Mae cariad yn yr aer ar gyfer aelodau Theatr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru ym mhremiere eu cynhyrchiad ffilm cyntaf erioed
Theatr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru (ThCIC) yn cyflwyno premiere eu cynhyrchiad ffilm cyntaf erioed, wedi ei ffilmio ar leoliad ledled Cymru
Cast o 14 o actorion ifanc rhwng 16-23 oed, o bob cwr o Gymru, yn perfformio taith epig, llawn cerddoriaeth
Ysgrifennodd y sgriptwraig Hanna Jarman (cydawdur Merched Parchus S4C) sgript a gomisiynwyd yn arbennig ac a ysbrydolwyd gan ensemble y cast
Mae’r sgôr gerddorol epig yn cynnwys cân newydd sbon gan y gantores-gyfansoddwraig Kizzy Crawford
Bydd y cynhyrchiad, sy’n waith ar y cyd rhwng ThCIC a Theatr Clwyd, ar gael i’w ffrydio ar-lein o wefan Theatr Clwyd o Ddydd Gwener 1 - Ddydd Sadwrn 9 Hydref.
Mae cast o 14 o aelodau ifanc Theatr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yn mynd ar daith epig, llawn cerddoriaeth yr Hydref hwn, wrth i’w cynhyrchiad digidol o Y Teimlad | That Feeling gael ei ffrydio ar-lein.
Yn y plot, sydd wedi ei ysbrydoli gan ensemble y cast a’i ysgrifennu gan y sgriptwraig Hanna Jarman, mae byd y Duwiau Cariad hynafol yn gwrthdaro gyda realiti cariad yn y Gymru gyfoes. Mae’r gybolfa liwgar, ddwyieithog o ffilm a theatr, gydag ambell lwyaid o Zoom seicedelig, yn cyd-blethu straeon y cymeriadau ifanc wrth iddynt ddathlu ac ailddiffinio’r hyn all cariad fod.
Daw teitl y ffilm o gân syml hyfryd o’r 90au, sef Y Teimlad, gan y band unigryw Datblygu - ac mae’r recordiad gwreiddiol i’w glywed yn y cynhyrchiad, ynghyd â fersiwn newydd a ysbrydolwyd gan aelodau’r cast, a’i chyfannu gan y comisiwn newydd sbon gan y gantores-gyfansoddwraig Kizzy Crawford. Golygodd marwolaeth drist cyn pryd David R Edwards, canwr y band, bod ail-ddychmygu’r themâu hyn gan genhedlaeth newydd o artistiaid ifanc Cymreig yn chwerw-felys.
Mae Hanna Jarman ei hun yn gyn-aelod o Theatr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru, ac roedd yn falch iawn i ddychwelyd at ThCIC:
“Mae cael bod yn rhan o Theatr Ieuenctid Cymru eto pymtheg mlynedd ar ôl ymuno y tro cyntaf (rhan o gynyrchiadau'r cwmni yn 2006 a 2008) yn fraint anhygoel. Dwi'n dweud o hyd, mewn ffordd dyna oedd dechre fy ngyrfa fel Actor, a dyna lle nes i gwrdd â Mari Beard fy nghyd sgwennwr ar amryw o brosiectau heddiw.
“Ar ôl trafodaeth gyda’r cwmni, roedden nhw’n awyddus i berfformio darn llawn hwyl ac yn benodol dim byd i neud gyda'r pandemig! Nes i fwynhau yr her a pa well pwnc i drafod na chariad?”
Dyma’r pedwerydd prosiect cydweithredol rhwng ThCIC a Theatr Clwyd yn y blynyddoedd diwethaf a, gyda Hannah Noone, maent wedi ffurfio gweledigaeth ar gyfer cynhyrchiad ffilm theatrig uchelgeisiol a difyr, gaiff ei ffrydio ar-lein gan Theatr Clwyd, sydd wedi canolbwyntio ar y sgiliau y mae perfformwyr eu hangen er mwyn actio ar y sgrîn - yn y Gymraeg a’r Saesneg.
“Pwy ddwedodd eich bod angen llwyfan i greu theatr” Aelod ThCIC
Y cynhyrchiad digidol hwn yw’r cynhyrchiad llawn cyntaf i ThCIC ei berfformio dan y canllawiau ymbellhau cymdeithasol. Roedd yn glir bod y tîm creadigol am ymgolli’n llwyr mewn fformat ffilmio digidol, gan ganiatáu llwyfan ehangach ar gyfer ymateb i anghenion a lleisiau’r perfformwyr ifanc. I lawer o’r perfformwyr, dyma’r tro cyntaf iddynt actio o flaen camera, gan helpu i roi hwb i’w profiad a’u sgiliau fel artistiaid amryddawn.
“Ges i amser a phrofiad gwych. Fe wnaeth fy helpu gymaint gydag ochr actio ar gyfer ffilm ac roedd creu fideo cerddorol yn wallgo’!” Aelod ThCIC
“Mae wir wedi fy helpu i brofi gwahanol agweddau actio, a’r profiad o actio o flaen camera. Mae wedi bod yn wych a dwi wedi mwynhau pob eiliad. Alla’ i ddim aros i weld y ffilm, mae’n mynd i fod yn anhygoel!” Aelod ThCIC
Datblygwyd yr agwedd gydweithredol o weithio gyda’r perfformwyr ymhellach gyda’r gantores-gyfansoddwraig Gymreig Kizzy Crawford, a gomisiynwyd i ysgrifennu anthem gariad newydd sbon ar gyfer ein hoes ni ar gyfer y cynhyrchiad, sef Cymaint o Liwiau, sy’n ymddangos mewn fideo ddathliadol yn arddull yr 80au a goreograffwyd gan Matteo Marfoglia.
Dan lygad creadigol y gwneuthurwr ffilmiau Nico Dafydd, cynhaliwyd y gwaith ffilmio mewn sesiynau Covid-ddiogel mewn lleoliadau ar hyd a lled Cymru, yn amrywio o olygfeydd panoramig o’r mynyddoedd a’r môr ger Bangor, gwacter ingol prif lwyfannau eiconig Theatr Clwyd a Theatr y Sherman, i strydoedd a synau Cathays, Canol y Ddinas a Butetown yng Nghaerdydd. Wedi eu gwasgaru rhwng y golygfeydd hyn, ceir enghreifftiau hynod ddyfeisgar o ffilmio o hirbell o bob cwr o Gymru. Ceir hyd yn oed ambell lwyaid o sesiynau Zoom seicedelig yn cynnwys Duwiau Cariad hynafol cecrus y mae eu cyfarfodydd yn cael eu dyrchafu gan ddyluniad gwisgoedd hardd a grëwyd ar gyfer y cynhyrchiad gan y dylunydd Jacob Hughes, sydd newydd ddylunio ar gyfer cynhyrchiad Shakespeare’s Globe o Romeo and Juliet.
“Fe weithiais ochr-yn-ochr ag artistiaid anhygoel a brwdfrydig a chast talentog a’r grŵp o bobl mwyaf uchelgeisiol imi gwrdd â nhw erioed” Aelod ThCIC
Meddai Tamara Harvey, Cyfarwyddwr Artistig Theatr Clwyd: “Rydym wrth ein bodd yn cydweithio gyda Theatr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru ar ‘Y Teimlad / That Feeling’, prosiect ffilm/theatr newydd beiddgar wedi ei ysgrifennu gan y dramodydd rhyfeddol Hannah Jarman. Mae Theatr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yn sefydliad pwysig ac arloesol sydd wedi cynnig y cam cyntaf hanfodol i berfformwyr ifanc Cymru am dros 40 mlynedd. Mae’r cyd-gynhyrchiad hwn yn help i arddangos rhai o egin dalentau mwyaf addawol y Gymru gyfoes.”
Meddai Gillian Mitchell, Prif Weithredwraig Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru: “Er gwaethaf heriau gweithio’n ystod y pandemig Covid, rydym wedi bod yn gweithio’n galed i roi cyfleoedd perfformio cyffrous i bob un o’n haelodau ifanc - ac mae’r comisiwn newydd uchelgeisiol hwn yn Gymraeg a Saesneg yn ddim ond un enghraifft. Gyda rhai o ddoniau mwyaf cyffrous Cymru’n rhan o’r cynhyrchiad, alla’ i ddim aros i weld sut mae’r canlyniad terfynol yn edrych ar y sgrîn.
“Mae ein haelodau ifanc wedi ei gwneud hi’n gwbl glir i ni pa mor bwysig yw’r perfformiadau hyn iddyn nhw, ac rydym yn gwybod y gallant fod yn falch o’r cynhyrchiad epig hwn ar gyfer y sgrîn, wrth iddyn nhw symud ymlaen gyda’u gyrfaoedd actio.”
Mae’r prosiect yn rhan o dymor Maniffest ThCIC 2021. Mae’r rhaglen blwyddyn gron hon o weithiau comisiwn, prosiectau cydweithredol a mentrau creadigol newydd yn arddangos yr hyn sy’n atgyfnerthu pobl ifanc, ac yn arddangos Cymru fel y mae pobl ifanc yn ei gweld hi yn yr 21ain ganrif – gwlad egnïol, amrywiol a dwyieithog gyda llais artistig cryf.
Am fwy o wybodaeth am Theatr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru ewch i www.ccic.org.uk
Mae’r cynhyrchiad ar gael i’w ffrydio ar ddyddiadau penodol rhwng Dydd Gwener 1 a Dydd Sadwrn 9 Hydref. Mae tocyn ffrydio 24-awr yn costio £5 (£3 pris mynediad, £10 pris cefnogwr). I archebu tocynnau ewch i www.theatrclwyd.com.