Cydweithrediad newydd rhwng Theatr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru a Hijinx fel rhan o'r tymor Maniffest

Yn ddiweddar, dychwelodd aelodau o Academi Hijinx a Theatr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru (ThCIC) i ddyfeisio theatr fyw wyneb-yn-wyneb, i gyd-greu gwaith cynhwysol newydd mewn partneriaeth.

Wrth ddod ynghyd wyneb-yn-wyneb am y tro cyntaf ers cychwyn y cyfyngiadau ymbellhau cymdeithaol, cymerodd yr 8 person ifanc ran mewn prosiect pedwar diwrnod yn llawn creadigedd a chrefft llwyfan. Dan arweiniad Ben Pettit-Wade (Cyfarwyddwr Creadigol, Hijinx), datblygodd aelodau’r cast ddarn gwreiddiol o theatr yn seiliedig ar syniadau a straeon a awgrymwyd gan yr aelodau eu hunain.

Cyn y cwrs yng Nghanolfan S4C Yr Egin yng Nghaerfyrddin, daeth y cast a’r timau creadigol at ei gilydd ar-lein dros Zoom i arbrofi, archwilio, a datblygu syniadau newydd ar gyfer y darn. Er mwyn sicrhau diogelwch pob un o’r cyfranogwyr a’r staff, cydymffurfiodd y prosiect yn llwyr gyda’r holl ganllawiau ymbellhau cymdeithasol ac iechyd cyhoeddus oedd yn ofynnol ar y pryd, gyda phrofion rheolaidd, ymbellhau cymdeithasol a mesurau glanhau ychwanegol yn eu lle trwy gydol y prosiect.

Y gwaith YaD newydd hwn, o’r enw Maniffest/Hijinx, yw’r prosiect diweddaraf sy’n rhan o dymor Maniffest ThCIC, archwiliad blwyddyn o hyd o hunaniaeth ieuenctid a democratiaeth yn y Gymru gyfoes. Dyma’r cam cyntaf mewn ffordd newydd o weithio i Theatr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru, yn cyfuno theatr fyw wyneb-yn-wyneb a gweithgareddau ar-lein, gan alluogi pobl ifanc i gydweithio gydag eraill ym mhob cwr o’r wlad.

Ar gydweithio gyda Theatr Hijinx, dywedodd Dafydd Evans, aelod o Theatr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru:

“Mae fy mhrofiad ar gwrs ThCIC / Hijinx yn un fydd yn aros gyda mi am amser hir. Roedd y broses o greu’r darn o theatr mor ddifyr; roedd y byrfyfyrio oedd yn rhan o’n gwaith rhannu yn y diwedd yn gymaint o hwyl, dwi’n credu ein bod yn aml iawn wedi anghofio y bydden nhw’n rhan o’r sesiwn rhannu. Fe ddysgais i gymaint am sut y gellir creu theatr mewn ffyrdd eraill ar wahân i gyda phen a phapur, a sut y gall fod yn rhyngweithiol ac yn brofiad ymgollol ar gyfer cynulleidfa. Dwi wedi creu perthnasau newydd gwych gydag aelodau a staff o ThCIC a Hijinx, ac alla’ i ddim aros am y cyfle nesaf inni gyd gwrdd eto.”

Dywedodd Gareth, aelod o Academi Hijinx:

“Roedd cwrdd â gweithio gyda’n gilydd wyneb-yn-wyneb, wedi misoedd o fod ar Zoom, jesd... ’does dim geiriau i fynegi sut dwi’n teimlo, oherwydd roedd yn brofiad mor anhygoel.”

Mae tymor Maniffest eleni’n gyfres o gynyrchiadau sy’n anelu i ddangos beth sy’n atgyfnerthu pobl ifanc, ac i arddangos Cymru fel y mae pobl ifanc yn ei gweld yn yr unfed ganrif ar hugain - gwlad ddwyieithog, amrywiol a bywiog gyda llais artistig cryf.

Mae uchafbwyntiau eraill tymor Maniffest yn cynnwys:

Maniffest 16/17: Cyfres o ffilmiau byrion yn cynnwys monologau gwreiddiol gan aelodau ThCIC, wedi eu creu gan ddramodwyr o bob cwr o Gymru mewn ymateb i hawl pobl ifanc 16 ac 17 oed i bleidleisio am y tro cyntaf. Mae’r pedair ffilm gyntaf ar gael i’w gwylio yma: amam.cymru/maniffest

Maniffest yn Theatr Clwyd: Cynhyrchiad theatr ddigidol ddwyieithog newydd sbon a gyflwynwyd ar-lein, ysgrifennwyd gan Hanna Jarman a’i gyd-gynhyrchu gyda Theatr Clwyd.

Maniffest / Mindset: Prosiect cydweithredol digidol rhwng ThCIC a Theatr Solomonic Peacocks, Malawi, yn archwilio sut all gwneuthurwyr theatr ifanc o wahanol wledydd ddod at ei gilydd i greu theatr gan ddefnyddio eu ffonau symudol. Trosglwyddir y gwaith hwn mewn partneriaeth gyda British Council Cymru.

Fel tymor, bydd Maniffest yn helpu i roi llais i bob cymuned, gan adlewyrchu amrywiaeth pobl ifanc yng Nghymru. Bydd hyn yn cynnwys cyflwyno theatr yn y Gymraeg a’r Saesneg. Wrth i Gymru ddechrau dod ati ei hun wedi effaith COVID-19, mae’r prosiectau wedi eu cynllunio i fod yn bosibl yn ddigidol ac wyneb-yn-wyneb, yn dibynnu ar y cyngor iechyd cyhoeddus sydd yn ei le ar y pryd.

Previous
Previous

Cyfle i gwrdd gyda Chynhyrchwyr dan Hyfforddiant newydd CCIC

Next
Next

Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru i ddyfarnu cannoedd o fwrsariaethau ychwanegol, diolch i ariannu newydd gan Ymddiriedolaeth Leverhulme