DIGWYDDIADUR

NYOW75

Dathlu 75 mlynedd o Gerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru

Mae grŵpiau siambr yn perfformio premieres byd-eang gan gyfansoddwyr Cymreig, wrth i aelodau a chyn-aelodau CGIC ddod i’r llwyfan gyda’i gilydd i ddathlu pen-blwydd y gerddorfa’n 75 oed.

Mae’r cyngerdd digidol hwn o gerddoriaeth newydd, a recordiwyd yn arbennig, yn cynnwys premieres byd-eang gan rai o gyn-aelodau CGIC, yn cynnwys Syr Karl Jenkins, Patrick Rimes a Hilary Tann.

Ymunwch â ni ar gyfer y cyngerdd pen-blwydd arbennig hwn, wrth i gerddorfa genedlaethol ieuenctid hynaf y byd droi’n 75 oed.