Enwau mawrion o’r byd dawns a theatr gerdd i helpu i ddathlu perfformio ledled Cymru

Mae Layton Williams, seren Everybody’s Talking About Jamie, a’r arloesol ZooNation - The Kate Prince Company ymysg yr enwau mawrion fydd yn cynnal gweithdai ar gyfer dawnswyr ifanc o Gymru, fel rhan o ddathliad rhithiol o ddawns a pherfformiad ym mis Mai.

Gwahoddir dawnswyr ifanc o bob cwr o Gymru i gymryd rhan yn y Diwrnod Dawns digidol hwn, fydd yn cynnwys diwrnod yn llawn dop o weithdai a dosbarthiadau meistr gaiff eu rhedeg gan rai o goreograffwyr a sefydliadau dawns penna’r wlad.

Trefnir y digwyddiad gan Gelfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru, fydd yn dwyn ynghyd ddawnswyr Cymreig rhwng 11 a 19 oed i gymryd rhan mewn llu o weithdai bywiog, fydd yn cynnwys ystod eang o arddulliau dawns.

Caiff y gweithdai, a gynhelir ar Ddydd Sadwrn 15 Mai, eu harwain gan rai o goreograffwyr a sefydliadau dawns mwyaf adnabyddus y wlad, yn cynnwys Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru, Ballet Cymru, Company Chameleon a llawer mwy.

Bydd Layton, sy’n fwyaf adnabyddus am chwarae’r brif rôl yn y sioe gerdd anhygoel Everybody’s Talking About Jamie, yn arwain gweithdy awr o hyd yn canolbwyntio ar theatr gerdd.

"I cannot wait to slay with everyone (virtually) soon... Let’s dance!!” - Layton Williams

Yn y cyfamser, bydd yr anfarwol ZooNation - The Kate Prince Company, yn cynnal gweithdy theatr hip hop.

Yn ogystal â gweithdai, bydd y Diwrnod Dawns yn cynnwys dosbarthiadau meistr a thrafodaethau panel hefyd, gan roi cyfle i grwpiau dawns gorau’r wlad ddod at ei gilydd i ddathlu dawns trwy raglen fywiog o ryngweithio digidol. Daw’r digwyddiad i ben gyda nifer o ddosbarthiadau meistr digidol ar Ddydd Sul 16 Mai wedi eu hanelu at ddawnswyr dan hyfforddiant, graddedigion ac artistiaid dawns proffesiynol 18+ oed sy’n gweithio neu’n byw yng Nghymru.

Caiff digwyddiad y dydd Sadwrn ei ddilyn gan gyngerdd clo ar-lein U.Dance Cymru - dathliad cenedlaethol o berfformiadau gan bobl ifanc 11-19 mlwydd oed, a hyd at 25 oed i bobl ifanc ag anableddau. Cynhyrchir U.Dance Cymru 2021 gan Gelfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru fel rhan o raglen genedlaethol U.Dance, a drosglwyddir mewn partneriaeth gyda One Dance UK.

Mae One Dance UK a U.Dance Cymru yn croesawu dawnswyr sy’n perfformio unrhyw arddull neu genre, ac yn annog grwpiau cynhwysol i ymgeisio i ddawnsio yn yr ŵyl.

Oherwydd y cyfyngiadau Covid-19 presennol, cynhelir digwyddiad eleni ar-lein yn ei gyfanrwydd.

Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau U.Dance 2021 ydi 5pm ar Ddydd Gwener 30 Ebrill, a bydd rhaid i grwpiau fod ar gael i gymryd rhan mewn gweithdai a digwyddiadau digidol ar Ddydd Sadwrn 15 Mai.

Meddai Jamie Jenkins, Cynhyrchydd gyda Dawns Genedlaethol Ieuenctid Cymru: “Mae’n bleser mawr iawn gennym gynnal dau ddigwyddiad mor wych - y Diwrnod Dawns ac U. Dance Cymru ar y cyd.

“Ar adeg pan rydym yn dal i orfod cadw ein pellter, mae’n wych y gallwn ni gyd ddod at ein gilydd yn rhithiol i ddathlu dawns ac arddangos y llu o arddulliau dawnsio rhagorol sydd gennym ledled Cymru.

“Mae’n fraint cael rhai o’r enwau mwyaf ym myd dawns i gymryd rhan yn y digwyddiad hwyliog a bywiog hwn.”

Previous
Previous

Theatr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yn arddangos pedair ffilm fer newydd wrth i'r oedran bleidleisio ostwng i 16 mlwydd oed

Next
Next

Cyhoeddi mentoriaid Cerdd y Dyfodol 2021