Gweld dyfodol Celfyddydau Cymru. Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yn cyhoeddi digwyddiadau haf 2023.

Mae perfformwyr ifanc hynod dalentog Cerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru, Band Pres Cenedlaethol Ieuenctid Cymru, CÃŽr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru, Theatr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru a Dawns Genedlaethol Ieuenctid Cymru yn barod i ddangos eu hangerdd a'u potensial.

Yr haf hwn, bydd dros 230 o actorion, cerddorion, a chantorion ifanc 16-22 oed yn perfformio mewn cyngherddau a chynyrchiadau ledled Cymru.

28 – 30 Gorffennaf, bydd Band Pres Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yn perfformio mewn cyngherddau ym Mangor, Aberystwyth a Chaerdydd.

Wedi'i arwain gan Paul Holland, bydd band pres yn dangos ei hyblygrwydd gyda darnau sy'n cynnwys High Peak gan Eric Ball, Five Blooms in a Welsh Garden gan Gareth Wood ynghyd â cherddoriaeth gan Debussy, Walton a Paul Lovatt-Cooper. Mae’r unawdydd cornet a’r seren newydd o Wlad Belg, Lode Violet, yn dod â’i ddawn ifanc ei hun i’r arlwy.

1 – 5 Awst, bydd Cerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru yn perfformio mewn digwyddiadau ym Mangor, Llanbedr Pont Steffan a Chaerdydd, yn ogystal â dwy ŵyl, yn Nhyddewi.

Wedi'i harwain gan Carlo Rizzi, bydd y gerddorfa yn mynd â chynulleidfaoedd ar daith drwy ardaloedd gwledig gwlad Tsiec gyda Vltava o Má vlast gan Smetana. Bydd hefyd yn perfformio Four Last Songs gan Richard Strauss gyda'r soprano Elizabeth Llewellyn, a Symffoni Rhif 5 gan Shostakovich.

25 – 28 Awst, bydd CÃŽr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yn perfformio mewn cyngherddau ym Mangor a Chaerdydd, yn ogystal â gŵyl yn Nhyddewi.

Mae cantorion CCIC wedi cael dweud eu dweud gan lunio rhaglen o'u ffefrynnau ar gyfer y cyngherddau eleni. Bydd cynulleidfaoedd yn cael blas ar bopeth o gerddoriaeth atmosfferig Eric Whitacre i alawon hyfryd cyfansoddwyr Cymreig. Bydd hyd yn oed drefniant o un o ganeuon chwedlonol Stevie Wonder i'w glywed hefyd. Tim Rhys-Evans, sy'n fwyaf adnabyddus am ei waith gydag Only Men Aloud ac Only Boys Aloud, yw'r arweinydd.

31 Awst – 2 Medi, bydd addasiad newydd o glasur Dylan Thomas ar gyfer lleisiau ifanc beiddgar Theatr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru, Dan y Wenallt / Under Milk Wood, yn cael ei llwyfannu yn Theatr y Sherman yng Nghaerdydd.

Daw byd telynegol Llaregubb a'r Gymru gyfoes ynghyd mewn cydblethiad o'r Gymraeg a'r Saesneg, a fydd yn fwrlwm o gerddoriaeth, meicroffonau a phedalau dolen. Cafodd y cynhyrchiad hynod wreiddiol hwn ei addasu gan Mari Izzard, yn seiliedig ar ddrama wreiddiol Dylan ar gyfer lleisiau a chyfieithiad Cymraeg gan T James Jones. Emma Baggott yw'r cyfarwyddwr.

Mae rhywbeth at ddant pawb yn yr arlwy yr haf hwn. Cyfle gwych i brofi, a chefnogi, angerdd ac addewid perfformwyr ifanc o bob cwr o Gymru.

Previous
Previous

Llongyfarchiadau i enillwyr ein gwobrau Cerddorfa a Band Pres 2023

Next
Next

Bwrw goleuni ar Iechyd Meddwl mewn Perfformio yn ystod Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl 2023.