Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yn ehangu eu rhaglen ddigidol yn 2021

Yn dilyn haf llwyddiannus o Gyrsiau Digidol Cryno, gydag adborth cadarnhaol ysgubol oddi wrth yr aelodau, bydd Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yn ehangu eu gweithgarwch digidol ymhellach wrth i ymbellhau cymdeithasol bara i atal hyfforddiant wyneb-yn-wyneb.

Yn hytrach na’n cyrsiau preswyl a’n cyngherddau wyneb-yn-wyneb arferol yr haf hwn, fe gynigom weithdai dros Zoom i’n agos i 400 o aelodau ifanc talentog o Gymru sy’n ffurfio ein hensembles cenedlaethol.  Roedd y rhain yn aelodau oedd wedi llwyddo i ennill lle yn ein hensembles trwy glyweliad, ond oedd wedi colli cyfle i ymuno gyda’n cyrsiau preswyl oherwydd Covid-19.

Rhwng Gorffennaf a Medi, cynhyrchodd CCIC 121 o sesiynau digidol ar gyfer ein haelodau cerdd, theatr a dawns - gyda chyfanswm o 1732 o bobl yn mynychu. Fe wnaeth 100% o’r aelodau a holwyd fwynhau’r gweithdai digidol, ac roedd 99% am inni gynhyrchu rhagor.

Roedd y cwrs digidol yn syniad perffaith yn lle cwrs preswyl CCIC. Wrth gwrs, allen ni ddim bod gyda’n gilydd mewn person, ond roedd y gweithdai a’r sgyrsiau lles yn ffordd wych i gysylltu gyda phobl allwch chi ddim eu gweld yn ystod y flwyddyn.” (Aelod CCIC)

Roedd hi’n ddiddorol iawn cael siarad gyda phobl wych o’r diwydiant. Fe ddysgais i lawer o sgiliau newydd fydd yn werthfawr dros ben pan af fi ymlaen, gobeithio, i weithio yn y celfyddydau.” (Aelod o ThCIC)

Mae uchafbwyntiau’r haf yn cynnwys:

  • Cyfarfu aelodau Theatr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru gyda’r cyn-aelodau adnabyddus Rakie Ayola (Harry Potter and the Cursed Child, On Bear Ridge), gymerodd ran mewn sesiwn holi ac ateb a chipolwg proffesiynol ar y diwydiant gydag aelodau, ac yn yr un modd Richard Elis (Eastenders, Tourist Trap, Y Gwyll / Hinterland) wnaeth arwain y noson gabaret hefyd. Ymunodd Tamara Harvey, Cyfarwyddwraig Artistig Theatr Clwyd, gyda’r aelodau ar-lein ar gyfer sesiwn cyngor hyfforddiant a thechneg ac fe wnaethant elwa hefyd o weithdai creu theatr a pherfformio gyda’r gyfarwyddwraig Hannah Noone, un o gyn-aelodau a wobrwywyd ThCIC Heledd Gwynn a Gwennan Mair, Cyfarwyddwraig Ymgysylltiad Creadigol Theatr Clwyd.  

  • Bu cyfle i’r tri ensemble cerddoriaeth ofyn cwestiynau a dysgu oddi wrth eu tri chyfarwyddwr cerdd - Carlo Rizzi (arweinydd CGIC, ac Arweinydd Llawryfog Opera Cenedlaethol Cymru), Tim Rhys-Evans (arweinydd CCIC, Sylfaenydd Only Men Aloud ac elusen Aloud Charity, a Chyfarwyddwr Cerdd CBCDC) a Philip Harper (arweinydd BPCIC, a Chyfarwyddwr Cerdd Band Cory)

  • Derbyniodd aelodau Dawns Genedlaethol Ieuenctid Cymru sesiynau Yoga Digidol rheolaidd trwy gydol yr haf, a chyfle i ymuno hefyd mewn dosbarth meistr ar-lein gyda’r coreograffydd a’r artist dawns James Cousins.

  • Am y tro cyntaf, bu modd inni gynnig sesiynau ar Dechneg Alexander, Soffroleg a Hyfforddi ar gyfer Perfformwyr i aelodau Côr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru, Cerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru a Band Pres Cenedlaethol Ieuenctid Cymru. Cafodd aelodau’r côr a’r band sesiynau cynhesu dyddiol gyda’i gilydd, a chafodd bawb ymarferion adrannol gyda thiwtoriaid offerynnol a chorawl blaenllaw - cyfle i ymarfer a chanu gyda’i gilydd yn ystod y cyfnod clo.

Yn bwysig iawn ar y cyfnod hwn, darparodd y sesiynau hyn hefyd waith i 55 o berfformwyr llawrydd, ar adeg pan oedd gan artistiaid hunangyflogedig o Gymru ddim neu fawr ddim gwaith oherwydd y pandemig.

Tra na allai’r sesiynau digidol hyn fyth lanw’r bwlch a adawyd gan gyrsiau preswyl yr haf, fe ddaeth y gweithdai â’n haelodau ynghyd ar adeg digon trawmatig i bobl ifanc, a helpu i’w cadw i berfformio a mwynhau’r celfyddydau yn ystod cyfnod pan oedd bron pob gweithgarwch arall i bobl ifanc ar stop.

Ein Cylluniau i’r Dyfodol

Mae’r adborth oddi wrth ein haelodau wedi bod yn bositif tu hwnt, felly byddwn yn ehangu’r gwaith yma trwy’r hydref ac ymlaen i 2021:

  • Rhwng nawr a haf 2021, byddwn yn cynnig dosbarthiadau meistr digidol misol yn rheolaidd ar draws ystod eang o gelfyddydau a meysydd o ddiddordeb i ensembles ar gyfer ein haelodau cyfredol ac aelodau newydd.

  • Byddwn yn lansio gweithdai ar-lein am ddim yn benodol ar gyfer pobl ifanc 16-18 oed o gymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol, yn enwedig y rheini sydd wedi eu heffeithio fwyaf gan effaith economaidd Covid-19

  • Ym mis Tachwedd byddwn yn lansio clwb darllen dramâu ar-lein Theatr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru. Bydd y sesiynau cyntaf yn rhan o Signal Fires: rhaglen ar draws y DU dan arweiniad cwmnïau theatr teithiol blaenaf y DU.   

  • Bydd ein holl gynlluniau ar gyfer 2021 yn cynnwys dysgu cyfunol, gan integreiddio gweithdai digidol gyda sesiynau wyneb-yn-wyneb gan sicrhau ymbellhau cymdeithasol. Os digwydd i ymbellhau cymdeithasol atal ein cyrsiau preswyl, bydd ein cynlluniau wrth gefn yn caniatáu inni gynnal cyrsiau digidol llawn, gan leihau’r tarfu fydd ar uwch-hyfforddiant perfformio’r bobl ifanc.

Previous
Previous

Penodi Anthony Matsena, cyn-aelod dawns Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru, i’r Bwrdd Ymddiriedolwyr

Next
Next

Cynllun Mentora BBC NOW