CÔR CENEDLAETHOL IEUENCTID CYMRU

TROSOLWG

Ers ei sefydlu yn 1984, mae Côr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru wedi cefnogi traddodiadau corawl hirsefydlog Cymru, gyda nifer o'r cyn-aelodau yn dal i ganu neu arwain corau ledled Cymru a'r tu hwnt.

Gellir clywed cyn-aelodau eraill yn perfformio'n broffesiynol mewn neuaddau cyngerdd a thai opera ledled y byd, gan gynnwys Syr Bryn Terfel, Katherine Jenkins ac arweinydd presennol Côr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru, Tim Rhys-Evans.

Mae aelodau'r Côr rhwng 16 a 22 oed yn bennaf, yn dod o bob cwr o Gymru, ac yn cael clyweliadau blynyddol. Fel gyda holl ensembles CCIC, mae'r Côr yn gweithio gyda cherddorion proffesiynol o'r radd flaenaf i gyflawni ei nod strategol allweddol, sef Rhagoriaeth.


Daeth cofrestriadau ar gyfer Côr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru 2025 i ben ar 13 Hydref.

Fodd bynnag, os hoffech gael eich ystyried ar gyfer cais hwyr, cysylltwch â ni drwy nyaw@nyaw.org.uk.