Cefnogi Chwaraewyr Llinynnol Ifanc Ledled Cymru
Mae “Llinynnau Ynghlwm”, rhaglen Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru (CCIC) yn parhau i gael ei rhoi ar waith ledled Cymru. Yn ystod mis Chwefror, fe groesawyd dros 50 o chwaraewyr llinynnol ifanc i Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, Caerfyrddin, ar gyfer diwrnod dwys ac uchelgeisiol o ddysgu cerddorol.
Mae’r fenter strategol hon ar gyfer cerddorion ifanc wedi’i hanelu at y rheiny sydd wedi cyflawni Gradd 5 ac yn uwch, ac fe gyflwynir mewn cydweithrediad â Gwasanaeth Cerdd Powys. Mae Llinynnau Ynghlwm yn cynnig gofod datblygu cyfeillgar i gerddorion ifanc er mwyn cyfoethogi eu sgiliau a’u profiad cerddorol, tra’n gwneud ffrindiau newydd.
Drwy gydol y gweithdy, a gynhaliwyd ddydd Sadwrn 15 Chwefror 2025, fe gydweithiodd y cyfranogwyr yn agos gyda thîm Cerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru (CGIC), gan ganolbwyntio ar repertoire llinynnol a thechnegau chwarae, a mireinio’u sgiliau. Fe gefnogwyd y grŵp gan diwtoriaid o wasanaethau cerdd lleol a grŵp o Fentoriaid Cymheiriaid – cerddorion ifanc o CGIC.
Roedd y gweithdy hefyd yn cynnwys sesiwn werthfawr am broses glyweliadau ar gyfer ensembles cerdd Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru. Arweiniwyd y sesiwn holi ac ateb gan Matthew Jones, Uwch Gynhyrchydd a Dirprwy Brif Weithredwr Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru; tiwtoriaid sy’n rhan o baneli clyweliadau; a Mentoriaid Cymheiriaid sydd â phrofiad uniongyrchol o glyweliad.
Fe orffennodd y dydd gyda pherfformiad arddangos. Fe berfformiodd y cerddorion ifanc y repertoire yr oeddent wedi bod yn gweithio arno, o Mozart i Morfydd Owen. Roedd safon uchel y perfformiadau’n adlewyrchu ymroddiad a gwaith caled bob un o’r cyfranogwyr drwy gydol y digwyddiad.
Dwedodd Matthew Jones: “Dyma ein hail flwyddyn o gynnal Llinynnau Ynghlwm, ac fe roedd yn wych gweld y dalent ifanc sy’n datblygu yng nghanolbarth Cymru a thu hwnt. Rydym ni’n gobeithio y bydd rhai o’r cerddorion a fu’n rhan o’r digwyddiad wedi’u hysbrydoli ac yn anelu at glyweld ar gyfer ein hensembles Ieuenctid Cenedlaethol yn y blynyddoedd sydd i ddod.”
“Roedd hwn yn gyfle wirioneddol wych. Diolch unwaith eto am yr hyn rydych yn ei wneud i’n plant ac i’r celfyddydau yng Nghymru.” - Rhiant cyfranogwr Llinynnau Ynghlwm
“Diolch yn fawr am gynnal y digwyddiad, dw i’n gobeithio y bydd digwyddiadau rheolaidd eraill tebyg i chwaraewyr llinynnol ifanc yn Ne Cymru” - Rhiant cyfranogwr Llinynnau Ynghlwm
Mae CCIC yn ddiolchgar i Ymddiriedolaeth Elusennol Colwinston, A&B Cymru, ABRSM, Sefydliad Paul Hamlyn, yn ogystal â’i cyllidwyr craidd, Cyngor Celfyddydau Cymru a Gwasanaeth Cerdd Cenedlaethol – mae eu cefnogaeth wedi gwneud Llinynnau Ynghlwm 2025 yn bosib.
“Llinynnau Ynghlwm” 2025 o gyfranogwyr o bob rhan o Gymru ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant