Grymuso’r Genhedlaeth Nesaf o Gantorion o Gymru
CCIC tîm Mason Edwards a Bruna Garcia yn Sgiliau Côr 2025
Mae rhaglen Sgiliau Côr Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru (CCIC) wedi’i chynllunio i helpu cantorion ifanc ledled Cymru i ddatblygu’r hyder â’r medrusrwydd i roi cynnig ar ystod eang o gyfleoedd lleisiol a chorol. O Gôr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru i ensembles sirol a thu hwnt, mae’r rhaglen yn darparu’r camau cyntaf i gantorion angerddol, ni waeth beth fo’u profiadau na’u hyfforddiant ffurfiol blaenorol.
Yn ystod hanner tymor fe barhaodd Sgiliau Côr ar ei thaith o amgylch Cymru, gyda chwrs preswyl pedwar diwrnod a gynlluniwyd i ysbrydoli a datblygu cantorion ifanc 14–18 mlwydd oed. Cynhaliwyd y cwrs yn Llanbedr Pont Steffan Chwefror 24–27 ac fe ddaeth â thîm o arbenigwyr lleisiol a mentoriaid gwadd arbennig ynghyd i feithrin talentau cerddorol y cyfranogwyr.
Yn ystod y preswyliad, fe aeth cantorion ifanc brwd ati i fireinio’u techneg leisiol, eu theori gerddoriaeth a sgiliau clyweliad a hynny drwy gyfres o weithdai pwrpasol. Roedd gan y cwrs bwyslais hefyd ar greu cymuned a chysylltiad cymdeithasol, a bu sawl weithgaredd megis disgo distaw a gweithgareddau hwyliog eraill wedi’u cynllunio i helpu cyfranogwyr i fagu hyder a gwneud ffrindiau.
Fel rhan o waith estyn allan y prosiect, fe gydweithiodd CCIC gyda Chynllun Cerddoriaeth Cenedlaethol Powys i ddarparu gweithdai blas cyn y preswyliad, gan gryfhau ei phresenoldeb yn y canolbarth, ac annog mwy o bobl ifanc i ymwneud â cherddoriaeth corol.
Roedd rhieni yn canmol effaith Sgiliau Côr i’r cymylau:
“Cafodd [fy merch] amser anhygoel ac fe ddysgodd lawer o’i hamser yno. Ar ôl dysgu gymaint roedd [fy merch] yn awyddus i wybod os fydd unrhyw beth arall tebyg yn digwydd eleni” – Rhiant un o gyfranogwyr Sgiliau Côr
“Roedden ni am ddweud diolch o galon i bawb am roi’r wythnos fwyaf anhygoel [i’n mab], gyda Sgiliau Côr. Roedd y perfformiad brynhawn yma mor hyfryd – wirioneddol drawiadol. Doedden ni methu credu’r hyn y cyflawnodd y grŵp mewn dim ond ambell i ddiwrnod – anhygoel!” – Rhiant un o gyfranogwyr Sgiliau Côr
Dwedodd Bruna Garcia, Swyddog Cyfranogi a Dysgu:
“Roedd ein preswyliad Sgiliau Côr 2025 yn llwyddiant ysgubol! Dw i mor falch o’r holl bobl ifanc a ymunodd â ni, ac yn ddiolchgar i’n partneriaid a’n cyllidwyr anhygoel a’n helpodd ni i wneud y cyfan yn bosib!”
Mae CCIC yn diolch o galon i’w cefnogwyr, gan gynnwys ABRSM a The Backstage Trust. Drwy eu cefnogaeth hael roedd Sgiliau Côr 2025 yn bosib.
Gwyliwch uchafbwyntiau Sgiliau Côr 2025 yma
Darganfyddwch ragor o wybodaeth am Sgiliau Côr yma