BAND PRES CENEDLAETHOL IEUENCTID CYMRU
TROSOLWG
Sefydlwyd Band Pres Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yn 1982 ac mae ganddo draddodiad hir o ddarparu hyfforddiant a chyfleoedd perfformio o'r radd flaenaf i Fandwyr Pres ifanc.
Mae'r Band Pres yn fand maint dwbl ac mae ganddo tua 50 o aelodau. Daw'r aelodau o bob cwr o Gymru ac maen nhw'n cael clyweliadau blynyddol mewn canolfannau ledled y wlad.
Fel gyda phob un o Ensembles CCIC, rydyn ni'n ymfalchïo mewn gweithio gydag arbenigwyr ym maes Band Pres a daw ein tîm o diwtoriaid o'r bandiau gorau yng Nghymru a Phrydain. Mae'r Band wedi gweithio gydag arweinwyr adnabyddus sy'n flaenllaw yn eu maes, gan gynnwys Edward Gregson (yr arweinydd cyntaf), Robert Childs, a Philip Harper, sef arweinydd y band byd enwog, Band y Cory.
Daeth cofrestriadau ar gyfer Band Pres Cenedlaethol Ieuenctid Cymru 2025 i ben ar 13 Hydref.
Fodd bynnag, os hoffech gael eich ystyried ar gyfer cais hwyr, cysylltwch â ni drwy nyaw@nyaw.org.uk.