Mae Sioe Deithiol Addysg yn dod i ysgol yn agos atoch chi

Bydd ein llysgenhadon yn mynd â'r Sioe Deithiol Addysg i ysgolion a cholegau ledled Cymru i rannu popeth rydych chi eisiau ei wybod am Theatr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru. Yn y sesiynau AM DDIM hyn, bydd eich myfyrwyr yn cael cipolwg ar yr hyn sydd gan raglen berfformio a hyfforddi ThCIC 2025 i'w gynnig i bobl ifanc mewn cyflwyniad deniadol a rhyngweithiol. 

Amdano Ni

Mae ein henw da yn adnabyddus. Ers bron i 50 mlynedd mae'r rhaglen flaengar yma ar gyfer theatr ieuenctid wedi meithrin doniau ac uchelgais miloedd o bobl ifanc drwy ddarparu perfformiadau amrywiol a rhaglenni hyfforddi sy'n adeiladu llwybrau i'r diwydiannau creadigol – rhywbeth yr ydym yn falch iawn o fod yn parhau eleni. Rydyn ni wedi ymrwymo dros ddod â phobl greadigol rhwng 16 a 22 oed at ei gilydd beth bynnag fo'u cefndir a'u hamgylchiadau, ac rydyn ni'n ymfalchïo yn y ffaith ein bod yn darparu rhaglen ddwyieithog. 

Gallwn addasu ein cyflwyniadau i grwpiau penodol, ac eu gwneud yn addas at nifer o leoliadau – gan gynnwys:   

  • gwasanaethau ysgol neu goleg   

  • seminarau astudio   

  • cyfarfodydd grŵp blwyddyn   

  • sesiynau lles neu yrfa   

  • sesiynau ar ôl oriau dosbarth    

 
Gall ein sesiynau rhedeg rhwng 15 a 40 munud o hyd yn dibynnu ar eich amserlen, wedi ei chefnogi gan ein Llysgenhadon CCIC a fydd â phrofiad ymarferol o fod yn aelod ThCIC, ochr yn ochr ag aelod o staff CCIC profiadol.    

Gallwch fwcio sesiynau rhwng 4ydd-20fed Chwefror 2025 - felly cofrestrwch eich diddordeb drwy wasgu ar y botwm isod a lenwi’r ffurflen, a bydd aelod o’n tîm yn cysylltu â chi yn fuan.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, p'un ai am y cyflwyniadau eu hunain neu i drafod ThCIC 25 yn fwy cyffredinol, cysylltwch â Hope Dowsett, Cynhyrchydd Cyfranogiad a Dysgu am sgwrs anffurfiol - hopedowsett@nyaw.org.uk. Rydym yn croesawu gohebiaeth gan bob athro ac arweinydd cwrs, ni waeth a allwch chi gynnal cyflwyniad personol ai peidio.

Subscribe to the NYAW Monthly Education Newsletter

* indicates required