GYRFAOEDD

Cyfle Swydd

Pennaeth Datblygu

Cyflog:​ £35,000 - £40,000 y flwyddyn (yn ddibynnol ar brofiad)
Swydd llawn amser

Lleoliad: ​Swyddfa Caerdydd, gyda gweithio hyblyg yn bosib, a rhywfaint o deithioledled Cymru

Dyddiad Cau:​​ 4pm dydd Llun 9 Medi

Cyfweliadau: ​​Dydd Mercher 18 Medi

Mae Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yn awyddus i benodi Pennaeth Ddatblygu llawn-amser i ymuno a’r tîm.

Yn Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru, ein cenhadaeth yw grymuso'r genhedlaethnesaf o gerddorion, actorion, dawnswyr a gwneuthurwyr i adeiladu dyfodol creadigol, hyderus a hael i Gymru.

 Mae rôl Pennaeth Datblygu yn allweddol i wireddu'r weledigaeth strategol honno. Gan weithio fel rhan o dîm staff cyfeillgar, angerddol ac arbenigol, byddwch yn mwynhau llwythgwaith amrywiol, gan gael effaith ar fywydau miloedd o bobl ifanc ledled Cymru.

 Rydym yn chwilio am rywun sydd â hanes o godi arian, marchnata ac arweinyddiaethlwyddiannus, sy'n rhannu ein hangerdd a'n gwerthoedd.

Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu sector celfyddydau a sefydliad cynhwysol ac amrywiol, lle mae pawb yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi, eu gwerthfawrogi a'u bod yn gallu bod ynnhw eu hunain yn llawn. Rydym ni’n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr o bob cefndir ac amgylchiadau. Rydym ni wedi ymrwymo'n llwyr i wella amrywiaeth ethnig ein gweithlu ac o'r herwydd rydym ni’n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr o gymunedau du, Asiaidd a mwyafrifol byd-eang yn arbennig. Mae CCIC yn gyflogwr sy'n Hyderus o ran Anabledd a byddem yn annog ymgeiswyr ag anghenion mynediad penodol i gysylltu â ni i sicrhau einbod yn diwallu’r rhain ar bob cam o'r broses recriwtio.

Sut i ymgeisio

Anfonwch eich CV atom a llythyr (dim mwy na dwy dudalen) yn nodi sut rydych chi'n diwallu Manyleb y Person erbyn 4pm dydd Llun 9 Medi i clairegrabham@nyaw.org.uk.

Cynhelir cyfweliadau ddydd Mercher 18 Medi yn ein gswyddfeydd yng Nghaerdydd. Dylech gadarnhau yn eich cais os nad yw'r dyddiad hwnnw'n bosibl i chi.

Gofynnwn i bob ymgeisydd gwblhau Ffurflen Cyfle Cyfartal i'n helpu i fonitro cyrhaeddiad ein hysbysebion swyddi. Fel sefydliad cenedlaethol, rydym am i'n tîm staff fod yn gynrychioliadol o'r gymuned gyfan. Rydym yn annog ceisiadau gan y rhai sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn draddodiadol yn y diwydiannau creadigol – gan gynnwys pobl o'r Mwyafrif Byd-eang, pobl D/byddar, pobl sy'n byw gydag anabledd, pobl niwroamrywiol, a'r rhai o gefndiroedd incwm is.

Mae Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yn gyflogwr Hyderus o ran Anabledd. Cysylltwch â ni ar unrhyw adeg o'r broses ymgeisio os gallwn gynorthwyo gydag unrhyw anghenion mynediad.