Datganiad ar y cynllun arfaethedig i gau Adran Gerdd Prifysgol Caerdydd
Mae’r cynllun arfaethedig i gau adran gerdd Prifysgol Caerdydd yn ergyd fawr i dirwedd ddiwylliannol ac addysgiadol Cymru.
Dywedodd Evan Dawson, Prif Weithredwr, Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru:
“Mae gan adran gerdd Prifysgol Caerdydd hanes balch, wedi ei gydblethu â datblygiad cerddoriaeth Cymru, yn enwedig trwy ddylanwad yr Athro Alun Hoddinott. Fel cyn-bennaeth yr adran, bu Hoddinott yn allweddol wrth ddatblygu’r sefydliad yn bwerdy ar gyfer addysg a dyfeisgarwch cerddorol, gan feithrin doniau megis Karl Jenkins a llu o gerddorion eraill sydd wedi cyfoethogi ein tirwedd ddiwylliannol. Bu’r adran hon yn fagwrfa ar gyfer nifer o gyfansoddwyr, cerddorion ac ysgolheigion adawodd argraff barhaol ar y celfyddydau yng Nghymru ac yn fyd-eang. Mae nifer o aelodau presennol Cerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru, Côr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru a Band Pres Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yn astudio yno.
Rydym yn dystion i dueddiad pryderus ble mae’r celfyddydau, ac yn enwedig gerddoriaeth, yn cael eu dibrisio’n systematig trwy doriadau ariannol a chau sefydliadau. Mae’r penderfyniad hwn gan Brifysgol Caerdydd yn bygwth dyfodol uniongyrchol ein myfyrwyr presennol, y staff a’r gymuned gerddorol ehangach – tra hefyd yn peryglu iechyd diwylliannol tymor hir ein cenedl.
Mae addysg cerddoriaeth yn fwy na dim ond gweithgaredd academaidd – mae’n rhan sylfaenol o hunaniaeth ein cymuned, sy’n cynnig llwybrau mynegiant, datblygiad personol a chyfleoedd proffesiynol ar gyfer ein pobl ifainc. Byddai cau’r adran hon yn cyfyngu’n ddifrifol ar y llwybrau sydd ar gael ar gyfer y rheini sy’n anelu i gyfrannu at dreftadaeth gerddorol cyfoethog Cymru.
Yn ein datganiad "Argyfwng Celfyddydau Ieuenctid" diweddar, fe wnaethom danlinellu sut y mae tanariannu difrifol y celfyddydau ieuenctid yn gwarafun cyfleoedd i bobl ifanc dirifedi, gan effeithio ar eu hiechyd, eu haddysg a llesiant cymunedol. Mae’r penderfyniad hwn gan Brifysgol Caerdydd yn dangos yn blaen yr union faterion yr ydym wedi bod yn ymgyrchu yn eu cylch. Mae’n hollbwysig inni gydnabod a buddsoddi yn y celfyddydau fel elfen sy’n anhepgor ar gyfer gwead ein cymdeithas.
Rydym am bwyso ar Brifysgol Caerdydd i ailystyried eu penderfyniad. Mae rhaid inni gyd weithredu ar fyrder i sicrhau dyfodol ble caiff pob person ifanc yng Nghymru gyfle i elwa o’r celfyddydau, er mwyn sicrhau bod gwaddol diwylliannol ein cenedl, gafodd ei meithrin yn y gorffennol gan bobl fel Alun Hoddinott, yn parhau i ffynnu am genedlaethau i ddod.”
Mae CCIC mewn cysylltiad â'n haelodau niferus o Gerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru, Côr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru a Band Pres Cenedlaethol Ieuenctid Cymru sy'n astudio ym Mhrifysgol Caerdydd ar hyn o bryd.
"Ar hyn o bryd rydw i yn fy ail flwyddyn israddedig ym Mhrifysgol Caerdydd, yn astudio cerddoriaeth. Mae'r cynnig i gau'r Ysgol Cerddoriaeth wedi effeithio'n fawr ar staff a myfyrwyr. Rydym i gyd yn ansicr sut mae'r dyfodol yn edrych nawr, ond rydym yn gwybod y byddwn yn teimlo effeithiau'r cau dros y flwyddyn nesaf. Mae'r ffaith bod y brifddinas yn colli ei hysgol gerddoriaeth yn ergyd enfawr."
Aelod CGIC
"Fel myfyriwr trydedd flwyddyn ym Mhrifysgol Caerdydd, mae'r Ysgol Cerddoriaeth wedi rhoi llawer o brofiadau gwerthfawr i mi drwy gydol fy nhaith. Mae'n newyddion torcalonnus y gallai ein cwrs cerddoriaeth yng Nghaerdydd dod i ben, ac yn sioc i bawb efallai na fydd myfyrwyr y dyfodol yn cael yr un cyfle hwn."
Aelod CGIC