Cerddorfa

Genedlaethol

Ieuenctid Cymru

Ai ti yw dyfodol cerddoriaeth yng Nghymru?

Daeth cofrestriadau ar gyfer Cerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru 2025 i ben ar 13 Hydref.

Fodd bynnag, os hoffech gael eich ystyried ar gyfer cais hwyr, cysylltwch â ni drwy nyaw@nyaw.org.uk.

“Rydym wrth ein bodd yn croesawu Kwamé Ryan yn ôl fel arweinydd, a arweiniodd y CCIC ddiwethaf yn 2022. Eleni, mae wedi dewis rhaglen gyffrous o America gyfan, yn cynnwys Dawnsfeydd Symphonic Bernstein o West Side Story a Porgy and Bess: A Symphonic Picture. Mae'n anrhydedd i ni gael ein gwahodd yn ôl i Ŵyl y Tri Chôr yn Henffordd a Gŵyl Gerdd Abergwaun yn Nhyddewi, gan adlewyrchu'r parch mawr at ein perfformiadau. Yn ogystal, byddwn yn perfformio yn Llanelwy ac Abertawe, gan greu taith pedwar dyddiad cyffrous.

 Os nad ydych erioed wedi cael clyweliad o'r blaen, beth am roi cynnig arni? Ymunwch â Cherddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru!”

Nodyn gan cynhyrchydd CGIC

Matthew Jones

Cynhyrchydd Cerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru

Rhaglen 2025

Arweinydd: Kwamé Ryan

Derbyniodd Kwamé Ryan, a anwyd yng Nghanada ac a fagwyd yn Trinidad, ei addysg gerddorol gynnar ar yr ynys. Parhaodd â'i astudiaethau yn y DU a Hwngari, gan ganolbwyntio ar Gerddoleg ym Mhrifysgol Caergrawnt ac arwain o dan Peter Eötvös. Gwasanaethodd Ryan fel Cyfarwyddwr Cerddoriaeth Cyffredinol Freiburg Opera (1999-2003) ac fel Cyfarwyddwr Cerdd ac Artistig Cerddorfa Genedlaethol Bordeaux Aquitaine (2007-2013).

Fel arweinydd gwadd yn yr Almaen, bu'n arwain cerddorfeydd gan gynnwys Cerddorfeydd Radio Stuttgart a Bafaria, a'r Konzerthausorchester Berlin. Yn Ffrainc, bu'n arwain yn Opera de la Bastille, Opera de Lyon, a'r Orchestre Philharmonique de Radio France.

Yn yr Unol Daleithiau a'r DU, arweiniodd Ryan nifer o gerddorfeydd megis Cerddorfa Symffoni Baltimore, Dallas, Detroit, Indianapolis, Atlanta, Houston a Boston, yn ogystal ag Opera Cenedlaethol Lloegr a Philharmonia Llundain. Mae hefyd yn arweinydd gwadd rheolaidd gyda Cherddorfa Ffilharmonig Seoul.

Mae cyfraniadau Ryan i addysg gerddorol wedi cael eu cydnabod yn rhyngwladol, yn arbennig fel Cyfarwyddwr Cerdd Cerddorfa Ieuenctid Genedlaethol Ffrainc a Chyfarwyddwr yr Academi ar gyfer y Celfyddydau Perfformio ym Mhrifysgol Trinidad a Tobago.

Repertoire Arfaethedig: Corigliano: Tournaments, Gershwin (arr. Bennett): Porgy and Bess - A Symphonic Picture, Bernstein: Symphonic Dances from West Side Story, Mason Bates: Resurexit  

Sut i ymuno…

Ymgeisiwch ebryn:

13 Hydref

Clyweliadau:

13 Tachwedd - 1 Rhagfyr

Dyddiad cau fideo: Dydd Sul 24 Tachwedd

Canlyniadau:

*16 Rhagfyr

Clyweliadau:

Dydd Sul 17 Tachwedd (AM/PM) – Llanelwy  

Dydd Sul 24 Tachwedd (AM/PM) – Caerfyrddin 

Dydd Sadwrn 30ain Tachwedd (AM/PM) – Caerdydd 

Dydd Sul 1 Rhagfyr (AM/PM) – Caerdydd

Ymarferion:

14eg - 15fed Ebrill 2025 (Llinynnau'n Unig)

21 Gorffennaf – 3ydd Awst (Cerddorfa Lawn), Y Drindod Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan

Perfformiadau:

31 Gorffennaf, Gŵyl Gerdd Abergwaun, Eglwys Gadeiriol Tyddewi 

1af Awst, Gŵyl y Tri Chôr, Eglwys Gadeiriol Henffordd

2il Awst, Eglwys Gadeiriol Llanelwy (I’w gadarnhau)

3ydd Awst, Neuadd Brangwyn, Abertawe

*Wythnos yn ddechrau

  • Cost: £700

    Mae'r ffi hon yn gyfraniad tuag at eich costau dysgu, llety, bwyd a bwrdd, teithio o fewn y preswyliad a'r gweithgareddau cymdeithasol. Mae'r gwerth llawn a dderbynnir gan bob unigolyn dros £1500 - ond diolch i'r gefnogaeth hael gan ein cyllidwyr a'n cefnogwyr, rydym yn sybsideiddio rhan sylweddol o'r costau i bawb a gynigir mewn ensemble cenedlaethol.

    Gallai ein Cronfa Bwrsariaeth helpu i dalu am rywfaint, neu eich tâl aelodaeth i gyd, fel na fydd unrhyw un yn cael ei rwystro rhag ymgeisio am le gydag Ensembles CCIC am resymau ariannol. Os yw eich incwm teuluol yn llai na £70,000, gallech fod yn gymwys i dderbyn cymorth ariannol.

    Yn ogystal, am y tro cyntaf eleni a gyda chefnogaeth Ymddiriedolaeth Leverhulme, gallwn gynnig Ildiad Ffïoedd llawn a chymorth ychwanegol tuag at gostau teithio a chostau eraill sy’n gysylltiedig ag aelodaeth CCIC i’r rheini sydd ei angen fwyaf.

    Caiff bwrsariaethau ar gyfer aelodau Cerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru eu cefnogi’n hael gan Ffrindiau Cerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru.

    Ymwelwch â CHRONFA BWRSARIAETH CCICam wybodaeth lawn, yn cynnwys sut i hawlio cymorth tuag at gostau clyweliadau a thâl aelodaeth.

  • Gallai ein Cronfa Bwrsariaeth helpu i dalu am rywfaint neu eich tâl aelodaeth i gyd, fel na fydd unrhyw un yn cael ei rwystro rhag ymgeisio am le gydag Ensembles CCIC am resymau ariannol. Os yw eich incwm teuluol yn llai na £70,000, gallech fod yn gymwys i dderbyn cymorth ariannol. Ymwelwch â CHRONFA BWRSARIAETH CCIC am wybodaeth lawn, yn cynnwys sut i hawlio cymorth tuag at gostau clyweliadau a thâl aelodaeth.

  • Fel arfer, dylai ymgeiswyr fod o safon gradd 8 er nad oes rhaid i chi fod wedi sefyll arholiad gradd 8 ar adeg y clyweliad. Dylech fod rhwng 16 a 22 oed, ar 31 Awst 2024. (Mae hyn yn golygu y gallech gael clyweliad yn 15 oed, cyn belled â'ch bod yn 16 oed erbyn y dyddiad hwn). Efallai y byddwn yn derbyn cyfranogwyr iau i mewn i'r ensembles ar adegau lle mae talent eithriadol yn cael ei ddangos. Bydd hwn yn ôl disgresiwn CCIC yn unig. Mae'n rhaid eich bod naill ai wedi cael eich geni yng Nghymru a/neu'n byw yng Nghymru ar hyn o bryd, neu'n astudio'n llawn amser yng Nghymru.

    Mae CCIC yn cadw'r hawl i wahardd unrhyw un rhag cymryd rhan yn ei ensemblau yn ôl ei ddisgresiwn rhesymol, i'w harfer gan uwch staff neu ymddiriedolwyr.

    Ar gyfer unrhyw gwestiynau am ein meini prawf cymhwysedd, anfonwch e-bost at: nyaw@nyaw.org.uk.