Theatr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yn arddangos pedair ffilm fer newydd wrth i'r oedran bleidleisio ostwng i 16 mlwydd oed
Bydd aelodau o Theatr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru (ThCIC) yn helpu lansio cyfres o ffilmiau o fonologau byr am ddemocratiaeth ieuenctid ar ddydd Iau, wrth i bobl ifanc 16 a 17 oed ledled y wlad baratoi at bleidleisio am y tro cyntaf yn etholiadau Senedd Cymru.
Yn #Maniffest1617, comisiynodd Theatr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru fonologau newydd gan awduron blaenllaw o Gymru, sydd wedi cael eu ffilmio ar leoliad yng nghymuned pob aelod. Roedd y broses greadigol yn gydweithrediad rhwng yr aelodau ifanc a thîm o ysgrifenwyr, cyfarwyddwyr a gwneuthurwyr ffilm. Mae rhai o'r darnau yn gymeriadau ffuglennol ac eraill yn cael eu hadrodd yn y person cyntaf, ond mae'r holl ddarnau gorffenedig yn adlewyrchu meddyliau a theimladau'r aelodau ifanc am gynrychiolaeth ieuenctid a sut mae eu lleisiau'n cael eu clywed.
Dywedodd Megan, aelod o Theatr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru: "Roedd e'n bwysig i mi fod y teimlad o falchder a'r hunaniaeth mae fy nghartref yn rhoi i mi yn cael ei fynegi'n glir. Mae'n bryd i ni frwydro dros hawliau i'r bobl a'r lle sy'n fy ngwneud i yn fi”
Bydd y pedair ffilm gyntaf y gyfres yn cael eu dangos am y tro cyntaf ar AM ar 6 Mai, 7pm a bydd posib gwylio'r cyfan ar-lein ar ôl ar https://amam.cymru/maniffest. Dyma'r comisiynau a'r perfformwyr newydd sy'n rhan o'r prosiect:
Siân of Arc gan Mari Izzard - ysgrifenwyd ar gyfer Lauren, aelod ThCIC o Gaerdydd (wedi'i berfformio yn y Gymraeg a'r Saesneg) lle mae Lauren yn perfformio rhan lle mae’n lansio ei hymgyrch gwleidyddol yn 18 mlwydd oed ar gyfer bod yn Brif Weinidog Gymru.
Manifest for Megan gan Catherine Dyson - ysgrifenwyd ar gyfer Megan, aelod ThCIC o Dreorci (perfformiwyd yn Saesneg) yn ymateb telynegol i berthynas Megan gyda'i chymuned a'i hamgylchedd
The Future gan Matthew Bulgo - ysgrifenwyd ar gyfer Sam, aelod o ThCIC o Gastell-nedd (perfformiwyd yn Saesneg), perfformiad annwyl yn edrych yn ôl ar ei ddeffroad gwleidyddol;
Fama gan Manon Steffan Ros - a ysgrifenwyd ar gyfer Dyddgu o Fethesda (perfformiwyd yn Gymraeg), dyma adlewyrchiad doniol a theimladwy ar bŵer cymuned.
Yn ogystal â chynhyrchu’r comisiynau newydd, mae Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru wedi bod yn bartner allweddol yng Ngweithgor Ymgysylltu Etholiad y Gymdeithas Diwygio Etholiadol, gan helpu annog pobl ifanc i gofrestru i bleidleisio cyn y dyddiad cau ym mis Ebrill. Mae CCIC hefyd wedi cyd-weithio â'r Urdd a Senedd Cymru i helpu codi ymwybyddiaeth ymhlith holl aelodau ensemble CCIC, gan gynnwys cymryd rhan mewn ffug etholiadau ac ysgrifennu eu maniffesto eu hunain. Cefnogir y gwaith hwn gan Gronfa Democratiaeth y DU, menter Ymddiriedolaeth Diwygio Joseph Rowntree.
Dywedodd Gillian Mitchell, Prif Weithredwr Celfyddydau Ieuenctid Cenedlaethol Cymru: “Er bod rhai sialensiau’n codi wrth weithio yn ystod y pandemig, rydyn ni'n credu ei bod hi'n eithriadol o bwysig bod lleisiau ifanc yn cael eu clywed yn ystod yr etholiad hwn.
"Dim ond rhan o'r gwaith helaeth o helpu perfformwyr ifanc talentog ledled Cymru yw'r prosiect cyffrous hwn, gyda chomisiynau newydd yn y Gymraeg a'r Saesneg, rydyn ni'n datblygu ei lleisiau ac yn parhau â'u hyfforddiant artistig er gwaethaf yr aflonyddwch parhaus"
Y prosiect uchelgeisiol yma yw rhan gyntaf tymor Maniffest 2021 ThCIC, a lansiwyd heddiw. Bydd y rhaglen yma o waith yn cael ei ddangos trwy gydol y flwyddyn, ac yn dangos sut mae pobl ifanc yn gweld Cymru yn yr 21ain ganrif - gwlad sy'n fywiog, amrywiol a dwyieithog sydd â llais artistig cryf.
Ymhlith uchafbwyntiau eraill y tymor Maniffest hyd yma mae:
Maniffest yn Theatr Clwyd: Cynhyrchiad theatrig ddigidol wedi'i ddangos ar-lein a'i ysgrifennu gan Hanna Jarman ac wedi'i gyd-gynhyrchu gan Theatr Clwyd
Maniffest x Hijinx: Darn dyfeisiedig theatrig wedi'i greu yng Ngorllewin Cymru mewn partneriaeth â Hijinx, un o brif gwmnïau theatr gynhwysol Ewrop o artistiaid ag anableddau dysgu a / neu awtistig
Maniffest / Mindset: Cydweithrediad digidol rhwng ThCIC a Theatr Solomonic Peacock,s theatre, Malawi, yn darganfod sut mae gwneuthurwyr theatr o wahanol wledydd yn dod at ei gilydd i greu theatr yn defnyddio ei ffonau symudol. Cyflwynir y gwaith hwn mewn partneriaeth â Chyngor Prydain Cymru.
Cydweithrediad rhwng ThCIC a Theatr Ieuenctid yr Alban, wedi'i gyflwyno'n ddwyieithog yng Ngaeleg Albanaidd a Chymraeg.
Fel tymor, bydd Maniffest yn helpu rhoi llais i bob cymuned yn adlewyrchu amrywiaeth pobl ifanc yng Nghymru. Bydd hyn yn cynnwys cyflwyno theatr yn y Gymraeg a'r Saesneg. Wrth i Gymru ddechrau gwella o effeithiau COVID-19, mae'r prosiectau wedi'i chynllunio i fod yn ymarferol yn ddigidol ac wyneb yn wyneb, gan ddibynnu ar gyngor iechyd cyhoeddus fydd ar waith ar y pryd.