Jazz Cenedlaethol
Ieuenctid Cymru
Grymuso'r genhedlaeth jazz nesaf yng Nghymru
Mae Jazz Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yn bartneriaeth uchelgeisiol newydd rhwng Jazz Explorers Cymru, Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru a Choleg Brenhinol Cerdd & Drama Cymru, wedi'u gefnogi gan Gyngor Celfyddydau Cymru a Gwasanaeth Cerdd Cenedlaethol Cymru. Gyda'n gilydd, ein nôd yw adeiladu a datblygu rhaglen i feithrin, ysbrydoli a chefnogi talent cerddorion jazz ifanc ledled Cymru
Rydym yn edrych ymlaen at groesawi gerddorion ifanc jazz ar gwrs 3-diwrnod sy'n cynnwys, gweithdai, dosbarthiadau meistri ac ymarferion i weithio gydag addysgwyr a cherddorion jazz byd enwog. Bydd yn brofiad hwylus, cydweithredol a heriol.
14-16 Ebrill 2025 yng Ngholeg Brenhinol Cerdd & Drama Cymru, Caerdydd.
Mae’r cwrs yn agored i offerynwyr a chantorion rhwng 14 – 22 mlwydd oed. Nid oedd angen profiad blaenorol o chwarae jazz i ymgeisio, ond awgrymasom ni safon Gradd 5 (neu'r hyn sy'n gyfatebol) ar eich offeryn. Bydd y cyfranogwyr yn cael ei rhannu i grŵpiau yn seiliedig ar oedran a profiad er mwyn sicrhau bod pawb yn derbyn yr addysg ar gefnogaeth angenrheidiol.
Y prif athrawon bydd Paula Gardiner, Huw Warren ac Andrew Bain (Pennaeth Adran Jazz, Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru) – gyda chefnogaeth ychwanegol gan athrawon arbennigol eraill a rhai o'r myfyrwyr jazz.
Er bod cost lawn y cwrs wedi'i sybsideiddio gan y sefydliadau partner a Chyngor Celfyddydau Cymru, fe fydd yna gost i gyfranogwyr. Mae lefel y ffi yn dibynnu ar yr angen am lety a pha mor bell yr ydych yn teithio. Mae bwrsariaethau hefyd ar gael i’r rhai o aelwydydd incwm is, er mwyn sicrhau bod pawb yn gallu cymryd rhan. Bydd y cwrs yn groesawgar ac yn gynhwysol, ond cysylltwch â ni os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau.
Cost
£165 ar gyfer cwrs yn unig
£165 ar gyfer cyrsiau a llety os ydych yn byw y tu allan i Gaerdydd
£240 ar gyfer cyrsiau a llety os ydych yn byw yng Nghaerdydd
Bydd cinio ar gael i bawb sy'n cymryd rhan. I'r rhai sy'n aros dros nos, byddwn hefyd yn darparu brecwast a chinio. Rhowch wybod i ni am unrhyw ofynion dietegol yn y ffurflen gofrestru.
Mae bwrsariaethau ar gael, yn seiliedig ar incwm y cartref - manylion pellach yma.
Cwrdd â'n Tiwtoriaid Jazz
Daw ein tiwtoriaid o'r addysgwyr a'r perfformwyr jazz mwyaf profiadol yng Nghymru, gan gynnwys y Penaethiaid Jazz presennol a blaenorol yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. Bydd manylion mwy o diwtoriaid yn cael eu hychwanegu isod, pan fyddant ar gael.
-
Mae Andrew Bain, cerddor, addysgwr ac ymchwilydd, yn un o’r perfformwyr ac addysgwyr mwyaf blaenllaw yn Ewrop ac mae wedi perfformio gydag enwogion fel Wynton Marsalis, Natalie Cole, Kenny Wheeler, Randy Brecker, John Taylor, Band Mawr NDR, Dave Liebman a Bob Mintzer, a hefyd wedi treulio cyfnod preswyl yn Efrog Newydd.
-
Roedd Paula yn Bennaeth Jazz yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru nes ymddeol yn 2023 i ailgydio yn ei gyrfa llawrydd.Yn ystod y 1990au a'r 2000au, sefydlodd Paula sawl band gan gynnwys Pedwarawd Paula Gardiner, 6, Triawd Paula Gardiner, Paula Gardiner 6.0 a'r band mawr anarchaidd a oedd yn Gyfansoddwyr Jazz Cymru. Mae hi wedi gweithio'n rhyngwladol, gan fynd â'i cherddoriaeth ei hun i'r Unol Daleithiau a chyfansoddi/cynnal prosiect mawr yng Nghymru a De Affrica ar gyfer yr Olympiad diwylliannol, 2012.
-
Pianydd a chyfansoddwr o Gymru yw Huw Warren, ac mae ganddo enw da yn rhyngwladol am greu cerddoriaeth arloesol ac eclectig. Mae ei chwarae a’i gyfansoddiadau wedi ymddangos ar rai o brif lwyfannau’r byd yn ogystal â chael eu darlledu’n aml. Mae Huw wedi ymddangos ar fwy na 50 o recordiadau, gan gynnwys cyfres o albymau hynod unigol o dan ei enw ei hun. Yn ganolog i’w ddull o addysgu jazz y mae’r diffiniad ehangaf posibl o’r genre, a ffocws ar ddatblygu’r llais unigol wrth fyrfyfyrio a chyfansoddi.