Theatr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru a Solomonic Peacocks Theatre, Malawi yn cydweithio ar brosiect ffilm rhyngwladol newydd

Bydd dau gwmni theatr ieuenctid, sydd 5000 o filltiroedd oddi wrth ei gilydd, yn cyflwyno ffilm newydd yng Ngŵyl Pasg Solomonic Peacocks Theatre ym mis Ebrill – wedi ei chreu gan y perfformwyr ifanc fel rhan o brosiect cydweithredol rhyngwladol blwyddyn o hyd. 

Mae’r prosiect, a gynhaliwyd yn ddigidol dros Zoom a WhatsApp, wedi cynnwys gweithdai creadigol rheolaidd ar-lein yn archwilio llais ieuenctid a’u grymuso – a darganfod y pethau sydd gan bobl ifanc yn y ddwy wlad yn gyffredin. 

Mae’r ffilm deirieithog – a berfformir yn Gymraeg, Chichewa a Saesneg – yn gerdd lafar gydweithredol a berfformir gan y crewyr a’i ffilmio ar ffonau symudol, un o’r technolegau cyffredin sy’n uno pobl ifanc o amgylch y byd. Un agwedd bwysig o’r prosiect oedd sicrhau bod y bobl ifanc wrth galon creu’r gwaith – gyda’r grŵp yn penderfynu canolbwyntio ar y themâu o rymuso merched a menywod ifanc, a’u cysylltiad cyffredin o ddwyieithrwydd a’u hawydd i rannu eu bywydau bob dydd a’u diwylliant yn ddigidol.

Ynghyd â’r premiere yng Ngŵyl Pasg SPT ar Ddydd Gwener 8 Ebrill, bydd ffilm ddogfen yn cael ei rhyddhau’n dangos creu’r ffilm a sut y mae’r prosiect wedi effeithio ar y bobl ifanc oedd yn rhan o’r prosiect. Yn y DU, caiff y ffilm ei lansio ar yr un pryd ar blatfform AM, ar www.amam.cymru/nyaw

Ariennir y prosiect trwy gronfa ‘Mynd yn Ddigidol’ y British Council Cymru, a ddyluniwyd i hwyluso partneriaethau digidol rhwng cwmnïau celfyddydau yng Nghymru gyda phobl ifanc yn Affrica Is-Sahara.

Mae’r prosiect a’i sesiynau wythnosol wedi eu cyd-gynhyrchu gan y ddau gwmni, ac mae hefyd wedi galluogi hwyluswyr a chynhyrchwyr theatr ifanc i ddysgu oddi wrth ei gilydd, gan alluogi gwir gyfnewidfa ddiwylliannol. 

Fe wnaeth Dawn Bowden, Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon Llywodraeth Cymru, longyfarch y bartneriaeth: “Mae’n wych gweld y cydweithredu rhyngwladol hwn rhwng Theatr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru a Solomonic Peacocks Theatre, Malawi.  Mae’r gyfnewidfa ddiwylliannol gyffrous hon rhwng perfformwyr ifanc, ar thema grymuso ieuenctid, wir yn gwneud y gorau o’r cyfryngau digidol a phartneriaeth ryngwladol.

“Mae ffurfio’r math yma o gysylltiadau rhyngwladol yn rhan allweddol o’n strategaeth gelfyddydol yng Nghymru – ac mae’n galonogol gweld pobl ifanc yng Nghymru’n ymateb trwy ffocysu ar yr hyn sydd gennym yn gyffredin, yn hytrach na’r hyn sy’n ein rhannu. Rwy’n edrych ymlaen at wylio’r ffilm orffenedig yn fuan iawn a gweld yr hyn y mae’r bobl ifanc wedi’i greu.”

Meddai Gillian Mitchell, Prif Weithredwraig Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru: “Mae wedi bod yn wych gallu cyflwyno’r gyfnewidfa ddiwylliannol hon i aelodau ThCIC.  Fel mae’r prosiect yn arddangos yn gwbl glir, mae mwy o elfennau’n dod â phobl ifanc at ei gilydd o amgylch y byd nac sy’n eu gwahanu.  Rydym yn ddiolchgar i British Council Cymru am ariannu’r prosiect, sydd wedi hwyluso’r cyfnewid syniadau hyn a bydd yn gadael etifeddiaeth barhaol yn ein dwy wlad.

Dywedodd Natasha Nicholls, Rheolwraig Prosiect Celfyddydau’r British Council Cymru:  “Rydym yn falch iawn i fod yn cefnogi’r bobl ifanc o Gelfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru a Solomonic Peacocks Theatre yn Malawi i archwilio theatr ddigidol a chyfnewidfa ddiwylliannol.

“Mae ‘Mynd yn Ddigidol’ yn rhaglen gan y British Council Cymru i alluogi partneriaid o Gymru ac Affrica Is-Sahara i gysylltu’n ddigidol, datblygu perthnasau newydd ac archwilio ffyrdd newydd o weithio.  Mae’r rhaglen wedi ei chynnal yng Nghymru ac 8 gwlad ar draws Affrica Is-Sahara, gan gwmpasu dawns, theatr, llythrennedd, ffilm a chelfyddydau gweledol.”

Dywedodd McArthur Matukuta, Cyfarwyddwr Gweithredol’r Solomonic Peacocks Theatre“Er bod pandemig Covid-19 wedi atal cysylltiad corfforol, mae grym celfyddyd wedi chwalu’r rhwystr drwy dechnoleg ddigidol. Mae wedi profi i fod yn un o’r cyfryngau gorau er mwyn parhau cyfnewid a rhannu sgiliau ymysg pobl Ifanc.”

Bydd y ffilm ar gael i’w gwylio, am ddim, ar www.amam.cymru/nyaw o Ddydd Gwener 8 Ebrill. 

Previous
Previous

Rhaglen Momentwm Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yn cydweithio â Deuawdau Ballet Cymru y Pasg hwn

Next
Next

Cyhoeddi mentoriaid Cerdd y Dyfodol 2022