgiliau cefn llwyfan.
Ar gyfer preswyliadau 2025 rhaid i gyfranogwyr fod rhwng 16 a 22 oed ar 31 Awst 2025. Mae hyn yn golygu y gallech gael clyweliad yn 15 oed, cyn belled â'ch bod yn 16 oed erbyn y dyddiad hwn.
Mae CCIC yn cadw'r hawl i wahardd unrhyw un rhag cymryd rhan yn ei ensemblau yn ôl ei ddisgresiwn rhesymol, i'w harfer gan uwch staff neu ymddiriedolwyr. I gael unrhyw gwestiynau am ein meini prawf cymhwysedd, anfonwch e-bost: nyaw@nyaw.org.uk
Cynhyrchwyd gyda chefnogaeth Llywdodraeth Cymru drwy Cymru Creadigol.