10 comisiwn digidol newydd yn helpu i ddathlu 75 mlynedd o Gerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru

  • Mae Cerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru (CGIC) yn troi’n 75 yn 2021, sy’n golygu mai hi yw’r gerddorfa ieuenctid genedlaethol hynaf yn y byd

  • Mae CGIC wedi comisiynu 10 gwaith siambr newydd, gan gyfansoddwyr o Gymru

  • Comisiynwyd rhai o gyn-aelodau mwyaf adnabyddus CGIC, yn cynnwys Syr Karl Jenkins, Hilary Tann a Patrick Rimes

Bydd Cerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru - y gerddorfa ieuenctid genedlaethol hynaf yn y byd - yn dathlu ei phen-blwydd yn 75 oed eleni, gyda chymorth 10 comisiwn newydd gan gyfansoddwyr o Gymru.

Mae’r 10 gwaith siambr newydd wedi eu comisiynu gan Gelfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru er mwyn i aelodau’r Gerddorfa, a rhywfaint o gyn-aelodau, eu perfformio gyda’i gilydd mewn grwpiau bychain. Rhoddwyd penrhyddid i’r cyfansoddwyr ysgrifennu ar gyfer unrhyw gyfuniad o offerynnau’r Gerddorfa ac mae pob gwaith yn amrywio o ran maint, o driawdau a phedwarawdau hyd at weithiau siambr ar gyfer 15-20 cerddor. Mae wyth o’r gweithiau newydd wedi eu recordio eisoes gan aelodau a chyn-aelodau CGIC mewn sesiwn recordio yn Neuadd Dewi Sant, Caerdydd, yn barod ar gyfer dathliad pen-blwydd arbennig ar-lein ar Ddydd Iau 21 Hydref.

Mae rhai o gyn-aelodau enwocaf CGIC ymysg y cyfansoddwyr a gomisiynwyd, yn cynnwys Hilary Tann, Patrick Rimes, a Syr Karl Jenkins, a gychwynnodd ei yrfa gerddorol fel oböydd gyda’r Gerddorfa.

“Mae mor gyffrous, allwn i ddim aros i fod yn ôl yn chwarae gyda phobl nad oeddwn i wedi chwarae gyda nhw ers cyhyd. Mae fel pe bae dim wedi newid”
Isobel, aelod CGIC

“Mae bod yn ôl gyda Cherddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru yn gymaint o bleser, a rhyddhad! Mae wedi bod yn gyfnod mor hir ond ry’n ni mor gyffrous i fod yn ôl.”
Nathan Dearden, Cyfansoddwr a Chyn-aelod CCIC

Llun: Jamie Chapman

Y cyfansoddwyr a’r gweithiau comisiwn yw:

  • Jo Thomas - Seeds (i dri chlarinét, ffidil, bas dwbl ac offerynnau taro)

  • Bethan Morgan-Williams - Parodi i Dri (clarinét, ffidil, piano)

  • Angharad Jenkins a Patrick RimesMusic for 13 voices

  • Lloyd ColemanMachine (i naw offeryn chwyth)

  • Gareth Olubunmi HughesHorizon One (ar gyfer ensemble siambr)

  • Syr Karl JenkinsChums! (trefniant i ensemble siambr ar gyfer pen-blwydd CGIC yn 75 oed)

  • Mark BowdenWych Elm (daru ddarn ar gyfer ffliwt, fiola a thelyn)

  • Claire Roberts - Rhywbeth ar y gweill (i biano, offerynnau taro a llinynnau)

  • Hilary Tann - Penrhys Fanfare (i bedwar trymped)

Meddai Gillian Mitchell, Prif Swyddog Gweithredol Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru: “Mae mor gyffrous gallu gweithio gyda chymaint o gyfansoddwyr Cymreig disglair ar y prosiect hwn. Mae Cerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru wedi cefnogi rhai o gerddorion gorau Cymru dros y degawdau, ac er ein bod yn siomedig nad oes modd inni eto ddod a’r gerddorfa lawn at ei gilydd ar gyfer cwrs preswyl, ry’n ni wir wrth ein bodd ein bod yn gallu cwrdd â’r grwpiau siambr hyn wyneb-yn-wyneb i recordio.”

Mae pob darn wedi ei recordio a’i ffilmio gan lynu at fesurau ymbellhau cymdeithasol priodol, yn unol â’r cyngor iechyd cyhoeddus oedd yn ei le ar y pryd. Ynghyd â nifer fawr o weithgareddau ar-lein eraill, mae’r rhain wedi cymryd lle'r profiad cwrs preswyl byw arferol, sydd dal yn amhosibl oherwydd y cyngor ymbellhau cymdeithasol parhaus. Trwy gydol y pandemig, mae aelodau CGIC wedi elwa o lu o ddosbarthiadau meistr ar-lein yn cynnwys gan y delynores Catrin Finch, y ddau feiolinydd Patrick Rimes a Rachel Podger, y trympedwr Philip Cobb a’r clarinetydd Robert Plane.

Llun: Jamie Chapman

Bydd premiere byd-eang y 10 darn ar gael i’w ffrydio ar-lein am 7pm ar Ddydd Iau 21 Hydref. Caiff y cyngerdd ei ffrydio trwy AM ar amam.cymru/nyaw

Yn ogystal, bydd pob darn ar gael i’w wylio ar-alw am chwe mis arall ar sianelau CCIC ar AM a Youtube. Mae mynediad i’r premiere yn rhad ac am ddim, ond croesewir cyfraniadau tuag at gronfa bwrsariaethau CCIC.

Mae CGIC yn cael ei rhedeg gan Gelfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru, a sefydlwyd yn 2017 i arwain datblygiad chwe ensemble cenedlaethol clodfawr Cymru, yn ogystal ag ystod eang o brosiectau i ddarparu cyfleoedd creadigol ar gyfer pobl ifanc yn y celfyddydau.

Fel elusen gofrestredig, mae Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru’n dibynnu ar eich cyfraniadau hael i sicrhau bob amser bod y rhai mwyaf haeddiannol yn gallu ymgysylltu â’r celfyddydau ar y lefel uchaf, waeth beth eu cefndir neu eu sefyllfa economaidd. Dysgwch sut allwch chi ein cefnogi ar ccic.org.uk/cefnogwch-ni

Previous
Previous

Y Prif Weinidog yn llongyfarch CGIC ar ei phen-blwydd yn 75ain

Next
Next

Mae cariad yn yr aer ar gyfer aelodau Theatr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru ym mhremiere eu cynhyrchiad ffilm cyntaf erioed