U.DANCE CYMRU 2025
MAE U.DANCE YN ÔL AR GYFER 2025!
Mae ceisiadau’n agored nawr ar gyfer U.Dance 2025, a gyflwynir mewn partneriaeth rhwng One Dance UK a Chelfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru.
BETH YW U.DANCE?
Mae U.Dance yn ddathliad cenedlaethol o berfformiadau gan bobl ifanc 11-19 oed, a hyd at 25 oed i bobl ifanc gydag anableddau. Mae U.Dance Cymru 2025 yn rhan o raglen genedlaethol U.Dance, a drosglwyddir mewn partneriaeth gyda One Dance UK. Cynhelir Gŵyl Genedlaethol U.Dance 2025 ar yr 25 - 27 o Offennaf yn Llundain. Bydd hwn yn ddathliad anferth o ddawns ieuenctid, ac fe’i cynhelir ochr-yn-ochr â dangosiadau o ffilmiau dawns ieuenctid mewn sinemâu, ac elfennau digidol cyffrous i bob person ifanc gymryd rhan ynddynt.
Bydd One Dance UK ac U.Dance yn croesawu dawnswyr sy’n perfformio unrhyw arddull neu genre, ac maent yn annog yn gryf i grwpiau cynhwysol ymgeisio i ddawnsio yn yr ŵyl – mae U.Dance ar gyfer pawb!
Dylai arweinyddion grwpiau gwblhau’r ffurflen gais isod.
CYMHWYSTER I FYNYCHU U.DANCE 2024
I fod yn gymwys am le yng Ngŵyl Genedlaethol U.Dance 2024 bydd angen i grwpiau:
Cyflwyno gwaith dawns i ni ei ystyried yn U.Dance Cymru:
UN AI
- Creu a chyflwyno darn dawns i’r sgrîn i’w ystyried ar gyfer ‘U.Dance ar y Sgrîn’, heb unrhyw gyfyngiad ar nifer y dawnswyr
NEU
- Creu a chyflwyno darn dawns ar gyfer y llwyfan, i’w ystyried ar gyfer ‘U.Dance ar y Llwyfan’, gyda mwyafswm o 30 o ddawnswyr
Dim ond cynnwys dawnswyr sydd yn 11 i 19 oed ar 25 o Orfennaf (gall dawnswyr gydag anableddau hyd at, ac yn cynnwys, 25 oed ymgeisio)
Cyflwyno darn dawns sydd rhwng 2 a 7 munud o hyd
Bod wedi eu lleoli yn y DU a chynnwys dawnswyr sy’n byw yn y DU
Glynu at y gofynion trwyddedu cerddoriaeth ar gyfer y sgrîn / y llwyfan (gweler nodiadau arweiniad U.Dance am fwy o wybodaeth)
PROSES YMGEISIO U.DANCE 2025
Rhaid cyflwyno ceisiadau erbyn 21 Chwefror 2025.
Cyn ymgeisio, byddem yn argymell yn gryf ichi ddarllen nodiadau arweiniad U.Dance, a ddarperir gan One Dance UK, yn ofalus. Rydym am i bawb gymryd rhan yn U.Dance Cymru mewn amgylchedd diogel a phleserus, a bydd rhaid i gyfranogwyr gytuno gyda, a glynu at yr arweiniad a’r cyfarwyddiadau hyn.
Caiff ceisiadau eu hystyried gan banel o arbenigwyr o’r diwydiant, cyn cael eu rhoi ar restr fer One Dance UK i gynrychioli Cymru yng Ngŵyl Genedlaethol U.Dance ar 25 - 27 o Offennaf 2025. Byddwn yn anelu i hysbysu ymgeiswyr erbyn diwedd mis Ebrill 2025 os bu eu cais i gynrychioli Cymru yng Ngŵyl Genedlaethol U.Dance 2025 yn llwyddiannus.
Mae U.Dance yn brofiad gwych. Mae’n ddathliad anhygoel o ddoniau ifanc, ac mae hefyd yn darparu cyfle i ddawnswyr ifanc gysylltu gyda’i gilydd, i gymryd rhan mewn gweithdai ac i ddysgu mwy am y sector dawns. Yn bennaf oll, mae’n caniatáu iddyn nhw arddangos eu cariad at ddawns!
Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os hoffech help gyda’ch ffurflen gais, cofiwch gysylltu gyda Jamie Jenkins - JamieJenkins@nyaw.org.uk
POB LWC!