Cwmnïau Dawns Cenedlaethol Ieuenctid Cymru a’r Alban yn cwrdd yn rhithiol trwy ddosbarthiadau meistr ar-lein Y Cymundod Celtaidd

Bydd dros 20 o ddawnswyr ifanc o bob cwr o Gymru a’r Alban yn elwa o gyfres o ddosbarthiadau meistr ar-lein trwy gydol 2021 - gan gwrdd â’i gilydd trwy dechnoleg er gwaetha’r ffaith eu bod yn byw cannoedd o filltiroedd oddi wrth ei gilydd.

Gan fod hyfforddiant dawns wyneb-yn-wyneb wedi lleihau’n sylweddol o ganlyniad i’r pandemig COVID-19, bydd Dawns Genedlaethol Ieuenctid Cymru a National Youth Dance Company of Scotland yn ymuno â’i gilydd i ffurfio’r Cymundod Celtaidd, platfform dosbarthiadau meistr digidol newydd cyffrous fydd yn croesawu rhai o artistiaid dawns, coreograffwyr a chyfarwyddwyr artistig mwyaf talentog y DU. Dyma’r tro cyntaf i’r ddau gwmni dawns gydweithio fel hyn.

Bydd y dosbarthiadau meistr yn cael eu harwain gan artistiaid dawns a choreograffwyr nodedig yn cynnwys Liam Riddick, Ezra Owen a Chyfarwyddwraig Artistig NYDCS, Anna Kenrick. Bydd y dawnswyr ifanc, 16-22 oed, yn cael cyfle hefyd i ddysgu oddi wrth gwmnïau dawns yn cynnwys Ballet Cymru, Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru a Scottish Dance Theatre.

Dawns Genedlaethol Ieuenctid Cymru a National Youth Dance Company of Scotland yw’r prif gwmnïau dawns cyfoes ar gyfer pobl ifanc yn eu gwledydd. Bob blwyddyn, bydd dawnswyr ifanc talentog yn mynychu clyweliad am le, a chyfle i weithio gyda choreograffwyr arobryn.

Meddai Farrah Fawcett, aelod o National Youth Dance Company of Scotland:

“Dwi wrth fy modd ein bod yn cael y rhaglen ar-lein hon gyda Dawns Genedlaethol Ieuenctid Cymru, gan fod cysylltu gyda dawnswyr o’r un natur yr union beth yr ydym ei angen i’n hysbrydoli a chreu egni. Mae’n wych hefyd cael cyfle i weithio gyda choreograffwyr newydd - fe allwch ddysgu cymaint am eu proses ac mae’r math hwn o brofiad yn amhrisiadwy ar gyfer ein datblygiad fel dawnswyr.”

Dywedodd Jamie Jenkins, Cynhyrchydd Dawns Genedlaethol Ieuenctid Cymru:

“Rydym yn falch iawn i ddarparu lle i’r dawnswyr ifanc hyn gwrdd, cydweithio a rhannu sgiliau fel rhan o’r Cymundod, ac i ddarparu llwyfan ble gallant glywed oddi wrth rai o goreograffwyr a chwmnïau dawns mwyaf cyffrous y DU.”

Meddai Anna Kenrick, Cyfarwyddwraig Artistig YDance (Scottish Youth Dance):

“Mae YDance wrth ein bodd i gydweithio gyda Dawns Genedlaethol Ieuenctid Cymru ar y rhaglen arloesol a diddorol hon ar gyfer ein dawnswyr. Mae hwn yn gyfnod heriol iawn i bobl ifanc felly mae’n bwysig iawn inni greu cyfleoedd ble y gallant ddod at ein gilydd, rhannu a theimlo cysylltiad trwy brofiad dawns o safon uchel.”

Bydd y dosbarthiadau meistr yn cychwyn ar Ddydd Sul 31 Ionawr, ac yna parhau’n fisol. Byddant ar gael i aelodau DGIC a NYDCS yn unig, fydd yn derbyn eu manylion cofrestru’n unigol.

Cynhyrchir Dawns Genedlaethol Ieuenctid Cymru gan Gelfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru, yr elusen genedlaethol ar gyfer cerddorion, dawnswyr ac actorion ifanc talentog ledled Cymru. Fe’i hariennir gan Gyngor Celfyddydau Cymru.

Cynhyrchir National Youth Dance Company of Scotland gan YDance (Scottish Youth Dance), y sefydliad dawns cenedlaethol ar gyfer plant a phobl ifanc yn Yr Alban. Fe’i ariennir gan Creative Scotland.

Previous
Previous

Cyhoeddi mentoriaid Cerdd y Dyfodol 2021

Next
Next

Llesiant, myfyrio ac yoga - adnoddau llesiant newydd gan Gelfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru