Mae Prosiect Datblygu Corawl CCIC, Sgiliau Côr, Yn Ail-lansio Ar Gyfer 2023
Mae gweithgareddau ar gyfer Sgiliau Côr, ein rhaglen datblygu gorawl, wedi dechrau gyda phedwar gweithdy ym mis Ionawr wedi eu cynnal i baratoi ar gyfer preswyliad mis Chwefror.
Wedi’i ddatblygu fel llwybr i wella hyder a gallu cantorion ifanc mewn canu corawl, a dwy flynedd ar ôl y cynllun peilot a ddatblygwyd gydag arweinydd Côr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru Tim Rhys-Evans, lansiwyd y prosiect gyda gweithdai yn Haf 2022.
Gan recriwtio cantorion ifanc brwdfrydig trwy gyfuniad o broses galwad agored ochr yn ochr ag ymgyrchoedd wedi’u targedu gydag ysgolion, corau ieuenctid, a gwasanaethau cerdd, bydd Sgiliau Côr yn ymgysylltu â phobl ifanc o ystod amrywiol o gefndiroedd ac mae wedi’i gynllunio i gefnogi’r rhai sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn y celfyddydau ar hyn o bryd – yn enwedig pobl ifanc mwyafrif byd-eang a phobl ifanc o deuluoedd incwm isel.
Mae aelodau presennol CCIC a allai elwa o ddatblygiad ychwanegol hefyd wedi cael eu gwahodd i gymryd rhan yn y preswyliad.
Gyda dros 80 o fyfyrwyr yn cymryd rhan mewn pedwar gweithdy a gynhaliwyd yng Nghaerdydd ac Abertawe dan arweiniad ein tîm o hwyluswyr uchel eu parch – sy’n cynnwys Iori Haugen, un o sylfaenwyr Choirs for Good ac Anna Beresford, arweinydd ac aelod o dîm WNO – bu pob myfyriwr yn gweithio ar “This Is Me” gan The Greatest Showman. Gan ganu mewn harmoni tair rhan, buont yn canolbwyntio ar amrywiaeth o dechnegau lleisiol, eu dawn gerddorol gyffredinol, wedi'i mireinio trwy amrywiaeth o ymarferion a gemau.
Dywedodd Naomi Davies, pennaeth y Celfyddydau Mynegiannol yn Ysgol Uwchradd Gymunedol Gorllewin Caerdydd, hyn am y gweithdy. “Roedd y disgyblion yn bositif iawn ac wedi mwynhau'n fawr! Gobeithio gallwn ni eich cael chi i mewn eto yn y dyfodol! Mae ambell un yn gwneud cais am y gweithdy yn ystod hanner tymor sy’n gyfle gwych iddyn nhw.”
Mae Bruna Garcia, Cynhyrchydd dan Hyfforddiant Sgiliau Côr yn cytuno. “Roedd yn wych gweld sut gwnaeth y myfyrwyr ymgysylltu â’r gweithdy, a gwnaethant yn dda iawn. Mae’n galonogol gwybod eu bod wedi cael hwyl tra’n mynd â rhywbeth gwerthfawr gyda nhw hefyd.”
Gan ddatblygu ar yr hyn a gweithiwn ar yn ystod y gweithdai, bydd ein cwrs preswyl yn cynnig cyfle i gyfranogwyr weithio gyda thîm arbenigol o arweinwyr canu a gwesteion arbennig.
Cynhelir y cyfnod preswyl hwn rhwng 18fed a 21ain Chwefror 2023 yng Nghanolfan yr Urdd ym Mae Caerdydd, lle bydd cyfranogwyr yn cymryd rhan mewn ystod gyffrous o weithdai, dosbarthiadau meistr gyda gwesteion arbennig, a sesiynau canu un-i-un pwrpasol. Bydd y cyfnod preswyl yn dod i ben gyda rhannu perfformiad anffurfiol ar gyfer ffrindiau, teulu a gwesteion arbennig.
Ein nod yw i bob cyfranogwr adael y cyfnod preswyl gyda’r hyder a’r sgiliau i gael clyweliad ar gyfer unrhyw gyfleoedd corawl eraill a allai ddod i’w rhan yn y dyfodol, ac wrth gwrs Côr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru.
I gael rhagor o wybodaeth am y preswyliad, gan gynnwys y gost a sut i wneud cais, ewch draw i dudalen prosiectau Sgiliau Côr.