
NEWYDDION
Llongyfarchiadau i enillwyr ein gwobrau Cerddorfa a Band Pres 2024
Bob blwyddyn ar ein preswyliadau, rydym yn dathlu ein cerddorion sy'n dangos yr addewid a'r ymroddiad mwyaf. Y tiwtoriaid adrannol sy'n penderfynu pwy sy'n derbyn pob gwobr yn ystod y cyfnodau preswyl.
Bob blwyddyn ar ein preswyliadau, rydym yn dathlu ein cerddorion sy'n dangos yr addewid a'r ymroddiad mwyaf. Y tiwtoriaid adrannol sy'n penderfynu pwy sy'n derbyn pob gwobr yn ystod y cyfnodau preswyl.
Hoffai Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru rhoi diolch i'r rhai sydd wedi rhoi arian i greu'r gwobrau hyn.
Band Pres Cenedlaethol Ieuenctid Cymru
Tlws Coffa John Childs
Dyfarnwyd i’r chwaraewr mwyaf addawol ar y cwrs preswyl eleni
Solomon Maghur
Gwobr David Mabey
Dyfarnwyd i’r chwaraewr sydd wedi gwella fwyaf ar y cwrs preswyl
Cari Jones
Tlws y Prif Gornet
Er cof Tony Small
Erin Maloney
Cerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru
Gwobr Haydn Davies
Dyfarnwyd i’r chwaraewr mwyaf addawol sy’n dal i fod ym myd addysg
Xinrong Zou
Gwobrau Irwyn Walters (Ffrindiau CGIC)
Dyfarnwyd i’r ddau chwaraewr llinynnol mwyaf addawol yn y cwrs preswyl eleni
Sharon Liang a Mali Wood
Gwobr Wil Jones
Dyfarnwyd i’r chwaraewr chwythbrennau mwyaf addawol yn y cwrs preswyl eleni
Amélie Donovan
Gwobr Goronwy Evans
Dyfarnwyd i'r chwaraewr pres mwyaf addawol yn y cwrs preswyl eleni
Carys Williams
Gwobr Telyn Tony Moore
Dyfarnwyd i’r telynor mwyaf addawol yn y cwrs preswyl eleni
Yasmin Richards
Gwobr Offerynnau Taro Tony Moore
Dyfarnwyd i’r chwaraewr offerynnau taro mwyaf addawol yn y cwrs preswyl eleni
Max Manuel
Gwobr Tîm Lles
Am gyfraniad cyffredinol i’r Gerddorfa
Aled Thistlewood
Haf o Gyngherddau Syfrdanol gan Gerddorion Ifanc Gorau Cymru
Mae’n bleser gennym ni gyhoeddi y bydd aelodau ein carfan 2024 hynod dalentog ar draws Band Pres, Cerddorfa a Chôr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yn teithio ledled Cymru yr haf hwn, gan arddangos eu sgil a’u hymrwymiad mewn cyfres o gyngherddau cyhoeddus syfrdanol.
Mae’n bleser gennym ni gyhoeddi y bydd aelodau ein carfan 2024 hynod dalentog ar draws Band Pres, Cerddorfa a Chôr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yn teithio ledled Cymru yr haf hwn, gan arddangos eu sgil a’u hymrwymiad mewn cyfres o gyngherddau cyhoeddus syfrdanol. Byddant yn ymweld â lleoliadau ar draws y wlad o Sir Benfro i Ddinbych ym mis Gorffennaf, Awst a Medi ac mae tocynnau ar werth nawr.
Yn dilyn proses glyweld gynhwysfawr yn gynharach eleni, mae aelodau ein ensembles wedi cael eu dewis i gynrychioli Cymru gyda lle chwenychedig yn eu priod Ensembles Cenedlaethol Ieuenctid Cymru. Cyn bo hir bydd ein haelodau’n cychwyn ar gwrs preswyl wythnos o hyd, yn gweithio gyda thimau creadigol cyffrous o bob rhan o’r byd, yn perffeithio eu repertoire cyngherddau cyn camu ar y llwyfan i syfrdanu cynulleidfaoedd ym Mangor, Llanelwy, Llanbedr Pont Steffan, Abertawe a Chaerdydd. Bydd y tri Ensemble hefyd yn perfformio yn Eglwys Gadeiriol fawreddog Tyddewi fel rhan o Ŵyl Gerdd Abergwaun 2024.
Dywedodd Matthew Jones, Uwch Gynhyrchydd CCIC: “Un o rannau gorau fy swydd yw profi perfformiadau gwych ein ensembles cerddoriaeth. Ymhlith rhai o gerddorion mwyaf dawnus Cymru, mae ein haelodau ifanc yn gweithio’n galed yn ystod ein cyrsiau preswyl yn yr haf i roi rhaglen gyffrous o gerddoriaeth at ei gilydd i chi ei mwynhau. Edrychwn ymlaen at eich croesawu i’n perfformiadau, lle gallwn ddathlu’r gorau o dalent gerddorol Cymru gyda’n gilydd.”
Am y tro cyntaf erioed, bydd Cerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru yn perfformio cyngerdd cynhwysol, hamddenol. Yn cael ei gynnal yng Nghanolfan yr Holl Genhedloedd Caerdydd, mae'r perfformiad hwn sy’n fyrrach o ran hyd wedi'i gynllunio i ddarparu amgylchedd croesawgar a hygyrch i bob cynulleidfa, gan gynnwys pobl anabl, plant iau ac aelodau o'r gynulleidfa sy’n niwrowahanol.
Mae dathlu gwaith Cyn-fyfyrwyr CCIC hefyd yn nodwedd o'r tymor eleni. Bydd yr ensembles yn perfformio cerddoriaeth a ysgrifennwyd gan dri chyn-aelod gyda Steel Tracks gan Michael Triggs, a aned yng Nghaerdydd, yn cael ei berfformio gan y Band Pres, Five Windows gan Niamh O'Donnell o Aberystwyth yn rhan o raglen y Gerddorfa tra bydd y Côr yn perfformio Cainc, comisiwn newydd sbon gan y gyfansoddwraig a aned yng Nghaerfyrddin, Claire Victoria Roberts, i gerdd a ysgrifennwyd gan y bardd Cymraeg enwog, Mererid Hopwood.
Gyda haf cyffrous o gyngherddau syfrdanol yn dod i leoliad yn agos atoch chi, mae rhywbeth at ddant pawb. Peidiwch âcholli allan-ewch i'n tudalen Beth Sydd Ymlaen am restr lawn ac ymunwch â ni i glywed dyfodol cerddoriaeth Gymraeg.
Ein Cyngerdd Hamddenol yng Nghanolfan yr Holl Genhedloedd
Ar 31 Awst, bydd Cerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru yn perfformio cyngerdd hamddenol, wedi'i gynllunio i fod yn gynhwysol a chroesawgar ar gyfer pob oedran ac anghenion mynediad.
Yn y canllaw hwn, gallwch ddarganfod mwy am beth i'w ddisgwyl, a beth fydd gennym ni ar waith ar y diwrnod i'ch helpu i fwynhau'r cyngerdd.
Ar 31 Awst, bydd Cerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru yn perfformio cyngerdd hamddenol, wedi'i gynllunio i fod yn gynhwysol a chroesawgar ar gyfer pob oedran ac anghenion mynediad.
Yn y canllaw hwn, gallwch ddarganfod mwy am beth i'w ddisgwyl, a beth fydd gennym ni ar waith ar y diwrnod i'ch helpu i fwynhau'r cyngerdd.
Beth yw Cyngerdd Hamddenol?
Cyngerdd sy'n addas ar gyfer pob cynulleidfa, ni waeth eu hoedran na'u hanghenion mynediad.
Mae gan y lleoliad seddi hyblyg gyda digon o le ar gyfer cadeiriau olwyn, cerbydau symudedd neu bramiau/bygis.
Bydd dau le ymlacio ar gyfer unrhyw un sy'n teimlo wedi eu llethu, wedi cyffroi’n fawr neu a fyddai'n elwa o amser tawel ar unrhyw adeg yn ystod y cyngerdd. Mae'r rhain wedi'u lleoli yn y cyntedd ac mewn ystafell ar wahân lle gellir trosglwyddo'r cyngerdd drwy sgrin. Os ydych chi angen unrhyw gefnogaeth, bydd aelod o staff CCIC mewn crys-t coch yn gallu eich cyfeirio i'r mannau hyn.
Bydd y cyngerdd hwn yn fyrrach na chyngerdd cerddorfaol nodweddiadol. Bydd yn cynnwys elfennau o brif raglen gyngerdd y Gerddorfa a bydd yn para tua 1awr 15munud.
Bydd polisi drws agored ac mae aelodau'r gynulleidfa yn rhydd i fynd a dod a chyfathrebu fel maen nhw angen.
Ni fydd aelodau'r gerddorfa yn gwisgo’r wisg gyngerdd ffurfiol, yn hytrach byddant yn gwisgo eu dillad eu hunain.
Y Gerddoriaeth
Five Windows gan Niamh O’Donnell
Ysgrifennwyd y darn hwn gan gyfansoddwr ifanc o Aberystwyth o'r enw Niamh (i’w ynganu Neeve) O'Donnell. Ysbrydolwyd cerddoriaeth Niamh gan wahanol baentiadau gan yr artistiaid George Braque a Wassily Kandinsky. Mae'r gerddoriaeth, wedi'i rhannu'n bum adran yn disgrifio'r hyn mae Niamh yn ei weld a'i deimlo wrth edrych ar y paentiadau. Gallwch ddod o hyd i recordiad o'i darn yma: Niamh O'Donnell; Five Windows - recordiad
The Firebird Suite gan Igor Stravinsky
Bale a ysgrifennwyd gan y cyfansoddwr Rwsiaidd Igor Stravinsy ym 1910 oedd The Firebird. Yn ddiweddarach, creodd Stravinsky dair cyfres o'r gerddoriaeth bale ar gyfer perfformiadau cyngerdd. Y gerddoriaeth y byddwch chi'n ei glywed yn y cyngerdd hwn yw symudiadau dethol o'r gyfres a ysgrifennwyd ym 1945.
Mae thema'r gerddoriaeth yn seiliedig ar chwedlau gwerin Rwsiaidd, a byddwch yn clywed Stravinsky yn darlunio gerddi hudolus, tywysogion drwg, cariad ac wrth gwrs y Firebird hudolus!
Romeo a Juliet gan Sergei Prokofiev
Ysgrifennodd cyfansoddwr Rwsieg arall, Sergei Prokofiev, y bale Romeo a Juliet yn seiliedig ar ddrama William Shakespeare ym 1940. Bydd y gerddorfa yn perfformio symudiadau dethol o'r bale yn y perfformiad hwn, gan gynnwys un symudiad y bydd unrhyw un sy'n gwylio The Apprentice, yn ei adnabod yn syth!
Mae pob symudiad yn disgrifio elfen wahanol o stori enwog Shakespeare am y cariadon trist eu tynged hyn yn hyfryd mewn cerddoriaeth.
Ar y Diwrnod
Bydd y cyngerdd yn dechrau am 3.30pm, ond byddwn yn agor y drysau o 2.30pm, felly mae croeso i chi ddod yn gynnar ac ymgyfarwyddo â gofod y cyngerdd a'r lleoliad.
Bydd gennym ni staff ar gael i helpu gyda pharcio a’ch arwain chi i'r lleoliad.
Bydd y Gerddorfa'n dechrau gwneud eu ffordd i ardal y llwyfan o tua 3.15pm ac yn treulio peth amser yn chwarae eu hofferynnau i gynhesu'n barod ar gyfer dechrau'r cyngerdd.
Oherwydd amgylchiadau annisgwyl, ni fydd y cyngerdd hamddenol hwn yn cynnwys dehongliad BSL mwyach. Ymddiheurwn am yr anghyfleustra y gallai hyn ei achosi.
Y Lleoliad
Mae Canolfan yr Holl Genhedloedd yn lleoliad cwbl hygyrch heb unrhyw ymylon mwy nag 1cm i fynd o amgylch yr adeilad cyfan.
Bydd yr holl weithgarwch ar gyfer y cyngerdd hwn yn digwydd ar y llawr gwaelod, ond mae lifft i'r llawr cyntaf os oes angen.
Mae toiledau hygyrch ar gael ar y llawr gwaelod.
Maes Parcio
Mae 260 o leoedd parcio am ddim mewn dau faes parcio cyfagos, gyda digon o barcio hygyrch ar gael. Mae gennym ni hefyd y gallu i ddynodi lleoedd parcio hygyrch ychwanegol os oes angen.
Bydd parcio hygyrch yn cael ei ddarparu ym maes parcio'r Gorllewin, sy'n hygyrch drwy Sachville Avenue, o Heol yr Eglwys Newydd.
Teithio i'r Lleoliad
Mae Canolfan yr Holl Genhedloedd mewn safle da ar gyfer gyrru ac mae 260 o leoedd parcio am ddim i fynychwyr mewn dau faes parcio cyfagos.
Gallwch gyrraedd Maes Parcio y Gorllewin trwy Sachville Avenue oddi ar Heol yr Eglwys Newydd. Dyma'r lleiaf o'r ddau faes parcio ac felly mae'n llenwi'n gyflymach. Bydd y maes parcio hwn yn cael ei ddefnyddio ar gyfer parcio hygyrch ac felly rydym ni’n annog unrhyw un nad oes angen parcio hygyrch i ddefnyddio maes parcio'r Dwyrain yn lle hynny.
Gallwch gyrraedd Maes Parcio y Dwyrain yn syth oddi ar ffordd ymadael yr A48 i mewn i Gaerdydd ac mae'n cynnig dros 200 o lefydd.
Cysylltwch â ni
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau yn ymwneud â'r cyngerdd hwn, yna cysylltwch â ni ar nyaw@nyaw.org.uk neu ffoniwch ni ar 029 2280 7420 a byddwn yn falch o helpu.
Aelodau Theatr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yn mynd tu ôl i'r llenni gyda 'Nye' y National Theatre a Chanolfan Mileniwm Cymru
Mae Theatr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yn gyffrous i lansio ei chynnig aelodaeth ar gyfer 2024 gyda Llwybrau Proffesiynol yn cael ei redeg mewn partneriaeth â Theatr Clwyd ac mewn cydweithrediad â Chanolfan Mileniwm Cymru gyda'r cyfle unigryw hwn i gymryd rhan mewn diwrnod dwys o weithdai dan arweiniad gweithwyr proffesiynol y diwydiant.
Mae Theatr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru (ThCIC) yn gyffrous i lansio ei chynnig aelodaeth ar gyfer 2024 gyda Llwybrau Proffesiynol yn cael ei redeg mewn partneriaeth â Theatr Clwyd ac mewn cydweithrediad â Chanolfan Mileniwm Cymru gyda'r cyfle unigryw hwn i gymryd rhan mewn diwrnod dwys o weithdai dan arweiniad gweithwyr proffesiynol y diwydiant. Wedi'i gynllunio i feithrin talent ifanc ledled Cymru, mae Llwybrau Proffesiynol yn agored i bobl ifanc 16–22 oed, sydd eisiau ennill sgiliau perfformio a dysgu am y diwydiant theatr gan gynnwys rolau cefn llwyfan.
Ym mis Mai, gwyliodd mwy na 40 o bobl ifanc un o'r sioeau mwyaf poblogaidd yn y dref, wrth iddynt fynd y tu ôl i'r llenni yng nghynhyrchiad diweddaraf y National Theatre (NT) a Chanolfan Mileniwm Cymru (WMC) o 'Nye'. Gyda Michael Sheen yn serennu, cyn-fyfyriwr ThCIC, roedd y cast a'r tîm creadigol hefyd yn cynnwys nifer o gyn-fyfyrwyr ThCIC gan gynnwys Remy Beasley, Lee Mengo, Dyfan Dwyfor a Mali O'Donnell.
“Theatr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yw un o’r pethau mwyaf arbennig wnes i erioed ac rydw i’n ei gario gyda mi, hyd heddiw”
Dan arweiniad Cyfarwyddwr Cyswllt Nye, Francesca Goodridge a Bablu Shikdar o Ganolfan Mileniwm Cymru, cymerodd yr aelod o ThCIC ran mewn gweithdai sgript a theatr gorfforol yn seiliedig ar olygfeydd o Nye ochr yn ochr â sesiynau ar gyflwyno, podledu a llwybrau gyrfa, gan gynnig mewnwelediadau amhrisiadwy i'r llwybrau amrywiol yn y celfyddydau.
Cafodd y garfan gipolwg hefyd ar y cynlluniau newydd cyffrous ar gyfer y gofodau creadigol a'r cyfleoedd i bobl ifanc yng Nghanolfan Mileniwm Cymru
Roedd uchafbwyntiau eraill y dydd yn cynnwys mynediad at baratoadau cyn y perfformiad cast Nye ynghyd â sesiwn holi ac ateb gydag aelodau'r cast a'r tîm creadigol ar y cynhyrchiad. Rhoddodd hyn lwyfan ysbrydoledig i aelodau ifanc ThCIC gysylltu â gweithwyr proffesiynol profiadol ac ennill gwybodaeth uniongyrchol o'r diwydiant. Fe wnaeth y cyfranogwyr ifanc hefyd fwynhau gwylio Nye yn Theatr Donald Gordan, gan ddenu brwdfrydedd mawr.
Yn ystod y sesiwn holi ac ateb, dywedodd y cyn-fyfyriwr, Remy Beasley: "Theatr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yw un o'r pethau mwyaf arbennig wnes i erioed ac rydw i'n ei gario gyda mi, hyd heddiw. Mae'r rhan fwyaf o’r ffrindiau gorau sydd gen i nawr yn dod o Theatr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru. Bydd y berthynas hon yn parhau am ddegawdau o'ch bywyd. Mae'n lle arbennig iawn i fod."
Dywedodd Megan Childs, Cynhyrchydd ThCIC: "Roedd hwn yn ddechrau perffaith i raglen ThCIC 2024, gan ddod ag aelodau ThCIC o'r gorffennol a'r presennol at ei gilydd drwy'r ddrama nodedig hon gan Tim Price a National Theatre a Chanolfan Mileniwm Cymru, sydd ei hun yn awdur cynyrchiadau ThCIC yn y gorffennol. Rydym ni’n ddiolchgar iawn am haelioni cwmni Nye a Chanolfan Mileniwm Cymru wrth groesawu’r genhedlaeth nesaf o artistiaid o Gymru i’w hymarfer a’u sioe, gan gynnig y cydbwysedd perffaith o ysbrydoliaeth a datblygu sgiliau mae Llwybrau Proffesiynol yn anelu ato."
Mae ThCIC yn estyn diolch o galon i National Theatre a Chanolfan Mileniwm Cymru am wneud y profiad cyfoethog hwn yn bosibl.
Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yn galw am gydnabyddiaeth gyhoeddus bod cyfranogiad y celfyddydau yn hanfodol i les meddyliol pob person ifanc.
Yn ystod Wythnos Iechyd Meddwl 2024, rydym ni’n tynnu sylw at yr argyfwng ym maes iechyd meddwl i arddegwyr yng Nghymru, a'r rôl arwyddocaol y gallai cyfranogiad yn y celfyddydau ei chwarae wrth fynd i'r afael â hyn.
Yn ystod Wythnos Iechyd Meddwl 2024, rydym ni’n tynnu sylw at yr argyfwng ym maes iechyd meddwl i arddegwyr yng Nghymru, a'r rôl arwyddocaol y gallai cyfranogiad yn y celfyddydau ei chwarae wrth fynd i'r afael â hyn.
Iechyd Meddwl Pobl Ifanc yng Nghymru
Nododd 24% o bobl ifanc yn eu harddegau yng Nghymru lefelau “uchel iawn” o symptomau iechyd meddwl yn y blynyddoedd yn dilyn cyfnod clo COVID-19, yn ôl adroddiad diweddaraf y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd Ysgolion (SHRN) ym Mhrifysgol Caerdydd. Roedd merched bron ddwywaith yn fwy tebygol na bechgyn o fod wedi adrodd am lefelau uchel iawn o symptomau iechyd meddwl.
Yn yr un modd, cyhoeddodd Mind Cymru ymchwil yn dangos bod 34% o bobl ifanc 16-24 mlwydd oed wedi profi iechyd meddwl oedd yn dirywio yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Dywedodd niferoedd uchel eu bod yn teimlo dan fwy o straen (42%), yn fwy pryderus (41%), yn fwy isel (36%) ac yn dioddef cwsg gwaeth (39%), ac roedd tua thraean hefyd yn nodi eu bod yn datblygu teimladau o unigrwydd (30%).
Effeithiau Rhyfeddol Cyfranogiad y Celfyddydau
Mae tystiolaeth a gyhoeddwyd gan y Grŵp Ymchwil Bioymddygiadol Cymdeithasol yn UCL yn dangos bod pobl ifanc sy'n cymryd rhan yn rheolaidd yn y celfyddydau mewn llai o berygl o brofi iselder yn ystod glasoed. Mae ganddynt hunan-barch uwch hefyd, sydd yn ei dro yn effeithio ar ddatblygiad a lles gydol oes.
Ar gyfer y cannoedd o bobl ifanc sy'n cymryd rhan yn ensembles a phrosiectau ieuenctid CCIC, rydym ni wedi gweld yn uniongyrchol y rôl bwysig mae'r celfyddydau yn ei chwarae yn eu hiechyd a'u hapusrwydd:
Dywedodd Aelod o Gwrs Preswyl CCIC: “Roedd bod yn aelod o CCIC yn werthfawr iawn i'm hiechyd meddwl dros y cyfnod clo... Roedd dychwelyd i gwrs preswyl yn bersonol yn 2022 yn brofiad anhygoel, a wnaeth yn bendant fy helpu i adennill llawer o'r hyder yr oeddwn wedi'i golli dros y cyfnod clo.”
Rydym ni wedi clywed straeon newyddion yr un mor gadarnhaol gan ein mudiadau partner niferus ledled Cymru, gan gynnwys Gwasanaethau Cerdd Cenedlaethol Cymru, Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, Urdd Gobaith Cymru, Elusen Aloud, Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru, Ballet Cymru, Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, Theatr Clwyd ac eraill. Mae gan Gymru ecoleg gyfoethog ac amrywiol o gyfleoedd celfyddydol i bobl ifanc, o oedran cynradd, hyd at addysg uwch, a thu hwnt. Fe wnaeth cyflwyno'r Cynllun Cenedlaethol ar gyfer Addysg Gerdd yn 2022 helpu i gynyddu cydweithio ar draws yr holl sefydliadau cerddoriaeth cenedlaethol, ac rydym yn datblygu strategaethau tebyg ar draws y sectorau theatr a dawns.
Buddsoddiad Cyhoeddus yn y Celfyddydau
Yn ei chyllideb ar gyfer 2024-25, gwnaeth Llywodraeth Cymru doriadau ar draws sawl sector er mwyn mynd i'r afael â diffyg sylweddol yn ei chyllideb gwerth £23bn. Mae cymorth i ddiwylliant, chwaraeon a thwristiaeth wedi gostwng £16m (gan gynnwys toriad o 10.5% i Gyngor Celfyddydau Cymru) wrth i'r llywodraeth ail-flaenoriaethu gwariant ar gyfer gwasanaethau iechyd. Bydd hyn yn gostwng £1.9m arall wrth i gyllidebau awdurdodau lleol gael eu heffeithio.
O ganlyniad, bydd darpariaeth celfyddydol ar gyfer pobl ifanc yn anochel yn cael ei lleihau. Mae'r holl dystiolaeth uchod yn awgrymu y byddwn ni’n gweld effaith uniongyrchol ar iechyd meddwl a chorfforol pobl ifanc ledled Cymru, gydag effeithiau pwysig i'r GIG a'r gwasanaethau cymdeithasol. Gallai'r costau ychwanegol canlyniadol hynny fod yn fwy na'r £18m sydd wedi'i dynnu oddi wrth ddarpariaeth y celfyddydau.
Dywedodd Evan Dawson, Prif Swyddog Gweithredol CCIC: "Mae'r gyllideb ar gyfer addysg a chyfranogiad celfyddydol yng Nghymru yn sicrhau enillion enfawr ar y buddsoddiad hwnnw. Mae angen i'r llywodraeth ddeall ar frys y bydd gwario llai ar ddarpariaeth y celfyddydau i bobl ifanc yn cynyddu straen ar y GIG. I'r gwrthwyneb, os ydym yn buddsoddi mwy mewn darpariaeth celfyddydau wedi'i thargedu, byddem yn cefnogi iechyd meddwl i bawb, wrth adeiladu Cymru hyderus, greadigol a hael ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol."
Dywedodd David Jackson OBE, Cadeirydd CCIC: “Mae effaith gadarnhaol cyfranogiad yn y celfyddydau ar iechyd meddwl yn amlwg ers tro, ac ni fu erioed fwy o angen yr effaith hon nag yn awr. Mae'n hollbwysig y dylai Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru barhau i ddatblygu ac ehangu ei gweithgareddau er budd pobl ifanc Cymru.”
Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yn lansio Criw Creu Newid.
Ar Ddiwrnod y Ddaear 2024, rydym yn gyffrous i lansio'r Criw Creu Newid - cydweithfa ieuenctid newydd sy'n cefnogi pobl greadigol ifanc i ddylanwadu ar ddyfodol y celfyddydau ledled Cymru. Bydd yn meithrin y genhedlaeth nesaf o arweinwyr y celfyddydau, gan ganolbwyntio ar faterion amgylcheddol, diwylliannol a chymdeithasol.
Mae Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru (CCIC) yn grymuso'r genhedlaeth nesaf o gerddorion, actorion, dawnswyr a gwneuthurwyr i greu dyfodol creadigol, hyderus a hael i Gymru.
Ar Ddiwrnod y Ddaear 2024, rydym yn gyffrous i lansio'r Criw Creu Newid - cydweithfa ieuenctid newydd sy'n cefnogi pobl greadigol ifanc i ddylanwadu ar ddyfodol y celfyddydau ledled Cymru. Bydd yn meithrin y genhedlaeth nesaf o arweinwyr y celfyddydau, gan ganolbwyntio ar faterion amgylcheddol, diwylliannol a chymdeithasol.
Credwn y dylai pob person ifanc gael mynediad at ystod eang o gyfleoedd artistig a diwylliannol fel rhan o fywyd iach, cysylltiedig â chyflawn. Gan ddod â gweledigaethwyr ifanc o bob rhan o Gymru at ei gilydd, bydd Criw Creu Newid yn darparu llwyfan i lunio cyfeiriad strategol ac artistig CCIC, a dylanwadu ar newid yn sector celfyddydau ehangach Cymru. Bydd y gydweithfa yn helpu i nodi'r rhwystrau sy'n atal cymaint o bobl ifanc rhag cymryd rhan yn y celfyddydau, a sut y gellid goresgyn y rhain. Bydd yn grymuso pobl ifanc i yrru cynnydd a sicrhau bod eu lleisiau'n cael eu clywed ledled y sefydliad.
Yn ogystal â hwyluso deialog a gweithrediadau, bydd Criw Creu Newid yn gwasanaethu fel canolbwynt ar gyfer meithrin arweinwyr sector celfyddydau Cymru yn y dyfodol. Trwy ddosbarthiadau meistr a sesiynau hyfforddi sgiliau dan arweiniad gweithwyr proffesiynol dylanwadol, bydd aelodau'n cael cyfle i hogi eu sgiliau arwain ac ehangu gorwelion eu gyrfaoedd eu hunain.
Dywedodd Mason Edwards, Cynhyrchydd Cynorthwyol gyda CCIC: "Rwy'n falch iawn i weld lansiad y Criw Creu Newid wrth i Gelfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru barhau â'i waith tuag at feithrin Llais Ieuenctid ym mhob rhan o'r sefydliad. Fel aelodau ar y cyd, nid yn unig y bydd gan y bobl ifanc hyn sedd wrth fwrdd CCIC, ond hefyd y cyfle i ddod at ei gilydd fel y genhedlaeth nesaf o arweinwyr y celfyddydau a helpu i lunio dyfodol celfyddydau Cymru er gwell".
Mae'r Criw Creu Newid yn cynnwys deg bobl ifanc, 18-25 oed o sawl cefndir ledled Cymru - wedi'u huno gan eu hangerdd am y celfyddydau a'u hymrwymiad i newid cadarnhaol. Byddant yn cyfarfod drwy gydol y flwyddyn i gydweithio ar fentrau allweddol fel stiwardiaeth amgylcheddol, partneriaethau cymunedol, cyfrifoldeb cymdeithasol a mesurau amrywiaeth a chynhwysiant.
Wrth wraidd y prosiect mae Adroddiad Criw Creu Newid, dogfen uchelgeisiol a luniwyd gan ei aelodau i arwain gwaith CCIC yn y blynyddoedd sydd i ddod. Bydd hyn yn cynrychioli gweledigaeth ar y cyd o ddyfodol mwy cyfiawn, teg a bywiog, gan wasanaethu fel cwmpawd wrth i CCIC lywio'r ffordd o'n blaenau.
Dywedodd Rightkeysonly, aelod o’r Criw Creu Newid CCIC: "Gan fy mod yn gorfforol anabl, yn niwroamrywiol, ac yn rhan o'r gymuned LGBT+ fy hun, rwy'n cael fy ngyrru i wella mynediad i'r celfyddydau, gan nad oedd bob amser ar gael i mi dyfu i fyny. Rwy'n credu bod CCIC yn gwneud y celfyddydau yn fwy hygyrch i unigolion amrywiol, a hoffwn gyfrannu at y daith honno".
Dywedodd Karema Ahmed, aelod arall o’r Criw Creu Newid CCIC: "Mae ymuno â CCIC fel Criw Creu Newidyn cynnig cyfleoedd dysgu amhrisiadwy. Rwyf wrth fy modd â'r safbwyntiau amrywiol yn y prosiect, gan ein galluogi i ddeall ein gilydd yn well. Rwy'n gobeithio, ar ôl y prosiect hwn, ein bod i gyd yn gallu cael gwell persbectif ar yr hyn sydd angen newid er gwell i'r dyfodol".
I ddarganfod mwy am y prosiect ac i ddarllen straeon unigol y Criw Creu Newid, ewch draw i dudalen we Criw Creu Newid.
Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yn helpu pobl ifanc i wneud eu marc ar y sîn gerddoriaeth Gymraeg.
Ddiwedd mis Mawrth, roedd cerddoriaeth anhygoel yn llenwi'r awyr wrth i dros 20 o gerddorion ifanc o bob cwr o Gymru ddod at ei gilydd yn Rockfield Studios, Trefynwy ar gyfer yr wythnos breswyl "Cerdd y Dyfodol."
Mae'r prosiect "Cerdd y Dyfodol," dan arweiniad Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru (CCIC), yn rhaglen datblygu cerddoriaeth gyfoes ar gyfer gwneuthurwyr cerddoriaeth Cymru yn y dyfodol. Mae'n galluogi pobl ifanc 16-18 mlwydd oed, o gefndiroedd amrywiol, i ddarganfod eu potensial fel artistiaid, ac yn eu cefnogi i gamu i mewn i'r sîn gerddoriaeth Gymraeg bresennol. Mae'r prosiect yn cynnwys genres fel Grime, Indi, Electronica ac RnB.
Wedi'i gynnal yn stiwdios eiconig Rockfield, lle mae sêr fel Queen, Led Zeppelin, Coldplay ac Oasis wedi gwneud recordiadau eiconig, roedd cwrs preswyl Cerdd y Dyfodol yn daith gyffrous o greadigrwydd, cydweithio a darganfod. Diolch i gyllid hael gan Lywodraeth Cymru drwy Cymru Greadigol, dewiswyd y cerddorion uchelgeisiol hyn i gymryd rhan yn y rhaglen wythnos rhad ac am ddim o weithdai cyfansoddi caneuon, trafodaethau diwydiant, sesiynau recordio a chydweithio a chyfleoedd mentora.
Dywedodd Gerwyn Evans, Dirprwy Gyfarwyddwr Cymru Greadigol: "Sefydlwyd ein Cronfa Sgiliau Creadigol i greu cyfleoedd i ddarpar bobl greadigol o bob cefndir a hyrwyddo arfer cynhwysol ar draws y sectorau. Mae'n wych gweld CCIC yn rhoi eu cyllid i ddefnydd rhagorol drwy ddarparu profiadau ymarferol a bywyd go iawn i artistiaid cerddoriaeth ein cenhedlaeth nesaf, ac mewn lleoliad mor eiconig! Bydd ein Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth gyda Chyngor Celfyddydau Cymru hefyd yn ein galluogi i nodi ffyrdd newydd o weithio gyda'n gilydd a fydd o fudd i bobl ifanc greadigol ac yn agor drysau newydd i'r diwydiannau creadigol."
Trwy gydol yr wythnos, cafodd cyfranogwyr eu harwain gan ein Mentoriaid o’r diwydiant proffesiynol a Mentoriaid y Dyfodol, gan fireinio eu sgiliau ac archwilio gorwelion newydd ym maes cynhyrchu cerddoriaeth, cyfansoddi caneuon a pherfformio. O feistroli'r grefft o bresenoldeb llwyfan i ymchwilio i gymhlethdodau peirianneg sain, roedd y cwrs preswyl yn llwyfan i dalentau ifanc ddisgleirio a thyfu. I lawer o gyfranogwyr, roedden nhw eisoes wedi datblygu sgiliau mewn cynhyrchu cerddoriaeth gyfrifiadurol - ond dyma oedd eu cyfle cyntaf i ddysgu sut i gydweithio mewn amser real gyda cherddorion eraill.
Dywedodd Lily Webbe, Cynhyrchydd dan Hyfforddiant Cerdd y Dyfodol CCIC: "Roedd cwrs preswyl Cerdd y Dyfodol yn brofiad mor gadarnhaol a gwefreiddiol i bawb a gymerodd ran. Rwy'n gobeithio bod y profiad hwn wedi eu hysbrydoli i archwilio eu creadigrwydd a'u helpu i ddarganfod y nifer o lwybrau a chyfleoedd gwahanol sydd gan y sîn gerddoriaeth Gymreig i'w cynnig. Hoffwn ddiolch yn fawr iawn i'r holl fentoriaid a mentoriaid y dyfodol gwych sydd wedi bod yn rhan o'r prosiect hwn, a'r tîm anhygoel yn Rockfield. Roedd eu cefnogaeth yn help mawr i wneud y cwrs preswyl yn brofiad gwirioneddol hudol i bawb."
Dywedodd Sky, cyfranogwr yn y rhaglen Cerdd y Dyfodol eleni: "Mae'r cyfnod preswyl hwn wedi helpu pawb o ran adeiladu ein dewrder wrth recordio cerddoriaeth wreiddiol ac mae hefyd wedi rhoi gwybodaeth ddefnyddiol i ni mewn perthynas â rhyddhau, marchnata a hyrwyddo ein cerddoriaeth hefyd. Er mai dim ond am dridiau y buom ni yno, mae'r sgyrsiau’r diwydiant, cydweithfa'r prosiect a’r gallu cydweithio â phobl newydd o genres ac arddulliau amrywiol wedi fy helpu i fagu fy hyder fy hun hefyd".
Ond nid yw'r daith yn gorffen yn y fan honno. Wrth i ni ffarwelio â chwrs preswyl Cerdd y Dyfodol, edrychwn ymlaen at y bennod nesaf yn nhaith gerddorol y cyfranogwr ifanc. Cyn bo hir, byddwch yn gallu clywed dyfodol cerddoriaeth Gymraeg drosoch chi eich hun mewn gig sydd ar y gweill, lle bydd yr artistiaid ifanc eithriadol hyn yn camu ar y llwyfan yn barod i roi'r cyfan maen nhw wedi'i ddysgu ar waith.
Ymunwch â CCIC wrth i ni ddathlu potensial diderfyn y genhedlaeth nesaf yn The Corn Exchange, Casnewydd ar Ebrill 28 a pharatoi i weld dyfodol cerddoriaeth yn ei holl ogoniant.
Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yn rhoi hwb i'w ymrwymiad i gefnogi perfformwyr ifanc Byddar ac anabl.
Dechreuodd tîm staff Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru (CCIC) 2024 gyda dull newydd o gefnogi perfformwyr ifanc b/Byddar ac anabl ledled Cymru. Dros bedwar diwrnod, bu'r tîm staff cyfan yn gweithio gydag arbenigwyr celfyddydau cynhwysol Taking Flight i ddatblygu eu gallu i gefnogi, cysylltu ac ymgysylltu â phobl ifanc f/Fyddar ac anabl.
Dechreuodd tîm staff Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru (CCIC) 2024 gyda dull newydd o gefnogi perfformwyr ifanc Byddar ac anabl ledled Cymru. Dros bedwar diwrnod, bu'r tîm staff cyfan yn gweithio gydag arbenigwyr celfyddydau cynhwysol Taking Flight i ddatblygu eu gallu i gefnogi, cysylltu ac ymgysylltu â phobl ifanc Fyddar ac anabl. Nod yr hyfforddiant oedd galluogi'r rhai ar draws y sefydliad i ddarparu lefel llawer uwch o gymorth pwrpasol i bob perfformiwr ifanc unigol, a sicrhau y gall ensembles a phrosiectau CCIC fod yn groesawgar i bob person ifanc.
Fe wnaeth y gyfres o weithdai arloesol a rhyngweithiol alluogi aelodau staff i gynyddu eu dealltwriaeth o gynwysoldeb a mynediad drwy hyfforddiant ymarferol, gyda chefnogaeth tîm gwych o hwyluswyr Taking Flight sydd â phrofiad byw o anabledd. Rhoddwyd sylw i arbenigeddau megis ymwybyddiaeth o ddallineb, ymwybyddiaeth Byddar a hyfforddiant cydraddoldeb penodol i’r sector yn fanwl, gan arwain at drafodaethau sy'n ysgogi'r meddwl fel man cychwyn ar gyfer newid parhaus a gwreiddio.
Yn dilyn yr hyfforddiant, dywedodd Evan Dawson, Prif Weithredwr CCIC: "Yn Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru, rydym ni’n gwybod bod creadigrwydd a chyfranogiad diwylliannol yn elfennau hanfodol o fywyd iach, hapus a chysylltiedig. Dylai pob person ifanc yng Nghymru gael cyfle i archwilio ei botensial artistig ei hun. Nid yw talent yn gwahaniaethu - felly mae'r cyfle hwn i weithio'n fanwl gyda Taking Flight wedi ein helpu i ddeall y prif rwystrau i bobl ifanc Fyddar ac anabl ymgysylltu â ni. Byddwn yn parhau i wneud popeth o fewn ein gallu i wneud Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yn gymuned groesawgar, gefnogol a gwirioneddol greadigol i bawb. Mae'n wirioneddol gyffrous."
Gyda 17% o aelodau ensemble CCIC yn nodi eu bod nhw’n F/fyddar neu'n anabl yn 2023, mae aelodau staff yn edrych ymlaen at gymhwyso'r hyfforddiant hwn yn uniongyrchol i'w gwaith ar draws ensembles, prosiectau a thu hwnt. Mae hyn yn cynnwys prosiectau fel y rhaglen bartneriaeth "Assemble" gyda National Youth Theatre GB, sydd wedi'i chynllunio i gefnogi pobl ifanc Byddar ac anabl trwy ymyriadau tymor hir mewn ysgolion nad ydynt yn ysgolion prif ffrwd.
Dywedodd Hope Dowsett, Cynhyrchydd Cyfranogiad a Dysgu yn CCIC: "Hoffem ddiolch yn fawr iawn i Taking Flight am gynnal cyfres o sesiynau hyfforddi mor ysgogol, craff a diddorol gyda ni. Fe wnaeth pob aelod o staff a gymerodd ran elwa a gwella eu gwybodaeth o weithio gyda phobl anabl, ac rydym ni bellach yn dechrau cymhwyso'r wybodaeth hon yn uniongyrchol i'n gwaith. Bydd hyn yn ein galluogi i ddarparu profiad hyd yn oed yn well i'r bobl ifanc anhygoel rydyn ni'n gweithio gyda nhw bob blwyddyn."
Dywedodd Steph Bailey-Scott, Swyddog Cyfranogiad, Mynediad a Chynhwysiant yn Taking Flight: "Roedd hi'n bleser pur cael cynnal ein sesiynau hyfforddi gyda thîm CCIC, roedd eu hangerdd am bopeth o ran mynediad a chynhwysiant mor wych i'w weld. Rwy'n credu bod y tîm hwn yn mynd i fynd yn bell iawn, ac rwyf mor gyffrous i’r holl bobl ifanc Fyddar/anabl a niwroamrywiol a fydd yn cymryd rhan yn eu holl brosiectau sydd ar y gweill."
Bydd CCIC yn parhau i adolygu ac adnewyddu ei ddarpariaeth hyfforddi yn y maes hwn, fel rhan o'n hymrwymiad parhaus i ddod â mwy o gyfleoedd artistig i fwy o bobl ifanc ledled Cymru o'r ystod ehangaf o gefndiroedd.
Os gallech chi neu eich sefydliad elwa o dderbyn hyfforddiant ymwybyddiaeth anabledd gan Taking Flight, cysylltwch â steph@takingflighttheatre.co.uk.
Cydweithrediad cenedlaethol newydd i gryfhau dawns ieuenctid yn Nghymru
Mae tri sefydliad dawns blaenllaw wedi nodi carreg filltir bwysig yng nghelfyddydau Cymru trwy arwyddo memorandwm cyd-ddealltwriaeth, mewn ymgais i gefnogi twf dawns yng Nghymru.
Mae tri sefydliad dawns blaenllaw wedi nodi carreg filltir bwysig yng nghelfyddydau Cymru trwy arwyddo memorandwm cyd-ddealltwriaeth, mewn ymgais i gefnogi twf dawns yng Nghymru.
Mae Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru, Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru, a Ballet Cymru wedi dod at ei gilydd i alluogi ymgysylltiad dawns ieuenctid cryfach a chyfranogiad ledled y wlad.
Gan gynrychioli ymdrech unedig, bydd y gynghrair strategol hon yn sefydlu fframwaith cynhwysfawr ar gyfer darpariaeth dawns ieuenctid ledled y wlad. Drwy gyfuno eu hadnoddau a'u harbenigedd, bydd y sefydliadau'n creu seilwaith cadarn a chynhwysol sy'n meithrin twf dawns ieuenctid yng Nghymru.
Bydd hyn yn sicrhau bod pob agwedd ar eu cynigion yn canolbwyntio ar hygyrchedd, cynhwysiant, ansawdd, a chyfleoedd datblygu a pherfformiad pellach. Mae hyn, yn ei dro, yn gosod dawns ieuenctid fel rhan annatod o hunaniaeth ddiwylliannol Cymru.
Mae llofnodi'r memorandwm cyd-ddealltwriaeth yn nodi eiliad ganolog yn y daith gydweithredol i gefnogi a chryfhau'r dirwedd ddawns yng Nghymru. Gydag ymrwymiad ar y cyd i feithrin talent a meithrin cynwysoldeb, bydd y gynghrair yn gosod y sylfaen ar gyfer twf cynaliadwy ac arloesedd mewn mentrau dawns ieuenctid ledled y wlad.
Dywedodd Prif Weithredwr Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru, Evan Dawson: "Yn Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru, rydym ni’n gyffrous iawn am gael perthynas agosach fyth â Ballet Cymru a Chwmni Dawns Cenedlaethol Cymru.
"Gan weithio gyda'n gilydd a gyda'r sector dawns ehangach, rydym ni am ddarparu cyfleoedd creadigol a blaenllaw yn y byd i ddawnswyr ifanc a choreograffwyr. Mae'n gyfnod heriol iawn i bawb sy'n gweithio yn y celfyddydau ar hyn o bryd, ond rydym ni’n hyderus y bydd y cydweithrediad strategol newydd hwn yn helpu'r genhedlaeth nesaf o ddawnswyr i wneud y mwyaf o'r adnoddau sydd gennym wrth gefnogi sefydliadau dawns ar lawr gwlad ledled Cymru hefyd."
Dywedodd Jamie Jenkins, Cynhyrchydd Dawns Ieuenctid Cenedlaethol Cymru: "Bydd y bartneriaeth newydd hon yn chwarae rhan hanfodol wrth helpu i lunio dyfodol dawns ieuenctid ledled Cymru ac ar yr un pryd cefnogi a dathlu darpariaeth dawns ieuenctid sydd eisoes wedi'i sefydlu. Mae NDCWales, Ballet Cymru a Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yn cydweithio'n gam i gyfeiriad cadarnhaol."
Dywedodd Cyfarwyddwr Artistig NDCWales, Matthew Robinson: "Mae Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru yn ceisio ysbrydoli a gyrru datblygiad artistiaid yfory drwy'r gwaith rydym ni’n ei wneud ar lwyfannau ac oddi arno. Wrth i ni gychwyn ar y cydweithrediad strategol hwn gyda Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru a Ballet Cymru, mae ein huchelgais ar y cyd ar gyfer pobl ifanc yn fy llenwi ag optimistiaeth ar gyfer y dyfodol. Rydym ni’n edrych ymlaen at weithio gydag artistiaid, athrawon a sefydliadau annibynnol anhygoel Cymru i sicrhau bod ein gwaith rhyng-gysylltiedig yn cael yr effaith fwyaf ar bobl ifanc. Gall artist gwych ddod o unrhyw le, ac rydym ni wedi ymrwymo gyda'n gilydd i alluogi artistiaid ifanc, ble bynnag y bônt yng Nghymru, i lunio dyfodol dawns."
Dywedodd Cyfarwyddwr Artistig Ballet Cymru, Darius James OBE a'r Cyfarwyddwr Artistig Cynorthwyol, Amy Doughty: "Mae Ballet Cymru yn gwmni bale cenedlaethol i Gymru sy'n herio ffiniau a disgwyliadau traddodiadol. Rydym ni’n falch iawn o fod yn gweithio'n agos gyda Dawns Genedlaethol Ieuenctid Cymru a Chwmni Dawns Cenedlaethol Cymru i greu cyfleoedd newydd yn strategol i ysbrydoli a chefnogi ein cenhedlaeth nesaf o ddawnswyr. Mae'r ymdrech gydweithredol genedlaethol hon i ddyrchafu dawns, cynyddu cynhwysiant, a darparu mwy o fynediad i ddawnswyr ifanc ledled Cymru, yn hynod gyffrous."
Dywedodd Laura Drane o Gyngor Celfyddydau Cymru: "Mae croeso cynnes i'r cynlluniau hyn i gryfhau cyfranogiad a mynediad at ddawns ieuenctid. Mae'n gyffrous clywed sut mae'r tri sefydliad cenedlaethol yn bwriadu cydweithredu a rhannu adnoddau, gan ddod â'u blynyddoedd o arbenigedd ynghyd. Bydd y bartneriaeth hon yn helpu i ddatblygu'r sector ac yn effeithio ar deithiau artistig pobl ifanc Cymru."
Theatr Clwyd a Theatr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yn cynnig Llwybrau Proffesiynol i bobl ifanc ledled Cymru yr haf yma
Mae Theatr Clwyd a Theatr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru (ThCIC) wedi bod yn cydweithio ers 6 blynedd gan ddarparu cyfleoedd unigryw i bobl ifanc ledled Cymru ac ni fydd eleni yn eithriad.
Yr haf yma byddant yn cynnal eu Rhaglen Breswyl Llwybrau Proffesiynol 2024 yn Theatr Clwyd. Mae Llwybrau Proffesiynol yn agored i bobl ifanc 16 i 22 oed sydd eisiau meithrinsgiliau perfformio a dysgu am y diwydiant theatr, gan gynnwys y swyddi cefn llwyfan. Yn ystod y cyfnod preswyl o 3 diwrnod yn Theatr Clwyd (28 Mehefin -1 Gorffennaf), bydd 50 o bobl ifanc yn mynd y tu ôl i’r llenni ar gynhyrchiad haf y lleoliad o Rope gan Patrick Hamilton. Byddant yn gweithio gyda'r timau creadigol proffesiynol ar y sioe ac yn gweld drostynt eu hunain sut mae'n cael ei chreu. Bydd gweithdai hefyd ar sgiliau perfformio a chlyweliad, a chyflwyniad i gefn y llwyfan, gan gynnwys cynllunio setiau a gwisgoedd, cynllunio’r goleuo a’r sain a rheoli’r llwyfan. Bydd y cyfnod preswyl yn ddwyieithog ac rydym yn annog unrhyw un sydd â diddordeb yn y theatr i ymgeisio.
Dywedodd Evan Dawson, Prif Weithredwr Celfyddydau Ieuenctid Cenedlaethol Cymru: “Mae gan Gymru draddodiad theatrig mor gyffrous, ond mae’n anodd i bobl ifanc ddeall yr ystod eang o wahanol yrfaoedd ar y llwyfan ac yng nghefn y llwyfan y gallent eu cael. Mae’r bartneriaeth yma rhwng Theatr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru a Theatr Clwyd yn gyfle gwych i ysbrydoli, cefnogi a chysylltu ein cenhedlaeth nesaf o actorion, rheolwyr llwyfan, cynllunwyr goleuo, peirianwyr sain, gwneuthurwyr gwisgoedd, cynhyrchwyr a mwy!”
Eisoes eleni mae Theatr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru a Theatr Clwyd wedi mynd i 8 ysgol ar draws Gogledd a De Cymru yn cyflwyno gweithdai i roi cipolwg ar beth i'w ddisgwyl yn y clyweliadau a'r cyfnod preswyl Llwybrau Proffesiynol.
Mae’r cyfranogwyr preswyl blaenorol wedi dweud: “Mae Llwybrau Proffesiynol yn cael ei alw yn hynny am reswm, rydych chi wir yn cael eich addysgu gan, a'ch trin fel, gweithiwr proffesiynol. Rydych chi’n cael dysgu'r sgiliau y bydd arnoch eu hangen yn bendant i symud ymlaen o fewn y celfyddydau."
“Mae cymaint o wahanol bethau rydw i wedi’u dysgu ac rydw i wedi sylweddoli nad dim ond un ffordd gul i mewn i'r diwydiant sydd, mae cymaint o wahanol lwybrau a siwrneiau y mae pobl yn eu dilyn”
(Cyfnod Preswyl y Pasg Llwybrau Proffesiynol 2023 yng Nghanolfan Mileniwm Cymru)
Dywedodd Gwennan Mair, Cyfarwyddwr Cymunedau, Lles ac Addysg Theatr Clwyd, am y bartneriaeth: Rydyn ni’n falch iawn o barhau i gynyddu cyfleoedd i bobl ifanc ledled Cymru gyda TheatrIeuenctid Genedlaethol Cymru. Gyda’n gilydd fe fyddwn ni’n ymdrechu i agor y cyfleoedd i bob rhan o Gymru ac i sicrhau ein bod ni’n datblygu pob elfen o greu theatr!
Mae’r archebion ar gyfer y gweithdai clyweliad ar gyfer y cyfnod preswyl a chyfleoedd eraill i aelodau ThCIC ar agor tan 27 Chwefror gyda chlyweliadau’n cael eu cynnal ledled Cymru rhwng 9 Mawrth a 25 Mawrth mewn lleoliadau niferus, gydag opsiwn ar gyfer sesiynau ar-lein ar zoom. I gael rhagor o wybodaeth am sut i wneud cais a beth i’w ddisgwyl o’r gweithdy clyweliad ewch i: https://www.ccic.org.uk/clyweliadau