NEWYDDION

Charlotte Moult Charlotte Moult

Cefnogi Chwaraewyr Llinynnol Ifanc Ledled Cymru

Mae “Llinynnau Ynghlwm”, rhaglen Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru (CCIC) yn parhau i gael ei rhoi ar waith ledled Cymru.

Mae “Llinynnau Ynghlwm”, rhaglen Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru (CCIC) yn parhau i gael ei rhoi ar waith ledled Cymru. Yn ystod mis Chwefror, fe groesawyd dros 50 o chwaraewyr llinynnol ifanc i Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, Caerfyrddin, ar gyfer diwrnod dwys ac uchelgeisiol o ddysgu cerddorol.

Mae’r fenter strategol hon ar gyfer cerddorion ifanc wedi’i hanelu at y rheiny sydd wedi cyflawni Gradd 5 ac yn uwch, ac fe gyflwynir mewn cydweithrediad â Gwasanaeth Cerdd Powys. Mae Llinynnau Ynghlwm yn cynnig gofod datblygu cyfeillgar i gerddorion ifanc er mwyn cyfoethogi eu sgiliau a’u profiad cerddorol, tra’n gwneud ffrindiau newydd.

Drwy gydol y gweithdy, a gynhaliwyd ddydd Sadwrn 15 Chwefror 2025, fe gydweithiodd y cyfranogwyr yn agos gyda thîm Cerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru (CGIC), gan ganolbwyntio ar repertoire llinynnol a thechnegau chwarae, a mireinio’u sgiliau. Fe gefnogwyd y grŵp gan diwtoriaid o wasanaethau cerdd lleol a grŵp o Fentoriaid Cymheiriaid – cerddorion ifanc o CGIC.

Roedd y gweithdy hefyd yn cynnwys sesiwn werthfawr am broses glyweliadau ar gyfer ensembles cerdd Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru. Arweiniwyd y sesiwn holi ac ateb gan Matthew Jones, Uwch Gynhyrchydd a Dirprwy Brif Weithredwr Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru; tiwtoriaid sy’n rhan o baneli clyweliadau; a Mentoriaid Cymheiriaid sydd â phrofiad uniongyrchol o glyweliad.

Fe orffennodd y dydd gyda pherfformiad arddangos. Fe berfformiodd y cerddorion ifanc y repertoire yr oeddent wedi bod yn gweithio arno, o Mozart i Morfydd Owen. Roedd safon uchel y perfformiadau’n adlewyrchu ymroddiad a gwaith caled bob un o’r cyfranogwyr drwy gydol y digwyddiad.


Dwedodd Matthew Jones: “Dyma ein hail flwyddyn o gynnal Llinynnau Ynghlwm, ac fe roedd yn wych gweld y dalent ifanc sy’n datblygu yng nghanolbarth Cymru a thu hwnt. Rydym ni’n gobeithio y bydd rhai o’r cerddorion a fu’n rhan o’r digwyddiad wedi’u hysbrydoli ac yn anelu at glyweld ar gyfer ein hensembles Ieuenctid Cenedlaethol yn y blynyddoedd sydd i ddod.”


“Roedd hwn yn gyfle wirioneddol wych. Diolch unwaith eto am yr hyn rydych yn ei wneud i’n plant ac i’r celfyddydau yng Nghymru.”  - Rhiant cyfranogwr Llinynnau Ynghlwm

 

“Diolch yn fawr am gynnal y digwyddiad, dw i’n gobeithio y bydd digwyddiadau rheolaidd eraill tebyg i chwaraewyr llinynnol ifanc yn Ne Cymru”  - Rhiant cyfranogwr Llinynnau Ynghlwm


Mae CCIC yn ddiolchgar i Ymddiriedolaeth Elusennol Colwinston,  A&B Cymru, ABRSM, Sefydliad Paul Hamlyn, yn ogystal â’i cyllidwyr craidd, Cyngor Celfyddydau Cymru a Gwasanaeth Cerdd Cenedlaethol – mae eu cefnogaeth wedi gwneud Llinynnau Ynghlwm 2025 yn bosib.

 


“Llinynnau Ynghlwm” 2025 o gyfranogwyr o bob rhan o Gymru ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant

Read More
Tom Kemp Tom Kemp

Ieuenctid Cymru i ymddangos ym Mand Pres Ewrop 2025

Mae'r tîm yn Band Pres Cenedlaethol Ieuenctid Cymru (BPCIC) yn falch iawn wrth i dri o'n cerddorion ifanc rhagorol baratoi i gynrychioli Ewrop ar un o'r llwyfannau mwyaf mawreddog i gerddorion pres ifanc. 

Mae'r tîm yn Band Pres Cenedlaethol Ieuenctid Cymru (BPCIC) yn falch iawn wrth i dri o'n cerddorion ifanc rhagorol baratoi i gynrychioli Ewrop ar un o'r llwyfannau mwyaf mawreddog i gerddorion pres ifanc. 

Mae Solomon (Sol) Maghur, sy'n chwarae'r Cornet, Gwen Howe ar y Trombôn Bas, a Sean Linton ar y Tiwba, wedi'u dewis i ymuno â Band Pres Ieuenctid Ewrop (EYBB) 2025. Bydd y triawd yn teithio i Stavanger, Norwy, ym mis Mai eleni i berfformio ochr yn ochr â chwaraewyr pres ifanc gorau Ewrop mewn wythnos o greu cerddoriaeth wefreiddiol a chyfeillgarwch. 

Mae cwrs preswyl EYBB yn gwireddu breuddwyd i lawer o gerddorion pres uchelgeisiol. I Sol, Gwen, a Sean, mae'n garreg filltir arwyddocaol yn eu teithiau cerddorol. Yn ystod yr wythnos, byddant yn ymarfer ac yn perfformio dan arweiniad arweinwyr o'r radd flaenaf, gan arwain at berfformiadau ysblennydd ym Mhencampwriaethau Band Pres Ewrop. Mae'r cyngherddau hyn, sy'n cynnwys Cyngerdd a Seremoni Agoriadol y Gala Mawr, yn addo bod yn uchafbwyntiau bythgofiadwy. 

Dywedodd Matthew Jones, Uwch Gynhyrchydd BPCIC: “Mae Sol, Gwen a Sean yn cynrychioli'r gorau o Fand Pres Cenedlaethol Ieuenctid Cymru. Mae cael eu dewis ar gyfer Band Pres Ieuenctid Ewrop yn gyflawniad rhyfeddol ac yn adlewyrchiad o'u talent a'u hymroddiad eithriadol. Rydym ni wrth ein bodd o'u gweld yn cymryd y cam nesaf hwn ar eu taith gerddorol ac rydym yn hyderus y byddant yn ysbrydoli ac yn creu argraff ar gynulleidfaoedd yn Norwy a thu hwnt. 

 Mae'r EYBB, a sefydlwyd yn gynnar yn y 2000au, nid yn unig yn ddathliad o dalent gerddorol ond yn gyfle unigryw i gerddorion ifanc gysylltu, cydweithio a gwthio ffiniau eu celfyddyd. Bydd Sol, Gwen, a Sean yn ymuno â chyfoedion o bob rhan o Ewrop, gan greu cerddoriaeth sy'n croesi ffiniau ac yn gadael argraff barhaol. 

 Er bod y sêr ifanc hyn yn paratoi ar gyfer eu hantur Ewropeaidd, mae Band Pres Ieuenctid Cenedlaethol Cymru hefyd yn paratoi ar gyfer ei raglen gyffrous yn 2025. Bydd yr ymarferion yn dechrau ym mis Ebrill, ac yna bydd cwrs preswyl wythnos o hyd a thaith a fydd yn dod â pherfformiadau bythgofiadwy i gynulleidfaoedd ledled Cymru. Eleni, mae Band Pres Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yn croesawu arweinydd Cymreig poblogaidd iawn, Paul Holland.

 Am fwy o ddiweddariadau ac i ddilyn taith anhygoel y llysgenhadon ifanc hyn yng Nghymru, ewch i wefan CCIC. 

Read More