Mae Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yn ehangu prosiectau datblygu talent greadigol, gyda chyllid drwy Cymru Greadigol

Mae CCIC wedi derbyn cyllid – dros £45,000 – gan Lywodraeth Cymru drwy Cymru Greadigol i helpu i ddatblygu talent greadigol Cymru yn y sectorau ffilm, teledu, cerddoriaeth fasnachol a digidol.

Wedi’i lansio yn ystod mis Medi llynedd, crëwyd Cronfa’r Sector Sgiliau Creadigol gyda’r bwriad o gefnogi prosiectau a all gyflawni yn erbyn un neu fwy o’r deg blaenoriaeth a nodwyd yn y Cynllun Gweithredu Sgiliau Creadigol o fewn tair blynedd a arweinir gan y diwydiant.

Mae’r Cynllun Gweithredu yn ceisio mynd i’r afael ag anghenion sgiliau’r tri sector â blaenoriaeth: cerddoriaeth, cynnwys digidol, a sgrin yn y tymor byr, yn ogystal ag ystyried yr anghenion hirdymor a fydd yn sicrhau bod Cymru’n parhau i fod â sector creadigol ffyniannus.

Yn gynharach y mis hwn, cyhoeddodd Dawn Bowden AS, Dirprwy Weinidog dros y Celfyddydau a Chwaraeon, fod dros £1.5m i’w rannu rhwng 17 o brosiectau ar draws y diwydiannau creadigol, meddai:

“Diben y gronfa hon yw parhau i gefnogi partneriaethau sgiliau strategol ledled Cymru, ac rwyf wrth fy modd ein bod wedi gallu dyfarnu'r cyllid i brosiectau cydweithredol a fydd yn darparu cyfleodd gwych ar gyfer y rhai sy'n gweithio yn y sector neu sydd am weithio yn y sector o bob cefndir.” Darllennwch y datganiad ysgrifenedig lawn yma.

Fel derbynwyr y gronfa, bydd CCIC yn defnyddio hwn i ehangu dau o’i brosiectau ar gyfer pobl ifanc – Llwybrau Proffesiynol a Cerdd Y Dyfodol.

Llwybrau Proffesiynol

Mae ein rhaglen Llwybrau Proffesiynol yn gynllun datblygu gyrfa ar gyfer perfformwyr drama ifanc dawnus, a ddarperir mewn partneriaeth â Theatr Clwyd a Chanolfan Mileniwm Cymru. Yng ngwanwyn 2023, bydd 45 o bobl ifanc 16-22 oed yn cymryd rhan mewn rhaglen hyfforddi breswyl ddwys, gan roi cipolwg uniongyrchol iddynt ar yr ystod o sgiliau trosglwyddadwy yn y sectorau theatr, sgrin a digidol.

Mae pob penwythnos preswyl neu ddiwrnod hyfforddi yn canolbwyntio ar sgiliau penodol gan gynnwys techneg perfformio, dylunio set, gwisgoedd, a goleuo, ysgrifennu sgriptiau, hygyrchedd o fewn perfformiad a marchnata a rhaglennu drama. Darllenwch mwy am y prosiect yma.

Gan ddefnyddio’r cyllid gan Cymru Greadigol, bydd ein rhaglen Llwybrau Proffesiynol yn cynnig mynediad ehangach i weithdai ffilm a theledu a sut mae’r arferion hyn yn berthnasol i’r sector digidol, gweithredu ar gyfer sgrin werdd, hyfforddiant llais ar gyfer sgrin, podlediadau a gwaith trosleisio, a llawer mwy hefyd.

Cerdd y Dyfodol

Mewn mannau eraill, bydd y cyllid yn helpu i barhau â Cerdd Y Dyfodol, ein prosiect cerddoriaeth gyfoes sy’n cefnogi cerddorion ifanc 16-18 oed i wneud eu marc ar y sin gerddoriaeth Gymraeg gyfredol ar draws ystod eang o genres – o Grime i Indie, Electronica i RnB.

Wedi’i ddatblygu gyntaf yn 2019, mae’r prosiect yn cefnogi gwneuthurwyr cerddoriaeth sydd â’r potensial i ddatblygu a thyfu fel artistiaid, gan ddatblygu eu sgiliau ysgrifennu caneuon, hunanreolaeth, a sgiliau cerddor mewn amgylchedd diogel a chefnogol. Mae’n cynnig profiad diwydiant dilys, a chipolwg ar yrfa cerddor sy’n gweithio, gan fynd â chyfranogwyr drwy gylch bywyd llawn cyfansoddi caneuon – gan gynnwys cyfansoddi a recordio, perfformio, teithio a hyrwyddo.

Fel rhan o’n hymrwymiad parhaus i feithrin talent amrywiol, bydd o leiaf 25% o’r cyfranogwyr yn dod o gefndir mwyafrif byd-eang, o leiaf 15% o’r 70 o fuddiolwyr yn byw ag anabledd, gan helpu i feithrin diwydiant cerddoriaeth Gymraeg fwy amrywiol a chynhwysol.

Ochr yn ochr â hyn byddwn yn cyflogi Cynhyrchydd dan Hyfforddiant newydd sy’n benodol i’r prosiect Cerdd Y Dyfodol, gyda recriwtio’n dechrau ym mis Mawrth 2023, ac yn gweithio gyda Mentoriaid y Dyfodol eto i helpu i hwyluso’r rhaglen, a chynnig y mynediad a’r wybodaeth orau bosibl i gyfranogwyr i’r sector cerddoriaeth gyfoes yng Nghymru. Mae mentoriaid blaenorol wedi cynnwys Kizzy Crawford, Heledd Watkins (HMS Morris) a Tumi Williams (Afrocluster, Skunkadelic).

Edrychwn ymlaen at ddatblygu ein prosiectau ymhellach dros y misoedd nesaf ac i mewn i gyfnod preswyl yr haf.

 
Previous
Previous

Mae Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yn partneru â Chanolfan Mileniwm Cymru i gyflwyno Hard Côr

Next
Next

Mae Prosiect Datblygu Corawl CCIC, Sgiliau Côr, Yn Ail-lansio Ar Gyfer 2023