Ein Cyngerdd Hamddenol yng Nghanolfan yr Holl Genhedloedd

Ar 31 Awst, bydd Cerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru yn perfformio cyngerdd hamddenol, wedi'i gynllunio i fod yn gynhwysol a chroesawgar ar gyfer pob oedran ac anghenion mynediad.

Yn y canllaw hwn, gallwch ddarganfod mwy am beth i'w ddisgwyl, a beth fydd gennym ni ar waith ar y diwrnod i'ch helpu i fwynhau'r cyngerdd.

Beth yw Cyngerdd Hamddenol?

Cyngerdd sy'n addas ar gyfer pob cynulleidfa, ni waeth eu hoedran na'u hanghenion mynediad.

Mae gan y lleoliad seddi hyblyg gyda digon o le ar gyfer cadeiriau olwyn, cerbydau symudedd neu bramiau/bygis.

Bydd dau le ymlacio ar gyfer unrhyw un sy'n teimlo wedi eu llethu, wedi cyffroi’n fawr neu a fyddai'n elwa o amser tawel ar unrhyw adeg yn ystod y cyngerdd.  Mae'r rhain wedi'u lleoli yn y cyntedd ac mewn ystafell ar wahân lle gellir trosglwyddo'r cyngerdd drwy sgrin. Os ydych chi angen unrhyw gefnogaeth, bydd aelod o staff CCIC mewn crys-t coch yn gallu eich cyfeirio i'r mannau hyn.

Bydd y cyngerdd hwn yn fyrrach na chyngerdd cerddorfaol nodweddiadol. Bydd yn cynnwys elfennau o brif raglen gyngerdd y Gerddorfa a bydd yn para tua 1awr 15munud.

Bydd polisi drws agored ac mae aelodau'r gynulleidfa yn rhydd i fynd a dod a chyfathrebu fel maen nhw angen.

Ni fydd aelodau'r gerddorfa yn gwisgo’r wisg gyngerdd ffurfiol, yn hytrach byddant yn gwisgo eu dillad eu hunain.


Y Gerddoriaeth

Five Windows gan Niamh O’Donnell

Ysgrifennwyd y darn hwn gan gyfansoddwr ifanc o Aberystwyth o'r enw Niamh (i’w ynganu Neeve) O'Donnell. Ysbrydolwyd cerddoriaeth Niamh gan wahanol baentiadau gan yr artistiaid George Braque a Wassily Kandinsky. Mae'r gerddoriaeth, wedi'i rhannu'n bum adran yn disgrifio'r hyn mae Niamh yn ei weld a'i deimlo wrth edrych ar y paentiadau. Gallwch ddod o hyd i recordiad o'i darn yma: Niamh O'Donnell; Five Windows - recordiad

The Firebird Suite gan Igor Stravinsky

Bale a ysgrifennwyd gan y cyfansoddwr Rwsiaidd Igor Stravinsy ym 1910 oedd The Firebird. Yn ddiweddarach, creodd Stravinsky dair cyfres o'r gerddoriaeth bale ar gyfer perfformiadau cyngerdd. Y gerddoriaeth y byddwch chi'n ei glywed yn y cyngerdd hwn yw symudiadau dethol o'r gyfres a ysgrifennwyd ym 1945.

Mae thema'r gerddoriaeth yn seiliedig ar chwedlau gwerin Rwsiaidd, a byddwch yn clywed Stravinsky yn darlunio gerddi hudolus, tywysogion drwg, cariad ac wrth gwrs y Firebird hudolus!

Romeo a Juliet gan Sergei Prokofiev

Ysgrifennodd cyfansoddwr Rwsieg arall, Sergei Prokofiev, y bale Romeo a Juliet yn seiliedig ar ddrama William Shakespeare ym 1940. Bydd y gerddorfa yn perfformio symudiadau dethol o'r bale yn y perfformiad hwn, gan gynnwys un symudiad y bydd unrhyw un sy'n gwylio The Apprentice, yn ei adnabod yn syth!

Mae pob symudiad yn disgrifio elfen wahanol o stori enwog Shakespeare am y cariadon trist eu tynged hyn yn hyfryd mewn cerddoriaeth.


Ar y Diwrnod

Bydd y cyngerdd yn dechrau am 3.30pm, ond byddwn yn agor y drysau o 2.30pm, felly mae croeso i chi ddod yn gynnar ac ymgyfarwyddo â gofod y cyngerdd a'r lleoliad.

Bydd gennym ni staff ar gael i helpu gyda pharcio a’ch arwain chi i'r lleoliad.

Bydd y Gerddorfa'n dechrau gwneud eu ffordd i ardal y llwyfan o tua 3.15pm ac yn treulio peth amser yn chwarae eu hofferynnau i gynhesu'n barod ar gyfer dechrau'r cyngerdd.

Oherwydd amgylchiadau annisgwyl, ni fydd y cyngerdd hamddenol hwn yn cynnwys dehongliad BSL mwyach. Ymddiheurwn am yr anghyfleustra y gallai hyn ei achosi.

Y Lleoliad

Mae Canolfan yr Holl Genhedloedd yn lleoliad cwbl hygyrch heb unrhyw ymylon mwy nag 1cm i fynd o amgylch yr adeilad cyfan.

Bydd yr holl weithgarwch ar gyfer y cyngerdd hwn yn digwydd ar y llawr gwaelod, ond mae lifft i'r llawr cyntaf os oes angen.

Mae toiledau hygyrch ar gael ar y llawr gwaelod.

Maes Parcio

Mae 260 o leoedd parcio am ddim mewn dau faes parcio cyfagos, gyda digon o barcio hygyrch ar gael. Mae gennym ni hefyd y gallu i ddynodi lleoedd parcio hygyrch ychwanegol os oes angen.

Bydd parcio hygyrch yn cael ei ddarparu ym maes parcio'r Gorllewin, sy'n hygyrch drwy Sachville Avenue, o Heol yr Eglwys Newydd.

Teithio i'r Lleoliad

Mae Canolfan yr Holl Genhedloedd mewn safle da ar gyfer gyrru ac mae 260 o leoedd parcio am ddim i fynychwyr mewn dau faes parcio cyfagos.

Gallwch gyrraedd Maes Parcio y Gorllewin trwy Sachville Avenue oddi ar Heol yr Eglwys Newydd. Dyma'r lleiaf o'r ddau faes parcio ac felly mae'n llenwi'n gyflymach. Bydd y maes parcio hwn yn cael ei ddefnyddio ar gyfer parcio hygyrch ac felly rydym ni’n annog unrhyw un nad oes angen parcio hygyrch i ddefnyddio maes parcio'r Dwyrain yn lle hynny.

Gallwch gyrraedd Maes Parcio y Dwyrain yn syth oddi ar ffordd ymadael yr A48 i mewn i Gaerdydd ac mae'n cynnig dros 200 o lefydd.

Cysylltwch â ni

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau yn ymwneud â'r cyngerdd hwn, yna cysylltwch â ni ar nyaw@nyaw.org.uk neu ffoniwch ni ar 029 2280 7420 a byddwn yn falch o helpu.

Previous
Previous

Haf o Gyngherddau Syfrdanol gan Gerddorion Ifanc Gorau Cymru

Next
Next

Aelodau Theatr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yn mynd tu ôl i'r llenni gyda 'Nye' y National Theatre a Chanolfan Mileniwm Cymru