CERDDORFA GENEDLAETHOL IEUENCTID CYMRU

TROSOLWG

Sefydlwyd Cerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru yn 1945, gyda'i pherfformiad cyntaf yn 1946; hi oedd y gerddorfa genedlaethol ieuenctid gyntaf yn y byd.

Fel sy'n wir am bob un o ensembles CCIC, mae'r Gerddorfa'n datblygu profiad hyfforddi o'r radd flaenaf yn berfformiadau sy'n llawn egni ac angerdd ac yn gweithio gyda cherddorion proffesiynol o fri i helpu i gyflawni ei phrif nod strategol, sef Rhagoriaeth.

Mae cerddorion yn cael clyweliadau blynyddol mewn canolfannau ledled Cymru gyda thua 100 o gerddorion ifanc yn cael eu dewis yn seiliedig ar ofynion y repertoire.


Daeth cofrestriadau ar gyfer Cerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru 2025 i ben ar 13 Hydref.

Fodd bynnag, os hoffech gael eich ystyried ar gyfer cais hwyr, cysylltwch â ni drwy nyaw@nyaw.org.uk.