Dawns Genedlaethol Ieuenctid Cymru’n croesawu Lea Anderson ac Arielle Smith fel coreograffwyr ar gyfer tymor 2022
Lea Anderson, y coreograffydd rhyngwladol enwog a’r artist dawns a’r coreograffydd Arielle Smith, i greu dau waith newydd ar gyfer Dawns Genedlaethol Ieuenctid Cymru, gan weithio gyda DGIC am y tro cyntaf
Dawns Genedlaethol Ieuenctid Cymru yn partneru gyda Ballet Cymru ar gyfer cwrs preswyl 2022, gyda DGIC yn perfformio gyda Ballet Cymru fel rhan o’u taith hydref trwy’r DU
Ceisiadau’n agored nawr ar gyfer ensemble DGIC 2022, sydd ar agor i ddawnswyr ifanc 16-22 oed o Gymru neu sy’n byw yng Nghymru.
Efallai bod Lea Anderson, un o goreograffwyr mwyaf arloesol y DU, yn fwyaf adnabyddus am gyd-sefydlu cwmnïau The Cholmondeleys a The Featherstonehaughs, ble bu’n gyfrifol am goroegraffu mwy na 100 o weithiau. Yn 2002, derbyniodd MBE am ei gwasanaeth i ddawns.
Wedi’r cyhoeddiad, dywedodd Lea Anderson: "Rydw i mor hapus i gael fy ngwahodd i greu gwaith newydd gyda Dawns Genedlaethol Ieuenctid Cymru yr haf yma ac rydw i’n edrych ymlaen at allu mynd i’r stiwdio o’r diwedd i gydweithio gyda dawnswyr ifanc gwych."
Yn ymuno â’r tîm artistig ar gyfer 2022 hefyd mae Arielle Smith, enillydd y categori Emerging Artist yn y Gwobrau Dawns Cenedlaethol 2021. Mae wedi coreograffu gweithiau gyda English National Ballet, gan gydweithio gyda nhw yn 2021 a gyda’r gantores Anne-Marie i greu gwaith newydd ar gyfer y dathliad croeso adref o’r Gemau Olympaidd i Team GB yn Wembley.
Meddai Arielle Smith: “Dwi wrth fy modd i weithio gyda Dawns Genedlaethol Ieuenctid Cymru. Mae nawr, fwy nag erioed, yn amser i ddod at ein gilydd, i greu, rhannu a mwynhau dawns ac rydw i’n gyffrous iawn i weithio gyda’r genhedlaeth nesaf o ddoniau.”
Bydd Anderson a Smith yn creu gwaith newydd yr un ar gyfer Dawns Genedlaethol Ieuenctid Cymru, wrth i DGIC ddod at ei gilydd am eu cwrs preswyl haf cyntaf ers 2019. Yna byddant yn perfformio gyda Ballet Cymru, fel rhan o daith hydref Ballet Cymru trwy’r DU.
Clyweliadau DGIC 2022
Bob blwyddyn bydd Dawns Genedlaethol Ieuenctid Cymru’n cynnal clyweliadau ar gyfer dawnswyr ifanc o bob cwr o Gymru i ymuno â’r ensemble. Yn y clyweliadau cyfeillgar a chefnogol hyn, bydd y dawnswyr ifanc yn cymryd rhan mewn dosbarth meistr llawn sy’n archwilio technegau dawns cyfoes. Yna, bydd y rhai gaiff eu dethol yn mynd ymlaen i gymryd rhan mewn cwrs preswyl yn yr haf, gan greu dau ddarn newydd o goreograffi i’w perfformio yn yr hydref.
Am y tro cyntaf eleni, caiff cwrs preswyl yr haf ei gyfannu gan gyfres o ddosbarthiadau meistr ar-lein fel rhan o’r Cymundod Celtaidd, sef partneriaeth rhwng DGIC a Chwmni Dawns Cenedlaethol Ieuenctid yr Alban. Mae’r prosiect ar y cyd hwn yn ein helpu i drosglwyddo dosbarthiadau meistr a hyfforddiant o safon ryngwladol i ddawnswyr ifanc, gan ddefnyddio Zoom i gysylltu artistiaid dawns ifanc gyda’i gilydd.
Mae pob dawnsiwr ifanc 16-22 oed, a aned yng Nghymru neu sydd bellach yn byw yng Nghymru, yn gymwys i ddod am glyweliad. Ceir clyweliadau am ddim ar gyfer pobl ifanc sydd angen cymorth ariannol - a hynny ar sail “dim cwestiynau”, a bwrsariaethau o hyd at 100% o’r ffïoedd ar gyfer rhai o deuluoedd incwm is.
Dywedodd Gillian Mitchell, Prif Swyddog Gweithredol Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru: “Allwn ni ddim aros i gynnal clyweliadau unwaith eto ym mhob cwr o Gymru, er mwyn chwilio am y genhedlaeth nesaf o artistiaid dawns Cymreig.
“Diolch i gefnogaeth hael Ymddiriedolaeth Leverhulme, Cyngor Celfyddydau Cymru, a chefnogwyr ein cronfa bwrsariaethau, gallwn gynnig clyweliadau am ddim a bwrsariaethau o hyd at 100% ar gyfer y rheini sydd angen cymorth ariannol - felly ’does dim byd i’w golli trwy ddod am glyweliad!
“Mae Dawns Genedlaethol Ieuenctid Cymru, sydd bellach yn ei ail flwyddyn ar hugain, unwaith eto’n gallu dod â rhai o’r coreograffwyr gorau i Gymru, gan ganiatáu i ddawnswyr ifanc brofi a dysgu oddi wrth y profiad trochi, unigryw hwn. Allwn ni ddim aros i arddangos eu gwaith wrth iddyn nhw berfformio gyda Ballet Cymru yr hydref hwn.”
Am fwy o wybodaeth am ddod am glyweliad gyda Dawns Genedlaethol Ieuenctid Cymru, ewch i www.ccic.org.uk/clyweliadau. Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau yw Dydd Sul 20 Chwefror, 11.59pm.