GYRFAOEDD
Cyfle Swydd
Cynhyrchydd Dan Hyfforddiant ThCIC
Cyflog: £22,932 y flwyddyn (yn seiliedig ar y Cyflog Byw Gwirioneddol o £12.60)
Llawn amser (35 awr yr wythnos) Chwefror 2025 – Mawrth 2026
Lleoliad: Swyddfa Caerdydd, gyda gweithio hyblyg yn bosib, a rhywfaint o deithio ledled Cymru gan gynnwys gwaith achlysurol gyda'r nos ac ar benwythnosau
Dyddiad cau: 11.59pm ddydd Llun 16 Rhagfyr
Cyfweliadau: Wythnos yn dechrau 6 Ionawr
Dyddiad Cychwyn: Wythnos yn dechrau 3 Chwefror (neu mor agos â phosibl yn dibynnu ar unrhyw gyfnodau rhybudd)
Trosolwg
Mae Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yn awyddus i benodi Cynhyrchydd Dan Hyfforddiant ThCIC llawn-amser i ymuno a’r tîm.
Cynhyrchwyd gyda chefnogaeth Llywdodraeth Cymru drwy Cymru Greadigol.
Yn Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru, ein cenhadaeth yw grymuso'r genhedlaethnesaf o gerddorion, actorion, dawnswyr a gwneuthurwyr i adeiladu dyfodol creadigol, hyderus a hael i Gymru.
Amdano’r Swydd
Fel Cynhyrchydd dan Hyfforddiant ThCIC, byddwch yn gweithio'n benodol ar bopeth yn ymwneud â ThCIC, gan roi cyfle i gael profiad ymarferol a hyfforddiant pwrpasol i uwchsgilio mewn meysydd fel rheoli prosiectau, diogelu, marchnata a chyllidebu. Byddai'r rôl hon yn berffaith i rywun sy'n dymuno gweithio ym maes cynhyrchu/rheoli prosiectau a gweinyddu'r celfyddydau yn y diwydiannau creadigol a pherfformio, yn benodol ar ein rhaglen Llwybrau Proffesiynol ThCIC 2025 estynedig. Gwelir Pecyn Swydd ar gyfer manylion llawn y rôl.
Manyleb y Person
Nid yw profiad gwaith yn hanfodol ar gyfer y swydd hon – mae gennym ddiddordeb yn dy botensial a’r profiadau eraill sydd gennyt allai dy wneud yn addas ar gyfer y rôl hon. Rydyn ni eisiau rhywun sy'n frwdfrydig, ymroddedig, gydag egni ac angerdd ac awydd i ddatblygu gyrfa yn y sector diwylliannol.
Fodd bynnag, mae meini prawf cymhwysedd penodol y bydd rhaid iti eu cyflawni:
Mae rhaid i ti fod dros 20 ac o dan 25 oed ar adeg dy benodi
Os wyt ti’n ymgeisio fel rhywun sydd wedi gadael yr ysgol neu’r coleg bydd rhaid i ti fod wedi derbyn yr LCA trwy gydol dy gyfnod yn astudio a bod â’r gwaith papur i gadarnhau hyn
Os wyt ti’n ymgeisio fel person sydd wedi graddio, mae rhaid iti fod wedi derbyn grant cynhaliaeth llawn oddi wrth Lywodraeth Cymru trwy gydol cyfnod dy radd a bod â’r gwaith papur i gadarnhau hyn
Mae rhaid iti fod yn byw yng Nghymru a bod a hawl i weithio yn y DU
Mae'r rôl lefel mynediad hon wedi'i neilltuo'n benodol ar gyfer person ifanc 20-25 mlwydd oed o gefndir heb gynrychiolaeth ddigonol, fel rhan o'n Cynllun Gweithredu Cadarnhaol. Mae'r cymunedau sydd wedi'u tangynrychioli rydyn ni’n eu blaenoriaethu fel a ganlyn:
- Pobl ifanc o gefndir Mwyafrif Byd-eang
- Pobl ifanc B/byddar, anabl a/neu niwrowahanol
- Pobl ifanc o deuluoedd incwm is
Sut i Ymgeisio
Darllenwch y Pecyn Swydd llawn uchod cyn gwneud cais gan ddefnyddio'r ffurflen gais byr hon ynghyd ag e-bost, llythyr neu fideo eglurhaol. Gellir dod o hyd i fanylion llawn am beth i'w gynnwys a sut i wneud cais yn y Pecyn Swydd.
Dylech sicrhau ein bod yn derbyn eich ffurflen gais, a naill ai eich llythyr eglurhaol neu gais fideo, erbyn 11.59pm ddydd Llun 16 Rhagfyr 2024 drwy eu hanfon at nyaw@nyaw.org.uk. Os ydych chi angen rhagor o wybodaeth cyn gwneud cais, mae croeso i chi anfon e-bost atom ar yr un cyfeiriad e-bost.
Os hoffech gael sgwrs anffurfiol am y rôl, cysylltwch â masonedwards@nyaw.org.uk neu ffoniwch Swyddfa CCIC ar 029 2280 7420.
Bydd angen i’r ymgeisydd llwyddiannus basio gwiriad DBS.
Efallai y byddwn yn cysylltu gyda thi am gyfweliad anffurfiol gyda dau aelod o staff CCIC.
Bydd cyfweliadau'n cael eu cynnal ar Dydd Llun 6 Ionawr yn ein swyddfeydd yng Nghaerdydd.
Rydym ni’n gofyn i bob ymgeisydd gwblhau Ffurflen Cyfle Cyfartal i'n helpu i fonitro cyrhaeddiad ein hysbysebion swyddi.
Mae Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yn gyflogwr Hyderus o ran Anabledd. Cysylltwch â ni ar unrhyw gam o'r broses ymgeisio os gallwn ni gynorthwyo gydag unrhyw anghenion mynediad.