Y Prif Weinidog yn llongyfarch CGIC ar ei phen-blwydd yn 75ain
Mae’r Prif Weinidog Mark Drakeford wedi dathlu pwysigrwydd Cerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru, fel rhan o neges fideo arbennig a recordiwyd ar gyfer 75ain Pen-blwydd yr ensemble yn 2021.
Nododd y Prif Weinidog bod yr ensemble - sef cerddorfa ieuenctid genedlaethol hynaf y byd - yn chwarae rhan bwysig yn nhirwedd gerddorol cyfoethog Cymru, gan gefnogi miloedd o gerddorion ifanc a rhoi cyfle iddynt berfformio i safon broffesiynol.
Cyfeiriodd hefyd at bwysigrwydd rhwydwaith cyn-aelodau’r gerddorfa, gyda’i chyn-aelodau wedi mynd ymlaen i berfformio mewn cerddorfeydd proffesiynol ledled y byd, yn ogystal â dilyn gyrfaoedd proffesiynol mewn amrywiol feysydd, fel meddygon, cyfreithwyr, athrawon, arweinyddion busnes a gwleidyddion.
Trwy gydol y pandemig Covid-19, mae Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru wedi darparu rhaglen gyfoethog o gefnogaeth a datblygiad i aelodau ei ensembles. Mynegodd y Prif Weinidog cyn bwysiced fu hyn i gerddorion ifanc i gael eu cefnogi trwy ddosbarthiadau meistr ar-lein, gweithdai digidol, a sesiynau llesiant trwy gydol y cyfnod hwn.
Yn ddiweddar, fel rhan o’i dathliadau pen-blwydd yn 2021, mae Cerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru wedi recordio cyngerdd sy’n cynnwys 10 comisiwn newydd sbon o weithiau siambr gan gyfansoddwyr Cymreig. Mae’r cyngerdd llawn ar gael i’w ffrydio am ddim ar-lein tan 30ain Tachwedd - gallwch ei wylio yma.