
Prosiect ar y cyd rhwng Canolfan Mileniwm Cymru a Chelfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru, mae Hard Côr yn dod â cherddorion 18 – 25 oed at ei gilydd i ffurfio grŵp lleisiol unigryw.
Mae'r cyfranogwyr yn dod at ei gilydd i archwilio amrywiaeth o arddulliau a thechnegau cerddoriaeth; cyfuno canu corawl gyda genres fel grime, hip hop ac RnB, a datblygu ystod o sgiliau gan gynnwys lleisio, MCing, rapio a bîtbocsio. Mae'r prosiect hwn yn cynnig hyfforddiant a chyfle i greu cerddoriaeth gydag ymarferwyr a cherddorion gorau'r wlad, gan arwain at arddangos talent sy'n dathlu sîn gerddoriaeth gynyddol arloesol a chyffrous Cymru.
“Roedd yn teimlo fel teulu a chymuned arall llawn amrywiaeth.”
Prosiect ar y cyd rhwng Canolfan Mileniwm Cymru a Chelfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yw Hard Côr.