Sgwrs gydag Anthony Matsena

Wrth i Anthony Matsena ymuno â’n Bwrdd Ymddiriedolwyr, fe gafon ni sgwrs gyda’r coreograffydd a’r dawnsiwr am ei rôl newydd, am ei yrfa, ac am ddawnsio trwy’r pandemig presennol.

CCIC: Llongyfarchiadau ar gael eich penodi i Fwrdd Ymddiriedolwyr CCIC - rydym wrth ein bodd eich bod wedi ymuno â ni. Beth mae ymuno â’r sefydliad hwn yn ei olygu i chi a beth ydych chi’n gobeithio gallu ei gynnig / dylanwadu arno o ran eich gyrfa nodedig fel dawnsiwr proffesiynol?

AM: Mae’n golygu popeth i fod yn rhan o’r sefydliad y gallaf ddweud, â’n llaw ar fy nghalon, sydd wedi cael effaith positif dros ben ar fy ngyrfa ym myd dawns. Mae’n fraint aruthrol, cofiwch dim ond 4 blynedd yn ôl roeddwn i’n rhannu’r llwyfan gyda fy nghyd-aelodau o DGIC. Rwy’n gobeithio sicrhau newid positif i’r rhaglen ddawns gan sicrhau, fel mudiad, bod y gwaith yr ydym yn ei drosglwyddo yn cydweddu gyda’r gwaith sydd allan yna heddiw. Mae dawns gyfoes yn greadur sy’n newid yn barhaus, felly mae’n anodd gwneud yn siŵr bod pobl ifanc yn derbyn yr hyfforddiant cywir i sicrhau gyrfaoedd llwyddiannus maith ym myd Dawns. Rydw i am ei gwneud hi’n haws i ddawnswyr gyda gwahanol hyfforddiant i’r cefndir ballet a chyfoes arferol, ganfod eu ffordd i mewn i’r rhaglen. Rwy’n gwybod bod llu o ddoniau allan yna yng Nghymru sydd angen cyflawni eu llawn botensial. Yn olaf, rwy’n gyffrous i roi rhywbeth yn ôl i Gymru ac i fudiad sydd â lle arbennig yn fy nghalon.

 

CCIC: Sut wnaeth CCIC eich ysbrydoli wrth ichi ddilyn eich gyrfa?

AM: Fe wnaeth fy ysbrydoli i wthio y tu hwnt i fy ffiniau a chynnal lefel o ragoriaeth a balchder yn y gwaith yr ydym yn ei greu a’i gynhyrchu yma yng Nghymru. Mynd ar y cyrsiau preswyl hynny ble roeddwn i’n teimlo fel sbwnj, roedd dysgu oddi wrth yr holl dalent o bob cwr o Gymru yn brofiad heb ei ail. Fe wnaeth DGIC imi sylweddoli’r nodau a’r uchelgeisiau mwyaf oedd yn bosibl.  

CCIC: Pam ydych chi’n credu y dylai dawnswyr ifanc uchelgeisiol 16-22 oed o Gymru ymdrechu i gynrychioli Cymru fel aelodau o CCIC?

AM: Rwy’n credu bod dau beth i ddawnswyr ifanc sy’n anelu i gynrychioli Cymru; un yw balchder Cymru, ein gwlad, sydd â chymaint o harddwch a diwylliant fel bod agen inni floeddio amdano er mwyn i’r byd ddysgu gwlad mor arbennig ydi hon ac, yn ail, i ymdrechu am ragoriaeth yn eu gyrfaoedd, mae profiad a chysylltiadau’n ffurfio ein gyrfaoedd. Yma yn CCIC, fe gewch chi gyfle i greu cysylltiadau gydag arweinyddion o’r diwydiant ac ennill y lefel uchaf o brofiad gyda chyfoedion y byddwch yn gweithio gyda nhw am flynyddoedd i ddod.

 

CCIC: Pa gyngor pwysig fyddech chi’n ei roi i ddawnswyr ifanc awyddus (neu berfformwyr yn gyffredinol)?

AM: Un cyngor sy’ gen i sef agorwch eich hun i bob profiad. Allwch chi fyth ragweld yr hyn fyddwch chi’n ei hoffi a’r hyn fydd yn ddefnyddiol ar yr adeg yma o’ch gyrfa ac mewn bywyd yn gyffredinol, felly os welwch chi gyfle i dyfu a dysgu GAFAELWCH YNDDO waeth beth fydd unrhyw un arall yn ei ddweud.

 

CCIC: Mae cynyddu amrywiaeth yn y celfyddydau’n ddatblygiad allweddol y mae angen i bob un ohonom fynd i’r afael ag e. Mae CCIC yn gweithio’n galed i gyrraedd cynulleidfaoedd newydd a chynyddu ymwybyddiaeth am ein cynllun Bwrsariaethau sy’n atal cost rhag bod yn rhwystr i unrhyw berfformiwr ifanc talentog o Gymru sy’n cael cynnig lle. Sut ydych chi’n teimlo y gall sefydliad fel CCIC sicrhau a hybu amrywiaeth yn fwyaf effeithlon?

AM: Rydw i wedi ystyried hyn yn ddwys ac i mi mae’n gymharol syml. Byddai cyflogi pobl groenliw sy’n deall y cymunedau a’r diwylliannau y maent angen eu cyrraedd yn cael effaith aruthrol. Mae cynrychiolaeth yn bwysig, mae cael pobl sy’n edrych fel y bobl yr ydym yn ceisio cysylltu â nhw’n ei gwneud yn haws iddyn nhw deimlo bod croeso iddyn nhw a pheidio bod yn ofnus ynghylch ymgeisio os ydyn nhw’n teimlo eu bod yn perthyn yno.

CCIC: Beth yw uchafbwyntiau eich gyrfa? 

AM: Uchafbwyntiau fy ngyrfa yw perfformio ar Britain’s Got Talent yn 2010 fel A3 gyda fy mrodyr.
Perfformio gwaith Kerry Nicholls ‘aM’ ar gyfer DGIC 2015 ar brif lwyfan Sadler’s Wells.
Rhaglen gyfan gyntaf fi a fy mrodyr ‘Out Of Options’ yn The Bunker Theatre yn 2017.
Rhannu fy ngwaith ‘Vessels of Affliction’ ar brif lwyfan Sadler’s Wells y llynedd.
Perfformio yn ‘Tree’ gan Idris Elba a Kwame Kwei-Armah y llynedd yn MIF a theatr y Young Vic.
Cael fy mhenodi’n Artist Cysylltiol gyda CDCCymru a Messums Wiltshire eleni.
Ymuno â Bwrdd CCIC. 

CCIC: Beth ydych chi’n gweithio arno ar hyn o bryd?

AM: Rwy’n ffodus iawn i fod yn gweithio ar berfformiad a ffilm gyda fy nghwmni, yr ydw i’n gyd-berchen arno gyda fy mrawd, Matsena Performance Theatre, a gomisiynwyd gan Messums Wiltshire. Rwy’n dweud ffodus, oherwydd mae pob un ohonom yn gwybod pa mor ddinistriol y mae COVID-19 wedi bod ar ein gyrfaoedd fel perfformwyr a gwneuthurwyr. Mae golau ar ddiwedd y twnnel tywyll hwn. Dewch inni gyd ddal ati i greu ac i symud, fel ein bod yn barod pan ddaw’r amser inni rannu’r celfyddydau unwaith eto.

-

Darllen Mwy: Penodi Anthony Matsena, cyn-aelod dawns Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru, i’r Bwrdd Ymddiriedolwyr

Previous
Previous

Llesiant, myfyrio ac yoga - adnoddau llesiant newydd gan Gelfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru

Next
Next

Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru i greu rolau dan hyfforddiant newydd cyflogedig trwy gronfa Incubator Fund Youth Music