"Agos iawn at fy nghalon" Michael Sheen sy'n disgrifio ei gyfnod yn Theatr Genedlaethol Ieuenctid Cymru fel hwb enfawr i'w yrfa

Cyn cwrs preswyl 2019 Theatr Genedlaethol Ieuenctid Cymru, mewn partneriaeth â Theatr Clwyd, cafodd aelodau'r ensemble neges o anogaeth arbennig iawn gan gyn-aelod o'r Theatr, sef yr amryddawn Michael Sheen.

Yn ddiweddar, roedd y Cymro a'r actor yng Nghaerdydd gan ei fod yn un o brif noddwyr Cwpan y Byd Digartref, a thra roedd yma, dymunodd bob lwc i'r aelodau newydd ar eu taith.

Wrth fyfyrio ar ei gyfnod fel cyn-aelod, cyflwynodd seren cyfres Good Omens ei hun fel

"Michael Sheen, cyn-aelod o Theatr Genedlaethol Ieuenctid Cymru". Dywedodd fod y cyfnod gyda'r Ensemble yn "agos iawn at fy nghalon", ac esboniodd mai "dyna oedd y tro cyntaf i fi ddod i Gaerdydd" o'i dref enedigol ym Mhort Talbot. 

"Roedd cyfarfod yr holl bobl yma o bob cwr o Gymru... yn agoriad llygad i bob math o bethau.  Fe ges i'r profiad mwyaf anhygoel yn gweithio gyda grŵp o bobl; pobl fel fi oedd yn angerddol am yr hyn roedden ni'n ei wneud. Roedd yn hwb enfawr i fi wneud yr hyn es i ymlaen i'w wneud wedyn. Felly cyfnod sy'n agos iawn at fy nghalon"

Previous
Previous

Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yn creu llwybrau gyrfa newydd cynhwysol i mewn i reoli’r celfyddydau