Mae Sgilliau Côr NOL ar gyfer 2025!

Drwy weithio mewn partneriaeth â Cynllun Cenedlaethol Ar Gyfer Cerddoriaeth ym Mhowys, wnaethom ni gynnal cyfres o weithdai blasu cyn cynnal preswyliad ar y 24ain a'r 27ain o Chwefror, yn Llanbedr Pont Steffan. 

Mae Côr Skills yn brosiect datblygu corawl sydd â’r nod o sicrhau bod cantorion ifanc yng Nghymru yn gallu datblygu’r hyder a’r sgiliau sydd eu hangen i fanteisio ar ystod eang o gyfleoedd lleisiol a chorawl – o Gôr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru i gorau sirol a llawer mwy

Mae’r prosiect hwn, sy’n targedu cantorion ifanc rhwng 14-18 oed, yn anelu i ymgysylltu a 40 o gyfranogwyr ifanc o amrywiaeth eang o gefndiroedd mewn ffordd hwyliog, atyniadol a rhyngweithiol - gan eu galluogi i fynd â’u talent a’u sgiliau i’r lefel nesaf. 

Gyda chefnogaeth garedig gan nifer o sefydliadau gan gynnwys ABRSM a’r The Backstage Trust, mae’r prosiect yn cynnig cyfleoedd i gyfranogwyr ddatblygu eu sgiliau lleisiol a cherddorol cyffredinol – gan weithio ochr yn ochr â thîm o arweinwyr canu arbenigol tra’n cael digon o hwyl ar hyd y ffordd! 

Gan weithio gyda Tim Rhys-Evans, arweinydd Côr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru, trosglwyddwyd fersiwn beilot o’r prosiect am y tro cyntaf yn 2018/19; ac rydym yn falch iawn ein bod yn datblygu’r prosiect ymhellach yn 2022 a 2023. 

Yn 2023, profodd y prosiect lwyddiant ysgubol ar ffurf ein Preswylfa Sgiliau Côr cyntaf, a gynhaliwyd yng Nghanolfan yr Urdd ym Mae Caerdydd ym mis Chwefror, ac ym mis Gorffennaf cynhaliom ein hail breswyliad Sgiliau Cor y flwyddyn ym Mhrifysgol Cymru, Y Drindod Dewi Sant, Caerfyrddin. Wedi'i anelu at gyfranogwyr presennol a newydd, roedd y cyfnod preswyl hwn yn adeiladu ar y gwaith yr oeddem eisoes wedi'i ddechrau gyda chantorion ifanc. Rhoddodd gyfle cyntaf iddynt berfformio yn gyhoeddus fel grŵp ochr yn ochr â Chôr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru!

Roedd y cwrs preswyl pedwar diwrnod hwn yn cynnig cyfle i gyfranogwyr weithio gyda thîm arbenigol o arweinwyr canu a gwesteion arbennig; Rhoi cyfle i gyfranogwyr ddatblygu eu techneg leisiol, paratoi ar gyfer perfformiadau a chlyweliadau a datblygu eu sgiliau theori gerddorol trwy gymryd rhan mewn cyfres o sesiynau wedi'u teilwra'n arbennig. Cafwyd amrywiaeth o ddigwyddiadau cymdeithasol hwyliog drwy gydol y cyfnod preswyl a digon o gyfleoedd i wneud ffrindiau newydd.