Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru i ddyfarnu cannoedd o fwrsariaethau ychwanegol, diolch i ariannu newydd gan Ymddiriedolaeth Leverhulme

Mae Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru (CCIC) wedi derbyn grant Ysgoloriaeth Celfyddydau o £165,448 oddi wrth Ymddiriedolaeth Leverhulme, fydd yn cefnogi cannoedd o bobl ifanc o gefndiroedd incwm-is i gymryd rhan yn ein hyfforddiant perfformio lefel uchel.

Bydd yr ariannu’n caniatáu i CCIC ehangu ei rhaglen bresennol o fwrsariaethau a’i rhaglenni datblygu yn sylweddol dros y pedair blynedd nesaf, fydd o fudd i 240 o bobl ifanc bob blwyddyn erbyn 2024-25.

Yn ogystal â chynnig gostyngiadau ffïoedd o hyd at 100% ar gyfer cyrsiau preswyl yr haf, bydd yr aelodau mwyaf anghenus hefyd yn derbyn grant bwrsariaeth i helpu i dalu costau teithio a chostau eraill. Eleni, am y tro cyntaf, cyflwynodd CCIC ildiad ffïoedd awtomatig i bobl ifanc o gartrefi sy’n derbyn Credyd Cynhwysol, Prydau Ysgol am Ddim neu Grantiau Dysgu llawn gan Lywodraeth Cymru, yn ogystal ag i aelodau sy’n ofalwyr ifanc, ceiswyr lloches neu rai sydd â phrofiad o fod mewn gofal.

Meddai Gillian Mitchell, Prif Swyddog Gweithredol CCIC, wedi’r cyhoeddiad: “Rydym yn falch dros ben inni dderbyn yr ariannu hwn oddi wrth Ymddiriedolaeth Leverhulme. Bydd yn ein helpu i barhau i sicrhau bod pob person ifanc yn gallu cael mynediad i’n hyfforddiant perfformio lefel uchel, waeth beth fo’u cefndir ariannol.

Ein nod yw sicrhau bod cael mynediad i fwrsariaeth mor rhwydd â phosibl - heb unrhyw ffurflenni hir neu alw am lawer o dystiolaeth. Rydym am leihau’r stigma a sicrhau bod yr ariannu yma’n helpu’r rheini y bwriedir iddo eu helpu - y cerddorion, actorion a dawnswyr ifanc mwyaf talentog o bob cymuned ledled Cymru.”

Mae’r grant hwn yn golygu mai Ymddiriedolaeth Leverhulme yw Prif Gefnogwr Cronfa Bwrsariaethau CCIC. Mae Cronfa Bwrsariaethau CCIC yn cael ei chefnogi’n flynyddol hefyd gan Gronfa Bwrsariaeth Neil a Mary Ellen Webber, a Ffrindiau Cerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru. Rydym yn ddiolchgar hefyd i’r holl unigolion sy’n cyfrannu at ein cronfa bwrsariaethau trwy ddebyd uniongyrchol - gallwch ymuno â nhw trwy ymweld â https://www.ccic.org.uk/cefnogwch-ni.

Dim ond un elfen yw ehangu’r cynllun bwrsariaethau yn ymdrech barhaus CCIC i weithio tuag at sector celfyddydau mwy teg ar gyfer perfformwyr ifanc. Mae CCIC hefyd yn ehangu ein rhaglen o brosiectau datblygu, sydd wedi eu dylunio i ddarparu hyfforddiant wedi ei dargedu ar gyfer pobl ifanc o gymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol, fel pobl ifanc ag anabledd, neu rai sydd o gymunedau sy’n dioddef hiliaeth.

Yn hwyrach yn 2021, bydd CCIC yn cyhoeddi argymhellion annibynnol cyfres o Dasgluoedd Amrywiaeth, sy’n cwmpasu cerddoriaeth, dawns a theatr, ynghyd â Chynllun Cydraddoldeb Strategol newydd diwygiedig. Bydd yr argymhellon a’r cynllun ill dau yn cynnwys targedau i gynyddu’r gyfran o gyfranogwyr ifanc sy’n disgrifio eu hunain fel B/byddar neu anabl, a’r gyfran o gyfranogwyr sy’n dod o gymunedau hilyddol.

Previous
Previous

Cydweithrediad newydd rhwng Theatr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru a Hijinx fel rhan o'r tymor Maniffest

Next
Next

Theatr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yn arddangos pedair ffilm fer newydd wrth i'r oedran bleidleisio ostwng i 16 mlwydd oed