
CREU CYFRANIAD RHEOLAIDD
Bydd eich rhodd rheolaidd yn ein helpu i gefnogi pobl ifanc drwy gydol y flwyddyn
Gallai rhodd reolaidd o ddim ond £3 y mis helpu person ifanc i gyrraedd eu potensial llawn. A wnewch chi addo eich cefnogaeth?
“Roedd y fwrsariaeth yn rhan enfawr o fy nghais eleni. Roeddwn i mor gyffrous am y cyfle hwn ond o dan fy amgylchiadau presennol, nid oedd yn opsiwn ymarferol. Roedd y gronfa fwrsariaeth yn golygu y gallwn ni estyn allan a datblygu fy hyfforddiant a’m profiadau proffesiynol. ”
Gall mynd ar drywydd eich angerdd yn y celfyddydau fod yn ddrud. Yn rhy aml, mae pobl ifanc yn wynebu rhwystrau fel methu fforddio hyfforddiant.
Rydyn ni’n gwneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau nad yw'r gost yn rhwystr i bobl ifanc gymryd rhan. Rydyn ni’n darparu cynllun bwrsariaeth, gan ganiatáu i bobl ifanc mwyaf talentog Cymru gael mynediad i'n hyfforddiant, heb orfod poeni am y gost. Rydyn ni hefyd yn cynhyrchu prosiectau mynediad rhad am ddim sy'n ysbrydoli pobl ifanc i gymryd y cam nesaf yn eu gyrfa, waeth beth yw eu cefndir.
Gyda'n gilydd, gallwn sicrhau bod pawb yn cael cyfle a mynediad i'r celfyddydau. A wnewch chi helpu person ifanc i gymryd rhan?
Bydd eich rhodd, beth bynnag fo'r swm, yn gwneud gwahaniaeth enfawr. Diolch am eich haelioni a'ch cefnogaeth.
Defnyddiwch y ffurflen isod i sefydlu rhodd debyd uniongyrchol rheolaidd, neu cliciwch ar y botwm melyn i fynd i CAF Donate, ein platfform rhoddion dibynadwy.
Gallai dim ond £5 y mis helpu tri pherson ifanc bob blwyddyn i gael clyweliad am ddim
Gallai £10 y mis helpu person ifanc i gael mynediad i un o'n prosiectau datblygu newydd, gan ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf
Gallai £30 y mis ddarparu bwrsariaeth i berson ifanc talentog, gan ganiatáu iddynt ymuno â'n ensembles a datblygu eu doniau i lefelau newydd o ragoriaeth broffesiynol.
Bydd unrhyw swm y byddwch chi’n ei roi yn mynd tuag at gefnogi perfformwyr ifanc talentog ledled Cymru