THEATR CENEDLAETHOL IEUENCTID CYMRU

TROSOLWG

Mae Theatr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yn gweithio gyda phartneriaid a phobl broffesiynol yn y diwydiant i gynnig cyfleoedd hyfforddi a pherfformio o'r radd flaenaf i rai o'n pobl ifanc fwyaf talentog.  

Ers bron 50 mlynedd, mae'r rhaglen flaengar yma ar gyfer theatr ieuenctid wedi meithrin doniau ac uchelgais miloedd o bobl ifanc drwy ddarparu perfformiadau amrywiol a rhai sy'n cymryd risg ochr yn ochr â rhaglenni hyfforddi sy'n adeiladu llwybrau i'r diwydiannau creadigol.    

Mae'r Theatr Ieuenctid yn falch o'i rhestr ddisglair o gyn-aelodau sydd wedi mynd ymlaen i ragori fel perfformwyr, ysgrifennwyr, cyfarwyddwyr, rheolwyr llwyfan a chynhyrchwyr, gan gynnwys Michael Sheen, Morfydd Clarke, Matthew Rhys, Ruth Jones, Rakie Ayola a Caroline Sheen ymysg eraill.  

Rydyn ni wedi ymrwymo i roi'r llwyfan i bobl ifanc rhwng 16 a 22 oed ffynnu beth bynnag fo'u cefndir a'u hamgylchiadau, ac rydyn ni'n ymfalchïo yn y ffaith ein bod yn darparu rhaglen ddwyeithog o weithgarwch ar gyfer ein haelodau sydd wedi'i gwreiddio mewn rhagoriaeth.


Mae cofrestriadau i archebu clyweliad ar gyfer Theatr Cenedlaethol Cymru 2025 BELLACH AR AGOR!  

Mae cofrestriadau i archebu clyweliad am Theatr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru 2025 NAWR AR AGOR!

Ymunwch â ni wrth i ni gychwyn ar ein rhaglen hyfforddi fwyaf erioed.

Am fwy o wybodaeth am y rhaglen ac i archebu eich clyweliad, cliciwch y botwm isod!


BETH MAE BOD YN AELOD O THEATR CENEDLAETHOL IEUENCTID CYMRU YN EI FEDDWL? 

Bob blwyddyn rydyn ni'n cynnal clyweliadau ledled Cymru ac mae'r bobl ifanc lwyddiannus yn dod yn aelod o'r Theatr Ieuenctid am chwech mis. Mae bod yn aelod o ThCIC yn sicrhau mynediad i breswylfeydd datblygu sgiliau perfformio a chefn llwyfan mewn cyd-destun proffesiynol a chefnogol  

 Mae aleodau ThCIC yn cymryd rhan mewn gweithdai o’r safon uchaf a dosbarthiadau meistr blaenllaw a chyfle i weithio a hyffiodi ar rhai o lwyfannau blaengar Cymru a gweithio ar y cyd â rhai o'r prif ymarferwyr sy'n gweithio yn y diwydiant heddiw. Mae bod yn aelod o'r Theatr Ieuenctid hefyd yn caniatáu i ti gryfhau dy hyder a rhwydweithiau creadigol a phroffesiynol.Mae’n dy baratoi ar gyfer clyweliadau i ysgolion drama ac yn dy arfogi gyda’r offer anghenrheidiol ar gyfer y camau nesaf yn eich gyrfa yn y celfyddydau. 

Mae dod yn aelod o THCIC yn golygu manteisio ar cynigion gostyngol unigryw ar docynnau, i wneud ffrindiau am oes ac i gael cyfle i fwynhau'r rhaglen gymdeithasol o weithgarwch amrywiol.   

Mae bwrsariaethau ar gael i helpu gyda ffioedd cwrs a chostau clyweliadau.


Roeddwn yn ddigon lwcus i fod yn aelod o TCIC a dyna un o’r pethau gorau i mi ei wneud erioed. Mae wedi fy ngwneud yn fwy hyderus fel person ac fel perfformiwr. Mae hefyd yn le mor ddiogel, yn gyfeillgar ac mae’r awyrgylch yn anhygoel.
— Cyn-aelod ThCIC

Uchafbwyntiau 2024