Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru i greu rolau dan hyfforddiant newydd cyflogedig trwy gronfa Incubator Fund Youth Music

Bydd Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yn creu tair rôl cynhyrchwyr dan hyfforddiant newydd a chwe rôl Mentor y Dyfodol llawrydd dros y ddwy flynedd nesaf, diolch i ariannu a ddyfarnwyd trwy gronfa Incubator Fund Youth Music heddiw (4 Tachwedd 2020).

Bydd deiliaid y rolau’n derbyn o leiaf y Cyflog Byw Gwirioneddol, ac maent yn benodol ar gyfer pobl ifanc 18-25 oed o gymunedau a dangynrychiolir yn y gweithlu celfyddydau.

Mae’r rolau cyflogedig hyn wedi eu dylunio i helpu cerddorion a chynhyrchwyr cerddoriaeth ifanc o gymunedau a dangynrychiolir i ennill profiad gwaith gwerthfawr - gan ehangu’n sylweddol ar waith cyfredol CCIC wrth helpu i ddatblygu gweithlu mwy amrywiol yn y celfyddydau. Caiff recriwtio ei gyfyngu i’r bobl ifanc hynny allai wynebu rhwystrau i yrfa ym maes cerddoriaeth, megis pobl ifanc B/byddar ac anabl, pobl ifanc o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol is, a phobl ifanc Du a chroenliw.

Bydd y cynhyrchwyr dan hyfforddiant yn gweithio gyda’n tîm i drosglwyddo ein gwaith, sy’n cefnogi pobl ifanc ledled Cymru. Bydd ein Mentoriaid y Dyfodol llawrydd yn helpu i ddylunio a throsglwyddo ein prosiect Cerdd y Dyfodol, fydd yn parhau yn 2021 i ddatblygu doniau pop a roc ifanc ym mhob cwr o Gymru.

Bydd pob rôl yn derbyn mentora allanol, profiadau gwaith wedi eu teilwra’n seiliedig ar eu diddordebau unigol, a chymorth datblygu gyrfa unigol. Penodir y rolau i gyd trwy recriwtio agored, gyda hysbysebion swyddi’n ymddangos yn y misoedd nesaf.

Cefnogir y prosiect hwn gan gronfa Incubator Fund Youth Music, diolch i ariannu oddi wrth chwaraewyr loteri y People’s Postcode Lottery. Mae’r Incubator Fund newydd hon sydd werth £2 miliwn - y disgwylir iddi redeg dros o leiaf y ddwy flynedd nesaf - wedi ei dylunio i helpu sefydliadau yn y diwydiant cerddoriaeth, yn enwedig meicro-fusnesau ac BBaCh, i harneisio sgiliau a chreadigedd doniau ifanc amrywiol. Mae’n cynnig grantiau o hyd at £30,000 i gyflogwyr arloesol yn y diwydiant cerddoriaeth i gefnogi gyrfaoedd pobl ifanc 18-25 oed. Mae’r cyllid, y gellir ei wario ar gyflogau a chymorth, yn cynnig ffordd goncrid i sefydliadau bychan, annibynnol yn y diwydiant cerddoriaeth ffynnu a chydweithio gyda’r genhedlaeth nesaf a’r sector ehangach.

Previous
Previous

Sgwrs gydag Anthony Matsena

Next
Next

Penodi Anthony Matsena, cyn-aelod dawns Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru, i’r Bwrdd Ymddiriedolwyr