Cyfle i gwrdd gyda Chynhyrchwyr dan Hyfforddiant newydd CCIC

Mae Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yn falch i fod wedi penodi dau Gynhyrchydd dan Hyfforddiant newydd i’r tîm staff, gan ehangu’r cynnig cyfleoedd ar gyfer pobl ifanc i gychwyn gyrfa yn y celfyddydau.

Mae’r rolau dan hyfforddiant hyn wedi eu dylunio i ymbaratoi pobl ifanc - sydd efallai heb ennill unrhyw brofiad blaenorol yn y celfyddydau - gyda’r sgiliau a’r wybodaeth i drochi eu hunain yn niwydiant celfyddydol Cymru, ac i allu ffynnu yn eu gyrfaoedd i’r dyfodol.

Rydym yn falch i fod wedi penodi Aeron Fitzgerald fel Cynhyrchydd dan Hyfforddiant sy’n gweithio ar draws holl brosiectau Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru, ac Elina Lee fel Cynhyrchydd dan Hyfforddiant sy’n canolbwyntio’n benodol ar brosiect Cerdd y Dyfodol ar gyfer 2021 a 2022.

Gyda diolch i Incubator Fund Youth Music, sydd wedi cefnogi creu rôl Cynhyrchydd dan Hyfforddiant Cerdd y Dyfodol, ry’n ni’n edrych ymlaen at ddarparu llawer mwy o gyfleoedd ar gyfer pobl ifanc i gychwyn eu gyrfaoedd yn 2021. Ar hyn o bryd, rydym yn recriwtio trydydd Cynhyrchydd dan Hyfforddiant i weithio’n benodol ar ein rhaglen datblygu corawl, Sgiliau Côr, a byddwn hefyd yn creu chwe swydd Mentor y Dyfodol newydd sbon yn hwyrach eleni.

Meddai Aeron Fitzgerald, Cynhyrchydd dan Hyfforddiant:

“Mae bod yn rhan o dîm Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru ers mis Chwefror 2021 wedi bod yn agoriad llygad ac yn gychwyn cyffrous i fy ngyrfa. Feddyliais i erioed y byddai gweithio yn y Sector Celfyddydau Cymreig yn bosibilrwydd i mi, tan imi gael fy ysbrydoli gan athro Ffilm brwd a llawn ysgogiad yn ystod fy arholiadau Safon Uwch. A dyma ni, ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach, fe lwyddais i raddio gyda Gradd Anrhydedd mewn Ffilm o Brifysgol De Cymru.

Fel Cynhyrchydd dan Hyfforddiant, mae’n bleser gen i ddatblygu’r rhaglenni gwych yr ydym yn eu cynnig ochr-yn-ochr a’n tîm o staff a’n gweithwyr llawrydd niferus, ac i fod mewn cysylltiad agos gyda’n haelodau neilltuol, yn hen a newydd. Rwy’n cael fy ysbrydoli bob dydd gan ymroddiad a thalent yr actorion, dawnswyr a cherddorion ifanc dawnus hyn ar hyd a lled Cymru, ac mae dysgu am y budd parhaol y mae CCIC yn ei gael ar eu bywydau yn gwneud imi deimlo’n hynod o ffodus. Rwy’n edrych ymlaen yn eiddgar at y broses recriwtio ar gyfer aelodau’r flwyddyn nesaf, sy’n argoeli i fod yn fwy cynhwysol a chynrychiadol o’r Gymru gyfoes nag erioed o’r blaen.”

Dywedodd Elina Lee, Cynhyrchydd dan Hyfforddiant Cerdd y Dyfodol:

“Dwi’n dod o Wlad Thai yn wreiddiol ond fe symudais i Sweden ble y cefais fy magu. Yn 2017 fe symudais i Gaerdydd i ddilyn gradd mewn Cerddoriaeth Boblogaidd a Masnachol a Lleisiol ym Mhrifysgol De Cymru, ble graddiais yn 2020. Yn ystod fy amser yn astudio yn PDC, roeddwn i’n rhan o Ŵyl Immersed!, gŵyl gerdd wedi ei threfnu gan y myfyrwyr, ble cefais fy mhenodi’n Arweinydd Marchnata a chael cyfle i lunio a brandio’r ŵyl o’r cychwyn.

Wedi ymuno â thîm CCIC fel Cynhyrchydd dan Hyfforddiant, rwyf wedi cael y fraint o gynorthwyo gyda chynllunio a throsglwyddo prosiect Cerdd y Dyfodol. Hyd yma, mae wedi bod yn gyffrous cwrdd gyda chymaint o bobl ifanc gyda’r fath dalent anhygoel, ac mae’n teimlo’n braf gwybod eich bod yn rhan o’u taith i ddod yn artistiaid adnabyddus a cherddorion gweithgar y dyfodol.

Y tu hwnt i fod wedi ymuno gyda thîm CCIC yn ddiweddar, rwy’n gweithio hefyd fel cantores-cyfansoddwraig ac rwy’n creu fy mhrosiectau cerdd fy hun pryd bynnag bydd amser. Rwy’n dal i fwynhau canu ac rwy’n gobeithio gallu perfformio’n fyw pan gawn ni hawl i wneud hynny eto.

Yr hyn sydd fwyaf cyffrous am weithio gyda CCIC, yn fy marn i, ydi’r cyfleoedd sy’n cael eu cynnig i’r bobl ifanc. Wrth edrych yn ôl ar pan gychwynnais i greu cerddoriaeth yn berson ifanc, fe hoffwn i fod wedi cael yr un gefnogaeth ac adnoddau ag y mae CCIC yn ei ddarparu i gerddorion dawnus ar hyd a lled Cymru heddiw, a dwi wir yn credu ei bod hi’n hanfodol i roi mwy o le i grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn y sîn gerddoriaeth yng Nghymru.”

Previous
Previous

Mae cariad yn yr aer ar gyfer aelodau Theatr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru ym mhremiere eu cynhyrchiad ffilm cyntaf erioed

Next
Next

Cydweithrediad newydd rhwng Theatr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru a Hijinx fel rhan o'r tymor Maniffest