DAWNS GENEDLAETHOL IEUENCTID CYMRU

TROSOLWG

Mae Dawns Genedlaethol Ieuenctid Cymru yn cynnig cyfleoedd hyfforddi a pherfformio o'r radd flaenaf i rai o'n dawnswyr ifanc mwyaf talentog.

Mae'n tynnu ar egni a brwdfrydedd pobl ifanc dros ddawns a dawnsio, ac yn ei droi'n rym creadigol, cyfoes sy'n dathlu'r gorau o fyd dawns ieuenctid yng Nghymru heddiw.

Ers ei sefydlu yn 2000, mae Dawns Genedlaethol Ieuenctid Cymru wedi gweithio gyda rhai o goreograffwyr gorau gwledydd Prydain, gan gynnwys Wayne McGregor, Henri Oguike, Errol White, Theo Clinkard, Odette Hughes, Kerry Nicholls, Caroline Finn, Laila Diallo, Arielle Smith, Lea Anderson MBE a Mario Bermúdez. 


Mae cofrestriadau ar gyfer clyweliadau 2025 Dawns Genedlaethol Ieuenctid Cymru bellach AR GAU!

Daeth cofrestriadau ar gyfer Dawns Genedlaethol Ieuenctid Cymru i ben ar 16 Chefror 2025. Fodd bynnag, os hoffech gael eich ystyried ar gyfer cais hwyr, cysylltwch â ni drwy nyaw@nyaw.org.uk.


Uchafbwyntiau DGIC 2024…

Gwyliwch "DGIC 2024 Yn sitwdio gyda Yukiko Masui".

Gwyliwch “The Night is Darker Just Before the Dawn”