Penodi Anthony Matsena, cyn-aelod dawns Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru, i’r Bwrdd Ymddiriedolwyr

Mae Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru (CCIC) wedi penodi’r coreograffydd a’r dawnsiwr Anthony Matsena i’r Bwrdd Ymddiriedolwyr, gan ddod â phersbectif newydd a llawn ysbrydoliaeth i reolaeth elusen gelfyddydau flaenaf Cymru ar yr adeg ddiffiniol hon.

Ac yntau’n dalent cyffrous ar ei gynnydd ym maes dawnsio cyfoes, mae Anthony yn gyn-aelod o Ddawns Genedlaethol Ieuenctid Cymru (DGIC) a bellach yn cael ei gydnabod yn broffesiynol am ei waith gyda Sadler’s Wells, Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru (CDCCymru) ac am berfformio’n ddiweddar yn Tree yn theatr y Young Vic, a grëwyd gan Idris Elba a Kwame Kewi-Armah.

Wedi ei eni yn Zimbabwe a’i fagu yn Abertawe ers yn 13 oed, datblygodd Anthony ei gariad at ddawnsio a’i sgiliau yn y maes trwy fynychu gwersi dawnsio hip-hop, Affricanaidd a Chyfoes. Daeth ei berfformiad proffesiynol cyntaf yn 2014 pan gafodd ei weld gan dîm artistig Matthew Bourne a’i ddewis i berfformio yn Lord of the Flies, New Adventures yng Nghanolfan Mileniwm Cymru. Yn fuan wedyn, ymunodd â Dawns Genedlaethol Ieuenctid Cymru ble y mwynhaodd un o uchafbwyntiau allweddol ei yrfa ifanc; perfformio gwaith Kerry Nicholls aM gyda DGIC 2015 ar brif lwyfan Sadler’s Wells. Flwyddyn yn ddiweddarach, fe’i derbyniwyd i’r London Contemporary Dance School, ble y datblygodd yn gyflym i fod yn goreograffydd cyffrous ac yn ‘un i gadw llygad arno’. Yn y flwyddyn y graddiodd o’i gwrs BA (Anrhydedd) mewn Dawns Gyfoes, dychwelodd Anthony i Sadler’s Wells ble y derbyniodd rôl arobryn Aelod Cyswllt Ifanc 2018-2020.

Dywedodd David M Jackson, Cadeirydd Bwrdd Ymddiriedolwyr, Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru:

“Mae’n bleser croesawu’r dawnsiwr a’r coreograffydd ifanc gwych Anthony Matsena i Fwrdd CCIC. Ac yntau bellach yn gweithio ar lwyfan byd-eang, daw Anthony ag egni newydd, a phersbectif newydd, amrywiol i’n gwaith ar gyfer pobl ifanc dawnus a thalentog Cymru. Rwy’n mwynhau gweithio ag e’n barod, ac rwy’n edrych ymlaen at iddo fwynhau partneriaeth faith, gynhyrchiol ac ysbrydoledig gyda CCIC.”

Meddai Anthony Matsena:

“Mae’n golygu popeth i fod yn rhan o’r sefydliad y gallaf ddweud, â’m llaw ar fy nghalon, sydd wedi cael effaith positif dros ben ar fy ngyrfa ym myd dawns. Mae’n fraint aruthrol, o gofio mai dim ond 4 blynedd yn ôl yr oeddwn i’n rhannu’r llwyfan gyda fy nghyd-aelodau o DGIC.

“Rwy’n edrych ymlaen at beri newid positif i’r rhaglen ddawns er mwyn sicrhau bod y gwaith yr ydym yn ei drosglwyddo’n dal i daro tant gyda’r gwaith sydd allan yna heddiw. Mae dawns gyfoes yn greadur sy’n newid yn barhaus, felly mae’n anodd gwneud yn siŵr bod pobl iau yn derbyn yr hyfforddiant cywir i sicrhau gyrfaoedd llwyddiannus maith ym myd dawns. Rwyf hefyd am helpu gyda gwaith y mudiad i ehangu mynediad; i’w gwneud hi’n haws i ddawnswyr o gefndiroedd hyfforddiant gwahanol ganfod eu ffordd i mewn i’r rhaglen. Rwy’n gwybod bod llu o ddoniau allan yna yng Nghymru sydd angen cyflawni eu llawn botensial. Rwy’n gyffrous i roi rhywbeth yn ôl i Gymru ac i fudiad sydd â lle arbennig yn fy nghalon.”

Dywedodd Gillian Mitchell, Prif Weithredwraig CCIC:

Mae Bwrdd CCIC yn chwarae rhan bwysig wrth helpu i lunio cyfeiriad strategol y sefydliad. Ers ei sefydlu yn 2017, mae Bwrdd newydd CCIC wedi arddangos arweinyddiaeth gref, gan helpu i lywio’r sefydliad yn ei flaen mewn modd fydd, yn y pen draw, yn cael effaith ystyrlon ar fywydau perfformwyr ifanc dawnus o Gymru, waeth beth fo’u cefndir. 

“Wrth i’r sefydliad barhau i dyfu a datblygu ymhellach ar bob lefel, rwyf wrth fy modd bod Anthony wedi cytuno i ymuno â’r Bwrdd Ymddiriedolwyr. Mae annog uchelgais ymysg pobl ifanc yng Nghymru ac adlewyrchu amrywiaeth y genedl yn elfen bwysig iawn o’n hagwedd artistig ac mae’n hanfodol bod hynny’n cael ei adlewyrchu ym mhob elfen o’r hyn y mae CCIC yn ei wneud. Yn ogystal â dod â’i brofiadau ei hun i’r Bwrdd, rydym yn gwybod y bydd Anthony yn ysbrydoliaeth i ddawnswyr ifanc o Gymru sy’n cychwyn ar eu siwrnai broffesiynol.”

Bydd Anthony yn ymuno â Bwrdd Ymddiriedolwyr CCIC gyda David Jackson (Cadeirydd), Bryan Hughes, Rhian Hutchings, Christine Lewis OBE, Mathew Milsom, Karen Pimbley a Mathew Talfan.

Previous
Previous

Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru i greu rolau dan hyfforddiant newydd cyflogedig trwy gronfa Incubator Fund Youth Music

Next
Next

Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yn ehangu eu rhaglen ddigidol yn 2021