Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yn rhoi hwb i'w ymrwymiad i gefnogi perfformwyr ifanc Byddar ac anabl.

A diverse group of individuals posing for a photo in a classroom or office setting, appearing to be in a collaborative or learning environment.

Dechreuodd tîm staff Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru (CCIC) 2024 gyda dull newydd o gefnogi perfformwyr ifanc Byddar ac anabl ledled Cymru. Dros bedwar diwrnod, bu'r tîm staff cyfan yn gweithio gydag arbenigwyr celfyddydau cynhwysol Taking Flight i ddatblygu eu gallu i gefnogi, cysylltu ac ymgysylltu â phobl ifanc Fyddar ac anabl. Nod yr hyfforddiant oedd galluogi'r rhai ar draws y sefydliad i ddarparu lefel llawer uwch o gymorth pwrpasol i bob perfformiwr ifanc unigol, a sicrhau y gall ensembles a phrosiectau CCIC fod yn groesawgar i bob person ifanc.

Fe wnaeth y gyfres o weithdai arloesol a rhyngweithiol alluogi aelodau staff i gynyddu eu dealltwriaeth o gynwysoldeb a mynediad drwy hyfforddiant ymarferol, gyda chefnogaeth tîm gwych o hwyluswyr Taking Flight sydd â phrofiad byw o anabledd. Rhoddwyd sylw i arbenigeddau megis ymwybyddiaeth o ddallineb, ymwybyddiaeth Byddar a hyfforddiant cydraddoldeb penodol i’r sector yn fanwl, gan arwain at drafodaethau sy'n ysgogi'r meddwl fel man cychwyn ar gyfer newid parhaus a gwreiddio.

Yn dilyn yr hyfforddiant, dywedodd Evan Dawson, Prif Weithredwr CCIC: "Yn Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru, rydym ni’n gwybod bod creadigrwydd a chyfranogiad diwylliannol yn elfennau hanfodol o fywyd iach, hapus a chysylltiedig. Dylai pob person ifanc yng Nghymru gael cyfle i archwilio ei botensial artistig ei hun. Nid yw talent yn gwahaniaethu - felly mae'r cyfle hwn i weithio'n fanwl gyda Taking Flight wedi ein helpu i ddeall y prif rwystrau i bobl ifanc Fyddar ac anabl ymgysylltu â ni. Byddwn yn parhau i wneud popeth o fewn ein gallu i wneud Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yn gymuned groesawgar, gefnogol a gwirioneddol greadigol i bawb. Mae'n wirioneddol gyffrous."

Gyda 17% o aelodau ensemble CCIC yn nodi eu bod nhw’n F/fyddar neu'n anabl yn 2023, mae aelodau staff yn edrych ymlaen at gymhwyso'r hyfforddiant hwn yn uniongyrchol i'w gwaith ar draws ensembles, prosiectau a thu hwnt. Mae hyn yn cynnwys prosiectau fel y rhaglen bartneriaeth "Assemble" gyda National Youth Theatre GB, sydd wedi'i chynllunio i gefnogi pobl ifanc Byddar ac anabl trwy ymyriadau tymor hir mewn ysgolion nad ydynt yn ysgolion prif ffrwd.

Dywedodd Hope Dowsett, Cynhyrchydd Cyfranogiad a Dysgu yn CCIC: "Hoffem ddiolch yn fawr iawn i Taking Flight am gynnal cyfres o sesiynau hyfforddi mor ysgogol, craff a diddorol gyda ni. Fe wnaeth pob aelod o staff a gymerodd ran elwa a gwella eu gwybodaeth o weithio gyda phobl anabl, ac rydym ni bellach yn dechrau cymhwyso'r wybodaeth hon yn uniongyrchol i'n gwaith. Bydd hyn yn ein galluogi i ddarparu profiad hyd yn oed yn well i'r bobl ifanc anhygoel rydyn ni'n gweithio gyda nhw bob blwyddyn."

Dywedodd Steph Bailey-Scott, Swyddog Cyfranogiad, Mynediad a Chynhwysiant yn Taking Flight: "Roedd hi'n bleser pur cael cynnal ein sesiynau hyfforddi gyda thîm CCIC, roedd eu hangerdd am bopeth o ran mynediad a chynhwysiant mor wych i'w weld. Rwy'n credu bod y tîm hwn yn mynd i fynd yn bell iawn, ac rwyf mor gyffrous i’r holl bobl ifanc Fyddar/anabl a niwroamrywiol a fydd yn cymryd rhan yn eu holl brosiectau sydd ar y gweill."

Bydd CCIC yn parhau i adolygu ac adnewyddu ei ddarpariaeth hyfforddi yn y maes hwn, fel rhan o'n hymrwymiad parhaus i ddod â mwy o gyfleoedd artistig i fwy o bobl ifanc ledled Cymru o'r ystod ehangaf o gefndiroedd.

Os gallech chi neu eich sefydliad elwa o dderbyn hyfforddiant ymwybyddiaeth anabledd gan Taking Flight, cysylltwch â steph@takingflighttheatre.co.uk.

Previous
Previous

Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yn helpu pobl ifanc i wneud eu marc ar y sîn gerddoriaeth Gymraeg.

Next
Next

Cydweithrediad cenedlaethol newydd i gryfhau dawns ieuenctid yn Nghymru