Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yn Dathlu Llwyddiant yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mhontypridd

Mae’r Eisteddfod Genedlaethol ym Mhontypridd wastad wedi bod yn ddathliad o ddiwylliant, creadigrwydd ac ysbryd cymunedol Cymru, a doedd eleni ddim yn eithriad. Fel bob amser, roedd y digwyddiad yn arddangosfa fawreddog o dalentau gorau'r genedl, ac ymhlith y rhai a ddaeth i'r amlwg roedd nifer o aelodau a chyn-fyfyrwyr Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru (CCIC). Roedd eu perfformiadau a’u llwyddiannau rhyfeddol yn tanlinellu llwyddiant a dylanwad parhaus CCIC wrth lunio’r genhedlaeth nesaf o artistiaid Cymreig.

Ymhlith y llu o aelodau a chyn-fyfyrwyr a welsom ar y Maes roedd Kellie-Gwen Morgan o Theatr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru (ThCIC), a syfrdanodd y beirniaid ac ennill yn y gystadleuaeth ddeialog gyda’u partner actio. Uchafbwynt arall oedd cynrychiolaeth gref aelodau CCIC yn y cystadlaethau offerynnol. Cymerodd llawer o aelodau Band Pres Cenedlaethol Ieuenctid Cymru (BPCIC) ran gyda Band Ieuenctid De Cymru a Band Pres Ieuenctid Beaumaris.

Yn y categori corawl, fe wnaeth Côr Taflais, oedd yn cael ei gyd-arwain gan aelod o Griw Creu Newid CCIC ac aelod o Gôr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru Caradog Jones, ennill y gystadleuaeth 'Côr Newydd i’r Eisteddfod' a ffurfiwyd yn arbennig ar gyfer yr Eisteddfod eleni. Mae'r cyflawniad hwn yn adlewyrchu'r gwaith caled a'r cydweithio sydd wrth galon ethos CCIC, gan ddangos sut mae ein haelodau'n cyfrannu at dirwedd ddiwylliannol ehangach Cymru.  Roeddem hefyd wrth ein bodd i weld aelodau Côr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru Branwen Medi Jones yn dod yn ail yn y gystadleuaeth unawd “alaw werin” a’r gystadleuaeth unawd o sioe gerdd, ynghyd ag Erin Thomas, wnaeth greu argraff wrth ddod yn ail yng nghystadleuaeth yr unawd mezzo/contralto/uwchdenor. Fodd bynnag, nid yr aelodau presennol yn unig y gwnaethom ni eu gweld. Braf oedd gweld cyn-fyfyrwyr Côr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru, Caitlin Hockley a Rhys Archer yn dod yn ail yn y cystadlaethau unawd soprano ac unawd tenor yn eu tro yn ogystal â Nathan James Dearden yn hawlio Tlws y Cyfansoddwr.

Dywedodd Matthew Jones, Uwch Gynhyrchydd CCIC: “Fel bob amser, roedd yr Eisteddfod Genedlaethol yn ddathliad gwych o ddiwylliant cyfoethog Cymru. O ystyried bod y bywyd diwylliannol hwn yn teimlo dan fygythiad i ryw raddau ar hyn o bryd, roedd yn wych bod yn rhan o ddathliad mor fywiog. Llongyfarchiadau i’n holl aelodau a chyn-fyfyrwyr wnaeth gymryd rhan, perfformio ar y llwyfan a mwynhau llwyddiant a hyd yn oed weithio y tu ôl i’r llenni. Roedd yn hyfryd cerdded o gwmpas y Maes a gweld cymaint o wynebau cyfarwydd, cyfeillgar!”

Yn ogystal â'r buddugoliaethau hyn, cafodd cerddorion cerddorfaol CCIC effaith arwyddocaol hefyd. Ffurfiodd pump o chwaraewyr llinynnol presennol Cerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru (CGIC) yr ensemble ar gyfer perfformiad siambr hyfryd o Requiem Fauré yng Nghanolfan Gelfyddydau'r Muni ar ei newydd wedd.

Wrth i’r Eisteddfod ddirwyn i’w therfyn, gwelsom offerynwyr taro CGIC yn ymuno â’n chwaraewyr llinynnol i chwarae yn y cyngerdd clo, gan berfformio ddarn newydd a ysbrydolwyd gan yr Anthem Genedlaethol. Roedd y perfformiad hwn yn ddiweddglo teilwng i wythnos sydd wedi amlygu dawn ac undod cymuned CCIC.

Previous
Previous

Theatr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yn Cyhoeddi Eu Cynhyrchiad Teithiol 2024 Dal Gafael / Hold On mewn Partneriaeth â Fio a Theatr Genedlaethol Cymru

Next
Next

Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru ac ABRSM yn cydweithio i hybu addysg gerddorol yng Nghymru