Bwrw goleuni ar Iechyd Meddwl mewn Perfformio yn ystod Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl 2023.

Gall llawer o berfformwyr ifanc ganfod eu bod yn wynebu trafferth gyda gorbryder wrth berfformio, yn enwedig ers pandemig Covid-19. Gan ei bod hi’n Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl, a'r thema eleni yw Gorbryder, roedden ni am rannu ein hoff ffeithlenni i'ch helpu i berfformio'n hyderus, ac adnoddau i'ch cyfeirio at y cymorth cywir.

Ers Covid, bu cynnydd cyffredinol mewn gorbryder, ac fel sefydliad creadigol, rydyn ni’n annog ein haelodau i godi llais gan groesawu'r sgwrs ynghylch lles meddyliol.

“Roedd bod yn aelod o CCIC yn werthfawr iawn i fy iechyd meddwl dros y cyfnod clo... Roedd dychwelyd i waith preswyl wyneb yn wyneb yn 2022 yn brofiad anhygoel, ac fe wnaeth hyn fy helpu i adennill llawer o’r hyder roeddwn i wedi’i golli dros y cyfnod clo.”
— Aelod Preswyl CCI.

Beth yw gorbryder perfformio? Beth yw'r symptomau?

Fel y disgrifiwyd gan Mind UK (2021) "Gorbryder yw'r hyn rydyn ni'n ei deimlo pan rydyn ni'n poeni, dan straen neu'n ofnus - yn enwedig am bethau sydd ar fin digwydd, neu rydyn ni'n meddwl y gallen nhw ddigwydd yn y dyfodol. Mae gorbryder yn ymateb dynol naturiol pan fyddwn ni’n teimlo ein bod dan fygythiad. Gellir ei brofi drwy ein meddyliau, ein teimladau ac yn gorfforol." Gall hyn arwain at ofn camu i’r llwyfan, pyliau o banig, dryswch, ymhlith symptomau eraill.

Pa gyngor fyddech chi'n ei roi i rywun sy'n teimlo'n orbryderus am berfformio?

Mae rhai aelodau wedi canfod bod ioga, gan ei fod yn ymarfer corff myfyriol, yn eu helpu gyda'u gorbryder perfformio. Beth am leddfu’r pryder a’r straen a chymryd eiliad i edrych ar ôl eich lles corfforol a meddyliol gyda chyfres o sesiynau ioga a meddwlgarwch dan arweinad ganddon ni yma yn Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru, dan arweiniad tiwtor ioga preswyl Dawns Genedlaethol Ieuenctid Cymru Jessica Jones.

Gwyliwch yma.

Beth mae CCIC yn ei wneud i helpu?

Mae CCIC yn cymryd llesiant ac iechyd meddwl aelodau a staff o ddifrif. Yn ystod preswylfeydd, mae gan CCIC staff lles sydd â phrofiad o berfformio. Ochr yn ochr â hyn, yn ystod cyfnodau preswyl rydyn ni’n cynnal dosbarthiadau ioga i aelodau gan wneud ymarfer iach yn rhan o’r preswyliadau.

Adnoddau defnyddiol:

Musiciains Union

Rheoli Pryder Perfformiad

Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl 2023

Previous
Previous

Gweld dyfodol Celfyddydau Cymru. Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yn cyhoeddi digwyddiadau haf 2023.

Next
Next

Lansiad Rhaglen Llwybrau Proffesiynol 2023 Theatr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru