Rhaglen cynhwysiant cenedlaethol newydd, a gynhelir mewn partneriaeth â Theatr Genedlaethol Ieuenctid Prydain Fawr

Mae Theatr Genedlaethol Ieuenctid Prydain Fawr a Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru wedi llunio partneriaeth gydag ysgolion nad ydynt yn ysgolion prif ffrwd yng Nghymru fel rhan o raglen gyffrous newydd, Assemble.

Bydd y prosiect yn cael ei gynnal rhwng Hydref 2023 a Gwanwyn 2025, gyda Theatr Genedlaethol Ieuenctid Prydain Fawr hefyd yn cyflwyno'r prosiect ar draws Llundain a Manceinion. Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yw partner y rhaglen Gymreig ac ar hyn o bryd mae'n gweithio gyda thair ysgol ledled De Cymru, gan gynnig gweithdai creadigol ac ymweliadau diwylliannol mewn partneriaeth â chanolfannau celfyddydau lleol i rymuso lleisiau ieuenctid ac adeiladu rhwydweithiau cymunedol cynhwysol lleol.

Nod y fenter yw dod â phobl ifanc anabl a gwirfoddolwyr ynghyd, gan feithrin cefnogaeth a cyfeillgarwch newydd sy'n canolbwyntio ar ddiddordeb cyffredin mewn creadigrwydd a'r celfyddydau. Drwy gydweithio â phartneriaid diwylliannol, bydd y prosiect yn cysylltu'r bobl hyn â rhaglenni presennol a chyfleoedd cyflogaeth yn y dyfodol, gan ddarparu llwybrau i unigolion anabl ifanc symud ymlaen i fod yn aelodau gydag ensembles a phrosiectau CCIC a Theatr Genedlaethol Ieuenctid Prydain Fawr.

Mae'r prosiect, sy'n cael ei gyflwyno gan arbenigwyr a hwyluswyr newydd, wedi'i deilwra i bob ysgol yn unigol ac yn archwilio arferion creadigol, gan ehangu diddordebau'r bobl ifanc yn y celfyddydau wrth hybu eu hyder fel unigolion. Mae CCIC yn falch iawn o allu cyflwyno'r prosiect hwn ar draws ffurfiau celf yn Ne Cymru - gan ymgorffori cerddoriaeth, dawns a drama i weithgarwch creadigol a gwella sut y gall y bobl ifanc dan sylw ddatblygu, cyfathrebu a thyfu.

Ysgol y Deri, Penarth

Credit: CCIC

Yn ein tymor cyntaf yn Ysgol y Deri gyda'n gilydd, fe wnaethom ddod i adnabod ein gilydd trwy gemau ac ymarferion drama, gan ddod yn fwy cyfforddus yn rhannu gwybodaeth bersonol, a arweiniodd at greu a chyfnewid hunanbortreadau i ddysgu mwy am ein gilydd. Fe wnaethom ni hefydd ddysgu caneuon, chwarae offerynnau, a dawnsio gyda'n gilydd, gan roi hwb i'n hyder mewn gemau drama. Arweiniodd hyn at rai aelodau'r grŵp yn teimlo'n ddigon hyderus i arwain gemau yn annibynnol, gan greu awyrgylch deinamig a chynhwysol.

Yn yr ail dymor, fe wnaethom barhau â'n harchwiliad gyda sesiynau bob pythefnos yn canolbwyntio ar thema 'Ensemble.' Rydym ni wedi cydweithio i sefydlu contract grŵp, gan osod canllawiau clir ar gyfer ein gwaith gyda'n gilydd yn y dyfodol. Gan gymryd rhan mewn ymarferion adrodd straeon, fe wnaethom actio senarios, gan ymateb i weithredoedd ein gilydd i greu naratifau. Hefyd, fe wnaethom ni baratoi ar gyfer taith theatr trwy ymchwilio i'r profiad o fynychu perfformiad byw. Roedd ein dysgu ar y cyd yn ymestyn i greu darluniau a ysbrydolwyd gan straeon a rennir, fel 'The Ugly Duckling'.

Mae rhai o uchafbwyntiau allweddol gweithio gyda'r grŵp hwn wedi cynnwys datblygu perthnasoedd rhwng cyfranogwyr, staff llawrydd a gwirfoddolwyr.  Mae wedi bod yn hyfryd gweld cyfeillgarwch yn ffurfio a dealltwriaeth barchus yn tyfu.

Mae Assemble wedi bod yn wych hyd yn hyn! Mae wedi bod yn fraint cael rhannu gofod mor agored a chynhwysol gyda chymaint o bobl ifanc gwych ac i chwarae, meithrin perthnasoedd a chael hwyl. Bob wythnos mae rhywbeth anhygoel yn digwydd.
— Gareth Warren, Cydymaith y Cwrs

Ysgol Crug Glas, Abertawe

Credit: Michelle McTernan

Dechreuodd y sesiynau yn Ysgol Crug Glas o fis Ionawr 2024 ymlaen. Yn y tymor cyntaf, fe wnaethom ni ymuno â'n gilydd i greu contract grŵp gan ddefnyddio paent a deunyddiau celf, gan amlinellu canllawiau clir ar gyfer ein cydweithio wrth symud ymlaen. Gan archwilio themâu 'Ni Ein Hunain' ac 'Ensemble,' buom yn myfyrio ar ein mamwlad, Cymru, gan ystyried ei arwyddocâd i unigolion a'r grŵp. Roedd trac sain wedi'i guradu gan Michelle, ac ymarferion cynhesu dan arweiniad Ffion, Cynorthwyydd y Cwrs yn cyd-fynd â phob sesiwn.

Gyda'n gilydd, rydym ni wedi llunio cerdd a ysbrydolwyd gan liwiau baner Cymru. Mae ein taith hefyd wedi cynnwys creu amgylcheddau synhwyraidd a rhyngweithiol, fel profiadau tanddwr a chefn gwlad, wrth fynd i'r afael â chanlyniadau esgeuluso'r mannau hyn. Drwy gydol y broses, buom yn archwilio'r emosiynau sy'n gysylltiedig â gwahanol amgylcheddau ac effaith gofalu amdanynt. Roedd yr eiliadau nodedig yn cynnwys cyfranogwyr yn cyfrannu'n annibynnol at amgylcheddau synhwyraidd, cerddi, a chynnwys gweithdy, cymryd rhan mewn chwarae blêr er mwyn cael hwyl, a gweld ymatebion amrywiol i brofiadau synhwyraidd a oedd yn darparu ar gyfer dewisiadau unigol.

Roeddwn wrth fy modd â’m sesiwn gyntaf yn Abertawe, tîm mor hyfryd a phobl ifanc mor anhygoel, roeddwn i wir wedi fy mhlesio! Mae Ffi yn Gynorthwyydd Cwrs gwych hefyd!
— Arweinydd y Cwrs

Ysgol Greenfield, Pentrebach

Credit: Lisa Parry

Roedd y sesiynau cychwynnol yn Ysgol Greenfield yn canolbwyntio ar hunanfynegiant ac adeiladu cysylltiadau ymhlith y bobl ifanc. Dechreuodd pob sesiwn gydag adrodd straeon ac yn raddol ymgorffori elfennau o gerddoriaeth a rhythm, gan arwain at weithgareddau dychmygus. Roedd y sesiwn ddiweddaraf hon yn canolbwyntio ar greu stori fer sy'n cyd-fynd â rhythm diffiniedig, gyda'r potensial i ddatblygu ymhellach yn gân. Gan bwysleisio'r thema hunan, tra hefyd yn meithrin cysylltiadau o fewn y grŵp: ymarferion arbennig o ddefnyddiol oedd gofyn i bawb 'Am beth hoffech chi gael eich adnabod?' a rhannu rhinweddau maen nhw'n eu caru am rhywun arall o'r grŵp.

Er gwaethaf natur hamddenol y sesiynau, parhaodd ymgysylltiad myfyrwyr yn gyson uchel trwy gydol y cyfnod. Yn arbennig, ychwanegodd y bobl ifanc i gyd at restr chwarae grŵp ar y cyd a oedd yn rhan annatod o'r sesiynau. Roedd natur gynhwysol a chyfranogol y gweithgareddau hyn yn hwyluso ymdeimlad o gymuned ymhlith cyfranogwyr, gan arwain at brofiad cadarnhaol a chyfoethog i bawb a gymerodd ran.

Mae hi wedi bod yn dair wythnos hyfryd ym Maes Glas! Diolch yn fawr iawn i bawb am eich cefnogaeth ac am gyfrannu at sesiynau gwych gyda’r grŵp hyfryd hwn o bobl ifanc. Mae’r sesiynau wedi bod yn dyner iawn, ond mae’r grŵp yn hynod o dderbyngar a brwdfrydig - mae wedi bod yn bleser gweithio gyda nhw ac mae wedi bod yn werth chweil gweld llawer ohonyn nhw’n dod allan o’u cragen drwy gydol ein tair wythnos gyda’n gilydd.
— Tom Colgan, Cydymaith Llanw yn Ysgol Maes Glas

Wedi’i ariannu gan: