Côr
Cenedlaethol
Ieuenctid Cymdu
Ai ti yw dyfodol cerddoriaeth yng Nghymru?
Daeth cofrestriadau ar gyfer Côr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru 2025 i ben ar 13 Hydref.
Fodd bynnag, os hoffech gael eich ystyried ar gyfer cais hwyr, cysylltwch â ni drwy nyaw@nyaw.org.uk.
“Yn 2025, rydym yn falch iawn o groesawu Tim Rhys-Evans yn ôl i arwain CCIC. Fel cyn-aelod o Gôr Ieuenctid Cenedlaethol Cymru ei hun, mae Tim bob amser yn sôn am ei anrhydedd o fod yn arweinydd presennol CCIC ac rydym yr un mor falch o weithio gydag ef. Yn adnabyddus am sefydlu Only Men Aloud ac Only Boys Aloud, mae profiad Tim fel canwr, arweinydd ac arbenigwr llais wedi ei weld yn gweithio gyda chwmnïau opera, corau a sefydliadau ledled y DU ac Ewrop.
Os nad ydych erioed wedi cael clyweliad o'r blaen, beth am roi cynnig arni? Efallai mai dyma'r cam cyntaf tuag at gynrychioli eich gwlad yng Nghôr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru”
Nodyn gan cynhyrchydd CCIC
Matthew Jones
Cynhyrchydd Côr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru
Rhaglen 2025
Arweinydd: Tim Rhys-Evans MBE
Yn 2025, bydd Tim Rhys-Evans yn nodi ei seithfed flwyddyn fel arweinydd CCIC, lle'r oedd unwaith yn aelod. Yn gyn-ganwr opera proffesiynol, darganfu Tim ei wir angerdd wrth greu a hwyluso cerddoriaeth, yn enwedig mewn cerddoriaeth gorawl, opera a theatr gerddorol. Mae'n ymroddedig i sicrhau bod gan unigolion talentog, disgybledig ac ymroddedig fynediad at astudiaethau cerddoriaeth uwch.
Yn 2010, sefydlodd The Aloud Charity, sy'n rhedeg Only Boys Aloud ac Only Kids Aloud, gan adfywio'r traddodiad côr meibion Cymreig a chynorthwyo plant o gymunedau difreintiedig. Creodd hefyd Only Men Aloud, ensemble lleisiol gwrywaidd Cymreig, gan ennill nifer o wobrau gan gynnwys ennill Last Choir Standing y BBC.
Mae anrhydeddau Tim yn cynnwys ordeinio i Orsedd y Beirdd (2010), MBE (2013), Doethur Cerddoriaeth er Anrhydedd (2017), a Chymrodoriaeth er Anrhydedd Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru (2019).
Repertoire: I’w gadarnhau.
Sut i ymuno…
Ymgeisiwch ebryn:
13 Hydref
Clyweliadau:
13 Tachwedd - 1 Rhagfyr
Dyddiad cau fideo: Dydd Sul 24 Tachwedd
Canlyniadau:
*16 Rhagfyr
Clyweliadau:
Dydd Mercher 13 Tachwedd (gyda'r nos) – Caerdydd
Dydd Sul 17 Tachwedd (AM/PM) – Llanelwy
Dydd Mawrth 19eg Tachwedd (gyda'r nos) – Caerdydd
Dydd Sul 24 Tachwedd (AM/PM) – Caerfyrddin
Dydd Iau 28ain Tachwedd (gyda'r nos) – Caerdydd
Dydd Sadwrn 30ain Tachwedd (AM/PM) – Caerdydd
Dydd Sul 1 Rhagfyr (AM/PM) – Caerdydd
Ymarferion:
12fed -13 Ebrill 2025, Caerdydd
15 - 25 Awst 2025 Y Drindod Dewi Sant, Caerfyrddin
Perfformiadau:
I’w gadarnhau.
*Wythnos yn ddechrau
-
Cost: £600
Mae'r ffi hon yn gyfraniad tuag at eich costau dysgu, llety, bwyd a bwrdd, teithio o fewn y preswyliad a'r gweithgareddau cymdeithasol. Mae'r gwerth llawn a dderbynnir gan bob unigolyn dros £1400 - ond diolch i'r gefnogaeth hael gan ein cyllidwyr a'n cefnogwyr, rydym yn sybsideiddio rhan sylweddol o'r costau i bawb a gynigir mewn ensemble cenedlaethol.
Gallai ein Cronfa Bwrsariaeth helpu i dalu am rywfaint, neu eich tâl aelodaeth i gyd, fel na fydd unrhyw un yn cael ei rwystro rhag ymgeisio am le gydag Ensembles CCIC am resymau ariannol. Os yw eich incwm teuluol yn llai na £70,000, gallech fod yn gymwys i dderbyn cymorth ariannol.
Yn ogystal, am y tro cyntaf eleni a gyda chefnogaeth Ymddiriedolaeth Leverhulme, gallwn gynnig Ildiad Ffïoedd llawn a chymorth ychwanegol tuag at gostau teithio a chostau eraill sy’n gysylltiedig ag aelodaeth CCIC i’r rheini sydd ei angen fwyaf.
Ymwelwch â CHRONFA BWRSARIAETH CCICam wybodaeth lawn, yn cynnwys sut i hawlio cymorth tuag at gostau clyweliadau a thâl aelodaeth.
-
Gallai ein Cronfa Bwrsariaeth helpu i dalu am rywfaint neu eich tâl aelodaeth i gyd, fel na fydd unrhyw un yn cael ei rwystro rhag ymgeisio am le gydag Ensembles CCIC am resymau ariannol. Os yw eich incwm teuluol yn llai na £70,000, gallech fod yn gymwys i dderbyn cymorth ariannol. Ymwelwch â CHRONFA BWRSARIAETH CCIC am wybodaeth lawn, yn cynnwys sut i hawlio cymorth tuag at gostau clyweliadau a thâl aelodaeth.
-
Derbynnir ceisiadau oddi wrth gantorion sydd â diddordeb brwd mewn canu a chyfranogi’n rheolaidd gyda chôr ar lefel uchel. Dylech fod rhwng 16 a 22 oed, ar 31 Awst 2024. (Mae hyn yn golygu y gallech gael clyweliad yn 15 oed, cyn belled â'ch bod yn 16 oed erbyn y dyddiad hwn). Efallai y byddwn yn derbyn cyfranogwyr iau i mewn i'r ensembles ar adegau lle mae talent eithriadol yn cael ei ddangos. Bydd hwn yn ôl disgresiwn CCIC yn unig. Mae'n rhaid eich bod naill ai wedi cael eich geni yng Nghymru a/neu'n byw yng Nghymru ar hyn o bryd, neu'n astudio'n llawn amser yng Nghymru.
Mae CCIC yn cadw'r hawl i wahardd unrhyw un rhag cymryd rhan yn ei ensemblau yn ôl ei ddisgresiwn rhesymol, i'w harfer gan uwch staff neu ymddiriedolwyr.
Ar gyfer unrhyw gwestiynau am ein meini prawf cymhwysedd, anfonwch e-bost at: nyaw@nyaw.org.uk.