Cyhoeddi mentoriaid Cerdd y Dyfodol 2021

Yn dilyn prosiect peilot llwyddiannus yn 2019, mae prosiect datblygu cerddoriaeth gyfoes Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru, Cerdd y Dyfodol, wedi cychwyn ar gyfer 2021.

Mae Cerdd y Dyfodol yn brofiad creadigol, cydweithredol ar gyfer artistiaid a cherddorion ifanc 16-18 oed, sy’n anelu i ddarganfod a datblygu’r genhedlaeth nesaf o egin-dalentau cerddorol yng Nghymru.

Trwy gyfres ddwys o ddosbarthiadau meistr a gweithdai digidol, bydd y bobl ifanc talentog a brwdfrydig hyn yn gweithio ochr-yn-ochr â grŵp o fentoriaid o’r diwydiant sy’n gweithio ledled Cymru, gan ddatblygu sgiliau creu cerddoriaeth ac ysgrifennu caneuon cyfoes, dysgu am lwybrau i mewn i’r diwydiant, tra’n creu gwaith newydd cyffrous.

Mae’n bleser gan Gelfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru gyhoeddi’r mentoriaid ar gyfer Cerdd y Dyfodol 2021. Yn amrywio o ran genre o hip-hop a soul i gerddoriaeth werin, indie ac electronica, rydym yn falch i fod yn gweithio gyda charfan o bobl greadigol sy’n cynrychioli’r gorau o dirwedd miwsig cyfoes Cymru.


Heledd Watkins

Astudiodd Heledd fel crëwr theatr cyn symud ymlaen i weithio fel gitarydd bas sesiynol, gan deithio gydag Emmy the Great, Chloe Howl a’r Paper Aeroplanes. Dechreuodd ysgrifennu ei cherddoriaeth ei hun fel menyw flaen y band celf-roc HMS Morris, gydag uchafbwyntiau’n cynnwys perfformio yn Glastonbury, rhyddhau dwy record hir a chael eu henwebu am ddwy Wobr Gerddoriaeth Gymreig. Mae hefyd wedi rhoi tro ar gyflwyno ar radio a theledu.


Osian Huw Williams

Astudiodd Osian Gerddoriaeth ym Mhrifysgol Bangor ac aros yno i gwblhau ei radd Meistr mewn Cyfansoddi. Mae bellach yn chwarae i’r Candelas, Blodau Papur, Siddi a Chowbois Rhos Botwnnog, sy’n golygu ei fod yn gigio trwy’r flwyddyn fel arfer. Enillodd Osian Dlws y Cerddor yn Eisteddfod Genedlaethol Meifod yn ôl yn 2015 ac mae’n dal i ddatblygu’r sioe gerdd gyda’i frawd a’i chwaer. Mae’n ystyried ei hun yn ffodus iawn i fod wedi trefnu’r gerddoriaeth a chwarae tair gig gyda Cherddorfa’r Welsh Pops, oedd yn cynnwys y Candelas, Blodau Papur a Geraint Jarman.

Mae wedi cyfansoddi llu o drefniadau ac arwyddganeuon ar gyfer y teledu ac mae bellach yn rhedeg Stiwdio Sain, Llandwrog gyda dau beiriannydd arall ac mae wedi cynhyrchu artistiaid yn cynnwys Mared Williams, Y Cledrau a Rhys Gwynfor.


Tumi Williams (Skunkadelic)

Yn dilyn rhyddhau ei albwm cyntaf ‘Musically Drifting’ yn 2010, mae gan Skunkadelic nifer drawiadol o uchafbwyntiau yn cynnwys sioeau byw gyda Talib Kweli, Chali 2na, The Pharcyde, Jehst, Rag n Bone Man, Blackalicious, Ugly Duckling, Jungle Brothers, Ocean Wisdom…. Yn ogystal â chydweithio gydag artistiaid fel The Allergies, Mr Woodnote, Dr Syntax, TY, Sparkz, Truthos Mufasa, Twogood, Band Pres Llareggub ymhlith rhestr faith. Awydd i greu a rhannu yw’r ysgogiad sy’n dylanwadu ar bob cam y mae’n ei gymryd. Yn 2020 daeth ei gerddoriaeth i amlygrwydd mawr a chael ei chwarae’n aml gan Lauren Lauverne (BBC6 music), Adam Walton (BBC Radio Wales), Jo Wiley (BBC Radio 2), Tom Robinson (BBC6 music) ac arwyddgan 2021 ITV.

Ar wahân i’w waith unigol, mae Skunkadelic yn aelod parhaol sy’n arwain y cymundod monster funk 9 person, Afro Cluster, ac mae wedi ysgrifennu, recordio a theithio’n rheolaidd gyda’r grŵp dros y deng mlynedd diwethaf. Maent wedi ymddangos mewn nifer o wyliau a digwyddiadau proffil uchel yn cynnwys Glastonbury, Womad, Greenman, Boomtown a Gŵyl y Llais ac wedi teithio gydag artistiaid fel Ibibio Sound Machine, Craig Charles, Gilles Peterson a’r Hot 8 Brass Band.


Gwion ap Iago

Pan wnaeth DJ ddim troi lan i chwarae ei set, dyna pryd gychwynnodd taith cerddoriaeth electronig Gwion. Wedi mwynhau theatr gerdd yn yr ysgol a bod mewn cynhyrchiad gyda Youth Music Theatre UK yn Aberdeen yn 16 oed, mae cerddoriaeth wastad wedi bod yn elfen o fywyd Gwion ond dim ond ym Mhrifysgol Aberystwyth y blagurodd ei gariad o’r 'untz untz', y 'wobs' a’r 'boots and cats'. Ers y noson dyngedfennol honno, mae Gwion wedi chwarae ledled y DU mewn llu o brif ystafelloedd, nifer o wyliau, bariau tywyll ac ambell ffrwd fyw gyda’i grŵp electronig Roughion.

Mae Gwion hefyd yn rhedeg label electronig ar gyfer artistiaid yng Nghymru dan yr enw priodol Afanc, ar ôl yr anghenfil o’r Mabinogi, ei rôl yma yw cynrychioli egin-artistiaid a chynnig cyngor ar eu sain a’u helpu ar y ffordd, ac ar hyn o bryd mae’n gweithio gyda brenin y byd hip-hop Cymreig Mr Phormula ar ailgymysgu albwm ar gyfer Tiwns. Meddai - “Dwi’n gweithio ar lot o brosiectau cyffrous ar hyn o bryd ond rydw i’n fwyaf cyffrous am Fentora gyda CCIC. Alla’ i ddim aros i fwrw ati i ddysgu a datblygu gyda’r 'Bicep', 'Goldie' neu Charlotte de Witte nesaf."


Dionne Bennett

Mae Dionne Bennett yn lleisydd aml-genre, cyfansoddwr caneuon, artist lleisio, cynhyrchydd cerddoriaeth a pherfformwraig. Mae hefyd yn darlithio ar lefel gradd, gan arbenigo mewn perfformio lleisiol, a thechneg. Mae Dionne yn gyn-enwebai am Wobr Gerddoriaeth Gymreig ddechreuodd gigio’n rheolaidd yn 14 oed, rhyddhau ei record gyntaf yn 15 oed, ac sydd wedi parhau i weithio’n llwyddiannus yn y diwydiant fyth ers hynny.

Mae gwaith eang ac amrywiol Dionne yn cwmpasu nifer o arddulliau cerddorol. Mae hyn wedi ei galluogi i weithio gyda rhai o gerddorion mwyaf talentog ac uchel eu parch y diwydiant, o Dr John (a enillodd 5 gwobr Grammy), y pianydd Jazz hynod dalentog Jason Rebello, ac enillydd unawdol Her Blws Rhyngwladol y Blues Foundation Gee Weevil, i hoelion wyth y byd cerddorol Cymreig yn cynnwys Daf Ieuan a Gruff Rhys o’r Super Furry Animals, Mark Roberts o Catatonia a Lincoln Barrett (High Contrast) a enwebwyd am wobr Grammy.

Mae Dionne yn dal i ysgrifennu a rhyddhau deunydd newydd yma a thramor, ac mae ei chreadigedd a’i chynnyrch creadigol yn destament i bwysigrwydd sicrhau amrywiaeth yn y sîn gerddorol. Fel artist aml-genre, mae wedi cydweithio ar lu o recordiau hir, gan gyfuno gwahanol ddiwylliannau, arddulliau a thraddodiadau cerddorol gyda’i dylanwadau diwylliannol personol fel Cymraes ddu.


Kizzy Crawford

Mae Kizzy Crawford, y Gymraes Gymraeg 24 oed o dras Barbadaidd, wedi dod i fri trwy gyfuno jazz soul-gwerin dwyieithog. Mae Kizzy wedi derbyn sylw am ei gwaith a chael ei darlledu ar Radio Cymru, BBC 6MUSIC, BBC Radio 1, 2, 3 a 4, BBC Radio Wales a Jazz FM yn ogystal â derbyn cefnogaeth ar donnau’r awyr yn Ewrop ac UDA.

Mae Kizzy wedi chwarae mewn llu o gigs yn cynnwys sioeau yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru yn ystod WOMEX, London Jazz Festival, The Great Escape, UNESCO Berlin, Gŵyl y Gelli, Gŵyl Dinefwr, Cynhadledd Plaid Cymru, Blissfields, Wakestock, Celtic Connections, L’Orient, Gŵyl Fwyd Y Fenni (ble y perfformiodd ei sengl Golden Brown yn fyw ar BBC Radio 4) a’r Prince Edward Island Festival, Canada. Mae Kizzy hefyd wedi perfformio fel artist gwadd gyda Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC ac fel artist cefnogol i Gruff Rhys, Newton Faulkner, Benjamin Francis Leftwich, a pherfformiodd hefyd gyda Cerys Matthews yn Nhŷ’r Cyffredin, San Steffan ac yn fwy diweddar bu’n artist gwadd gydag Omar ar ei gân ‘Be Thankful’ yn ei sioe lwyddiannus yn Llundain.


Mae tîm Cynhyrchu Cerdd y Dyfodol 2021 yn cynnwys Elen Roberts (Cynhyrchydd) ac Eädyth (Cynhyrchydd Cynorthwyol).

Eädyth

Ar gyfer Cerdd y Dyfodol 2021, mae Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru wedi partneru gyda’r dylunydd sain a’r cerddor electronig dwyieithog Eädyth, sy’n prysur dyfu’n enw adnabyddus i wrandawyr BBC Radio Cymru a BBC Wales. A hithau’n cynhyrchu ei brand unigryw ei hun o sain electro-soul mwyn, ei geiriau dwyieithog a’i sioeau byw trawiadol, mae wedi bod yn rhan o gynlluniau talent BBC Horizons a Forté Project, sy’n profi gymaint y mae’r diwydiant cerddoriaeth Cymreig yn credu yn ei thaith gerddorol. Fel Cynhyrchydd Cynorthwyol gyda Cherdd y Dyfodol, bydd Eadyth yn taro llygad feirniadol dros y prosiect ac yn cynnig syniadau strwythurol meddylgar yn seiliedig ar ei phrofiadau personol fel egin-artist ifanc Cymreig sy’n byw yng Nghymoedd y De.


Elen Roberts

Mae Elen yn guradur a chynhyrchydd amlddisgyblaethol sy’n gweithio yng Nghaerdydd sydd â 10 mlynedd o brofiad yn y diwydiant celfyddydol rhyngwladol. Mae wedi gweithio gyda cherddorion ar amrywiol gyfnodau o’u gyrfa, yn enwedig wrth eu helpu i fwyafu cyfleoedd arddangos rhyngwladol a datblygu marchnadoedd newydd ar gyfer eu gwaith. Mae wedi gweithio gydag artistiaid oedd yn arddangos yn SXSW, Indie Week Toronto, POP Montréal, WOMEX a’r Folk Alliance International, i enwi dim ond rhai. Mae Cerdd y Dyfodol yn gyfle cyffrous i weithio gyda phobl ifanc ar ddechrau eu taith greadigol i ddod yn gerddorion proffesiynol.

Previous
Previous

Enwau mawrion o’r byd dawns a theatr gerdd i helpu i ddathlu perfformio ledled Cymru

Next
Next

Cwmnïau Dawns Cenedlaethol Ieuenctid Cymru a’r Alban yn cwrdd yn rhithiol trwy ddosbarthiadau meistr ar-lein Y Cymundod Celtaidd