O'r Ystafelloedd Dosbarth i Ganol y Llwyfan: Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru  yn ysbrydoli perfformwyr ledled Cymru

Cyn-aelod o Theatr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru, Niamh Moulton, yn cyflwyno ar y sioe deithiol. Llun: Kirsten McTernan

Ar adeg pan fo'r sector Celfyddydau ledled Cymru yn wynebu pwysau ariannol ac ansicrwydd cynyddol, mae Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru (CCIC) wedi bod yn achubiaeth hanfodol i bobl ifanc greadigol. Trwy gydol mis Chwefror a Mawrth 2025, fe wnaeth CCIC ymweld â 15 ysgol uwchradd, colegau a theatrau ieuenctid, gan ymgysylltu â dros 550 o fyfyrwyr 14-18 oed mewn gweithdai deinamig sydd wedi'u cynllunio i feithrin y genhedlaeth nesaf o berfformwyr.

Yn cael ei chyflwyno gan dîm ifanc o gyn-fyfyrwyr Theatr Genedlaethol Ieuenctid Cymru (ThGIC) - llawer ohonynt ers hynny wedi adeiladu gyrfaoedd yn y celfyddydau - yn ogystal â darparu datblygiad sgiliau roedd Sioe Deithiol CCIC hefyd yn cyflwyno neges bwerus: ni ddylai cyfleoedd yn y celfyddydau cael eu cadw i ychydig o bobl, yn enwedig gan fod toriadau cyllid yn bygwth culhau'r llwybr.

Dywedodd Megan Childs, Cynhyrchydd Theatr Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru:

"Roedd cyfarfod a siarad â myfyrwyr, arweinwyr cyrsiau ac athrawon o ysgolion, colegau a theatrau ieuenctid ledled Cymru yn fraint. Mae'r ymrwymiad i'r celfyddydau yn y sefydliadau addysgol hyn yn ysbrydoledig, yn enwedig yn yr ardaloedd hynny yng Nghymru sy'n wynebu caledi economaidd go iawn a diffyg adnoddau. Heb os, does dim diffyg brwdfrydedd na thalent ymhlith pobl ifanc yng Nghymru ac yn ddi-os mae angen cefnogi gyda buddsoddiad a chyfleoedd i'r rhai sydd am astudio pynciau'r celfyddydau perfformio naill ai fel cymhwyster neu fel gweithgaredd allgyrsiol."

Mae'r Sioe Deithiol yn rhan o raglen Llysgenhadon newydd CCIC, sy'n cynnig cyfleoedd hyfforddi a hwyluso â thâl i gyn-aelodau ensemble ThGIC. Mae'r cyn-fyfyrwyr hyn nid yn unig yn arwain gweithdai ond hefyd yn rhannu eu teithiau eu hunain, gan ddangos i fyfyrwyr sut y gall cyfranogiad yn y celfyddydau arwain at yrfaoedd proffesiynol a datblygiad personol gydol oes.

Myfyriodd Niamh Moulton, aelod o CCIC 2017-2019 sydd bellach yn gweithio'n broffesiynol yn y celfyddydau:

"Roedd hi'n wych cael dweud wrth fyfyrwyr sydd â diddordeb yn y celfyddydau creadigol beth all Theatr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru ei gynnig iddyn nhw. Roedden nhw’r oedran perffaith i allu gwneud cais a chael clyweliad dros sawl blwyddyn wahanol, sy'n rhywbeth yr hoffwn i fod wedi'i wneud. Rwyf hefyd yn falch bod ysgolion yng Nghymru yr un mor angerddol ac awyddus am y celfyddydau ag yw CCIC - cam cadarnhaol i'r cyfeiriad gorau ar gyfer dyfodol y diwydiant."

Ychwanegodd Dafydd Leonard, sydd wedi bod yn rhan o CCIC ers 2019:

“Roeddwn i'n gweld yr awydd i gymryd rhan gan y myfyrwyr yn wirioneddol ysbrydoledig. Roeddwn i eisiau bod [yn llysgennad] oherwydd pa mor arbennig oedd fy amser gyda'r Theatr Genedlaethol Ieuenctid Cymru. Roeddwn i eisiau rhoi gwybod i’r genhedlaeth nesaf o bobl greadigol ifanc am sut y gallent gymryd rhan a chael profiad bythgofiadwy, yn union fel y gwnes i."

Mae un stop ar y Sioe Deithiol, Afon Taf, Troed y Rhiw, yn enghraifft berffaith. Rhannodd yr athrawes ddrama Miss Jones:

“Roedd y profiad yn amhrisiadwy i'n myfyrwyr, llawer ohonynt yn dod o ardal ddifreintiedig yn gyffredinol lle mae cyfleoedd yn y celfyddydau yn gyfyngedig. Fel yr unig athro Drama ers cymhwyso, rwyf wedi bod yn gweithio i adeiladu'r adran ddrama o'r gwaelod i fyny, gan ymdrechu i ddarparu cyfleoedd creadigol mewn cyfnod lle mae Addysg y Celfyddydau yn cael ei dan-ariannu'n gynyddol a lle nad yw’n derbyn digon o adnoddau. Roedd gweld y myfyrwyr yn ymgysylltu mor frwdfrydig â'r gweithdy a'r cyfleoedd o'u blaenau yn cadarnhau pa mor hanfodol yw'r celfyddydau wrth ysbrydoli hyder, creadigrwydd, a hunanfynegiant.

Llun: Kirsten McTernan

Mae cymryd rhan yn y celfyddydau perfformio yn cynnig llawer o fanteision i bobl ifanc, o datblygiad, manteision cymdeithasol ac emosiynol, twf academaidd a gwybyddol, lles corfforol a meddyliol a twf gyrfa a chyfleoedd. Er hyn, mae'r llwybrau yma yn gynyddol dan fygythiad. 

Yn gynharach eleni, cyhoeddodd Prif Weithredwr Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru, Evan Dawson, alwad gref i weithredu mewn ymateb i fwy o doriadau arfaethedig i gyllid y celfyddydau yng Nghymru:

“Ni allwn fforddio bod y genhedlaeth sy'n gwylio o'r ymylon wrth i'n hetifeddiaeth ddiwylliannol a photensial ein hieuenctid gael eu mygu gan doriadau annoeth yn y gyllideb. Gadewch i ni hyrwyddo dadeni ym maes celfyddydau Cymru, nid yn unig er mwyn diwylliant ond er mwyn datblygiad cyfannol ein cymdeithas.  Mae ein plant yn haeddu Cymru lle mae eu mynegiadau creadigol nid yn unig yn cael eu clywed ond yn cael eu dathlu, lle mae eu cyfranogiad yn y celfyddydau yn cael ei ystyried yn rhan sylfaenol o'u twf a'n dyfodol ni ar y cyd.”  Darllenwch y datganiad llawn yma.

Mae ceisiadau bellach ar agor ar gyfer clyweliadau Theatr Genedlaethol Ieuenctid Cymru 2025, ac yn cau dydd Iau 27 Mawrth. Bydd aelodau dethol yn elwa o dair rhaglen hyfforddi breswyl ddwys, partneriaethau â chwmnïau blaenllaw fel Theatr Clwyd a Chanolfan Mileniwm Cymru, a'r cyfle i lunio cynhyrchiad Pen-blwydd 2026 CCIC—i gyd wrth weithio'n ddwyieithog a meithrin cyfeillgarwch am oes. Bwcio cleweliad yma.

Wrth i Gymru wynebu penderfyniadau anodd ynghylch dyfodol cyllid y celfyddydau, mae ymrwymiad Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru i rymuso pobl ifanc yn y celfyddydau yn anfon neges glir: mae lleisiau creadigol ein pobl ifanc yn haeddu nid yn unig cael eu clywed—ond eu hyrwyddo.

Os hoffech chi ddarganfod sut y gallai rhoddion helpu i ddarparu cyfleoedd a mynediad i'r celfyddydau i bobl ifanc, cliciwch yma.

Next
Next

Grymuso’r Genhedlaeth Nesaf o Gantorion o Gymru