NEWYDDION

Guest User Guest User

Yr Eiconig Clwb Ifor Bach yng Nghaerdydd fydd yn cynnal gig gyntaf Cerdd y Dyfodol - prosiect Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru ar gyfer cerddorion ifanc cyfoes rhwng 15-19 oed.

Mae Cerdd y Dyfodol wedi cyhoeddi eu gig gyhoeddus gyntaf ers sefydlu’r prosiect gan Gelfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yn 2019.

Mae Cerdd y Dyfodol wedi cyhoeddi eu gig gyhoeddus gyntaf ers sefydlu’r prosiect gan Gelfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yn 2019. Yn camu i’r llwyfan wedi misoedd o gydweithio yn y stiwdio - gyda phobl fel Mace the Great, Hemes, Skunkadelic, Lily Beau a DJ Dabes o Glwb Ifor Bach - bydd y genhedlaeth nesaf hon o egin-artistiaid Cymru’n cyflwyno eu perfformiad cyhoeddus cyntaf ar nos Fercher 24 Awst 2022. Mae’r ganolfan cerddoriaeth fyw, clwb nos a hyrwyddwr cerddoriaeth eiconig ar Stryd Womanby wedi croesawu egin-artistiaid, artistiaid lleol a rhyngwladol, gan ddarparu llwyfan cynnar i rai o’r enwau mwyaf ym myd cerddoriaeth heddiw.

Mae’r noson yn cynnig cyfuniad o seiniau gyda genres sy’n amrywio o grime i indie, pop i EDM; dyma arddangosfa o ddyfodol y sin gerddoriaeth yng Nghymru a’r hyn sydd gan y genhedlaeth nesaf o gerddorion ifanc Cymreig i’w gynnig. Ar brif lwyfan Clwb Ifor Bach: Morakai, Shaun Tucker, Daffydd Rose, Megan McFadden, Sharmeela, Olivia Sinclair, ONE84K, Leasha Packham, Hannah Huish a 4SZN. Yn camu i’r cwt DJ: Jack Reardon. Yn camu i’r llwyfan hefyd bydd aelodau ifanc proffesiynol o’r diwydiant sydd wedi cefnogi elfen Mentoriaid y Dyfodol y rhaglen: y gantores soul Aisha Kigs, y canwr E11ICE sy’n herio pob genre, a’r rapiwr Kali.

Mae Cerdd y Dyfodol yn cefnogi crewyr cerddoriaeth ifanc, gyda’r potensial i dyfu fel artistiaid, trwy ddatblygu eu sgiliau ysgrifennu caneuon, hunanreolaeth, a cherddorol mewn amgylchedd diogel a chefnogol. Mae’r prosiect yn arwain pob cyfranogwr trwy gylch bywyd llawn ysgrifennu caneuon - o ysgrifennu a recordio, i berfformio, teithio, a hyrwyddo eu cerddoriaeth - ac mae’n galluogi cyfranogwyr i arbrofi gydag ystod eang o genres. Dros y misoedd diwethaf, mae’r cerddorion ifanc hyn wedi gweithio gyda’u mentoriaid i berffeithio eu crefft fel cantorion, cyfansoddwyr caneuon a chynhyrchwyr trwy raglen datblygu artistiaid Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru: Cerdd y Dyfodol. Gydag arweiniad ar y ffordd, maent wedi bod yn mireinio eu crefft, creu prosiectau cerdd cyffrous a chael cyfle i rwydweithio gyda gweithwyr proffesiynol o’r diwydiant, gan ddysgu’r hyn y mae’n ei gymryd i lwyddo yn y diwydiannau creadigol yng Nghymru.

Dywedodd Elina Lee, Cynhyrchydd dan Hyfforddiant Cerdd y Dyfodol:

“Yn aml, fyddwn ni ddim yn gweld artistiaid ifanc talentog gan fod llawer o ganolfannau digwyddiadau byw yn mynnu bod eu hartistiaid dros 18 oed i berfformio, mae hyn yn rhywbeth y mae Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yn anelu i’w newid. Mae’n bwysig i ni bod yr artistiaid ifanc talentog hyn yn cael cyfleoedd i berfformio a bod yn rhan o’r sin gerddoriaeth yn ystod y cyfnod cynnar hwn o’u gyrfa, sydd byth bron yn digwydd.”

“Peidiwch â cholli’r cyfle i weld yr artistiaid hyn ar gychwyn eu gyrfa a bod yn rhan o’r newid sy’n digwydd heddiw yn y sin gerddoriaeth yng Nghymru.”

Tocynnau

Darllen mwy

Read More
Guest User Guest User

Llongyfarchiadau i enillwyr ein gwobrau Cerddorfa a Band Pres 2022

Bob blwyddyn ar ein preswyliadau, rydym yn dathlu ein cerddorion sy'n dangos yr addewid a'r ymroddiad mwyaf. Y tiwtoriaid adrannol sy'n penderfynu pwy sy'n derbyn pob gwobr yn ystod y cyfnodau preswyl.

Bob blwyddyn ar ein preswyliadau, rydym yn dathlu ein cerddorion sy'n dangos yr addewid a'r ymroddiad mwyaf. Y tiwtoriaid adrannol sy'n penderfynu pwy sy'n derbyn pob gwobr yn ystod y cyfnodau preswyl.

Hoffai Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru rhoi diolch i'r rhai sydd wedi rhoi arian i greu'r gwobrau hyn.

Cerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru

Gwobr Haydn Davies

Dyfarnwyd i’r chwaraewr mwyaf addawol sy’n dal i fod ym myd addysg

Dewi Thistlewood

Gwobrau Irwyn Walters (Cyfeillion NYOW)

Dyfarnwyd i’r ddau chwaraewr llinynnol mwyaf addawol yn y cwrs preswyl eleni

Sharon Liang & Kit Cookson

Gwobr Wil Jones

Dyfarnwyd i’r chwaraewr chwythbrennau mwyaf addawol yn y cwrs preswyl eleni

Heidi Walliman

Gwobr Goronwy Evans

Dyfarnwyd i'r chwaraewr pres mwyaf addawol yn y cwrs preswyl eleni

Branwen Thistlewood

Gwobr Telyn Tony Moore

Dyfarnwyd i’r telynor mwyaf addawol yn y cwrs preswyl eleni

Elena Ruddy

Band Pres Cenedlaethol Ieuenctid Cymru

Cwpan Goffa John Childs

Dyfarnwyd i’r chwaraewr mwyaf addawol ar y cwrs preswyl eleni

Ioan Jones

Gwobr David Mabey

Dyfarnwyd i’r chwaraewr sydd wedi gwella fwyaf ar y cwrs preswyl

Carys Lewis

Gwobr y Prif Gornet

Rhoddir gan Tony Small

Owain Llestyn

Read More
Guest User Guest User

Edrych yn ôl ar Momentwm 2022

Yn ddiweddar, mynychodd 14 o ddawnswyr ifanc y cwrs preswyl Momentwm cyntaf, wedi’i gyflwyno mewn cydweithrediad rhwng rhaglen Duets Ballet Cymru a Chelfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru.

Yn ddiweddar, mynychodd 14 o ddawnswyr ifanc y cwrs preswyl Momentwm cyntaf, wedi’i gyflwyno mewn cydweithrediad rhwng rhaglen Duets Ballet Cymru a Chelfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru.

Lluniau: Sian Trenberth

Fe wnaeth y bobl ifanc hyn fynychu'r cwrs fel parau o wahanol ysgolion ledled Cymru, yn tarddu o ardaloedd y nodwyd bod ganddynt fynediad cyfyngedig at berfformiad a datblygiad dawns. Gan nad ydynt erioed wedi cwrdd fel grŵp o'r blaen, treuliodd y dawnswyr dri diwrnod yng Ngwersyll yr Urdd Caerdydd ar raglen ddwys llawn hwyl o sgiliau dawns, gan ddatblygu eu techneg a'u creadigrwydd ochr yn ochr â rhai o'r enwau gorau yn niwydiant dawns Cymru.

Nod y prosiect oedd rhoi blas i'r dawnswyr ifanc o hyfforddiant dawns, na fyddent efallai'n gallu manteisio arno fel arall, a'u hannog i barhau i ddawnsio wrth iddynt symud drwy'r ysgol uwchradd.

Mae dod â’n ysgolheigion Deuawdau cenedlaethol at ei gilydd ar gyfer Momentwm wedi bod yn ddigwyddiad hynod gyffrous. Yn ogystal â chynnig llawer o gyfleoedd dawns a dysgu ysbrydoledig, mae hefyd wedi galluogi ysgolheigion o bob cwr o Gymru i ddod at ei gilydd, mewn lle ffisegol, am y tro cyntaf. Mae ymrwymiad a phrofiad Ballet Cymru a Chelfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru i gynnal cwrs preswyl o’r safon hon wedi meithrin profiad dawns mor gadarnhaol i bawb dan sylw.

Mae Momentwm yn gam mawr yn y bartneriaeth rhwng Ballet Cymru a Chelfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru a’n gweledigaeth ar y cyd i helpu i bontio bylchau yn y ddarpariaeth ddawns yng Nghymru, ac i fynd i’r afael â heriau o ran mynediad ac ymgysylltu â dawns.”
— Amy Doughty, Cyfarwyddwr Artistig Cynorthwyol, Ballet Cymru

Arweiniodd yr Artist Dawns Llawrydd Liam Riddick sesiynau ar dechneg ddawns gyfoes. Roedd y gweithdai hyn yn canolbwyntio ar arwain y dawnswyr ifanc i ddatblygu perfformiadau deuawd ac unigol, a darparu lle iddyn nhw brofi cydweithio creadigol gyda chwmni newydd o gyd-berfformwyr.

Cafodd y cyfranogwyr gyfle hefyd i adeiladu ar eu rhythm a'u geirfa hip-hop ochr yn ochr â Reuel Bertram o Jukebox Collective, yn ogystal â dysgu camau bale a geirfa newydd gyda Louise Lloyd, ymarferydd Deuawdau Ballet Cymru.

Mae Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru wrth eu bodd o fod wedi cydweithio â Ballet Cymru i gyflwyno Momentwm yn bersonol eleni, gan ddarparu’r lle i’r bobl ifanc hyn archwilio dawns, dysgu gan weithwyr proffesiynol y diwydiant, ac yn anad dim, mwynhau’r amser i fod yn greadigol.

Mae’r gallu i gynnal rhaglen o’r fath sy’n cynnig cyfle i’r rheini ledled y wlad nad ydynt fel arfer yn cael mynediad at hyfforddiant dawns ar y lefel hon, yn ganolog i ymrwymiad NYAW i ddarparu llwybrau dilyniant i berfformwyr ifanc dawnus a thalentog Cymru o lawr gwlad i fyny. Meithrin y cysylltiadau hyn mewn cymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol sy’n wynebu rhwystrau i hyfforddiant celfyddydol yw’r cam diweddaraf yn ymdrechion Ballet Cymru a NYAW ar y cyd i fynd i’r afael â materion sy’n ymwneud ag amrywiaeth a chynrychiolaeth ar draws y sector celfyddydau ieuenctid.
— Gillian Mitchell, Prif Weithredwr, Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru

Yn dilyn y gweithdai dawns bywiog hyn, fe wnaeth cyfranogwyr Momentwm eleni hefyd ymgolli mewn amserlen gymdeithasol o deithiau bowlio, nosweithiau ffilmiau, a theithiau cerdded grŵp o amgylch Bae Caerdydd, gan ddarparu'r lle perffaith i'r bobl ifanc hyn ddod i adnabod ei gilydd a dechrau datblygu cyfeillgarwch gydol oes drwy ddawns.

Mae Deuawdau, a gynhyrchwyd gan Ballet Cymru, yn rhaglen genedlaethol i bobl ifanc mewn ardaloedd o angen iddynt gael mynediad at hyfforddiant dawns a dilyniant. Mae'r rhaglen wedi'i chynllunio'n benodol i nodi talent, darparu llwybrau dilyniant, a gwella dyheadau ar gyfer pobl ifanc na fyddent fel arfer yn cael y cyfle i gael mynediad at ddawns ac ymgysylltu â dawns, yn enwedig y rhai sy'n byw mewn ardaloedd difreintiedig yng Nghymru.

Momentwm yw rhaglen hyfforddi a datblygu Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru ar gyfer dawnswyr ifanc ar gamau cynnar eu taith i ddawns. Mae'r rhaglen yn canolbwyntio ar ddatblygu sgiliau a chryfder dawns craidd, yn ogystal â thechnegau creadigol a pherfformiad, gyda'r nod cyffredinol o roi'r sgiliau sydd eu hangen ar y dawnswyr ifanc hyn i ddilyn hyfforddiant dawns proffesiynol. Yn dilyn cydweithio â ZooNation - The Kate Prince Company yn y gorffennol, mae NYAW wrth ei bodd o fod wedi gweithio ochr yn ochr â rhaglen Deuawdau Ballet Cymru ar gyfer Momentwm 2022.

Read More
Guest User Guest User

Rhaglen Momentwm Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yn cydweithio â Deuawdau Ballet Cymru y Pasg hwn

Eleni, mae prosiect Momentwm Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yn gweithio mewn partneriaeth â rhaglen Deuawdau Ballet Cymru, gan arwain at Gwrs Preswyl y Pasg cyffrous yng Nghaerdydd.

Eleni, mae prosiect Momentwm Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yn gweithio mewn partneriaeth â rhaglen Deuawdau Ballet Cymru, gan arwain at Gwrs Preswyl y Pasg cyffrous yng Nghaerdydd.

Mae dawnswyr ifanc talentog ac angerddol o bob rhan o Gymru yn cael eu dewis i gymryd rhan ym mhrosiect Deuawdau Momentwm eleni, gan dreulio tri diwrnod ochr yn ochr â rhai o artistiaid dawns gorau’r wlad i uwchsgilio eu coreograffi a'u sgiliau creadigol, tra'n ymgolli mewn amserlen llawn dop sy'n llawn arddulliau Cyfoes, Ballet a Hip Hop a sesiynau creadigol.

Mae'r cwrs preswyl wedi'i gynllunio i roi cipolwg i'r dawnswyr ifanc hyn fel dawnsiwr proffesiynol, ac ochr yn ochr â'r rhaglen ddawns wedi'i theilwra bydd cyfleoedd i gymryd rhan mewn gweithgareddau cymdeithasol ac i ddod i adnabod eu cyd-ddawnswyr ifanc. Mae'r rhaglen yn gyfle gwych i gwrdd â phobl o'r un anian o bob rhan o Gymru, ac i ddatblygu cyfeillgarwch a fydd yn para'n hir i yrfaoedd y dawnswyr ifanc hyn. 

Mae Deuawdau, a gynhyrchwyd gan Ballet Cymru, yn rhaglen genedlaethol i bobl ifanc mewn ardaloedd o angen iddynt gael mynediad at hyfforddiant dawns a dilyniant. Mae'r rhaglen wedi'i chynllunio'n benodol i nodi talent, darparu llwybrau dilyniant, a gwella dyheadau ar gyfer pobl ifanc na fyddent fel arfer yn cael y cyfle i gael mynediad at ddawns ac ymgysylltu â dawns, yn enwedig y rhai sy'n byw mewn ardaloedd difreintiedig yng Nghymru.

Momentwm yw rhaglen hyfforddi a datblygu gyffrous Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru ar gyfer dawnswyr ifanc ar gamau cynnar eu taith i ddawns. Mae'r rhaglen yn canolbwyntio ar ddatblygu sgiliau a chryfder dawns craidd, yn ogystal â thechnegau creadigol a pherfformiad, gyda'r nod cyffredinol o roi'r sgiliau sydd eu hangen ar y dawnswyr ifanc hyn i ddilyn hyfforddiant dawns proffesiynol. Yn dilyn prosiect Momentwm digidol cyffrous yn 2021 mewn cydweithrediad â ZooNation - The Kate Prince Company, mae CCIC wrth eu bodd yn gweithio ochr yn ochr â rhaglen Deuawdau Ballet Cymru ar gyfer Momentwm 2022.

Lluniau: Sian Trenberth/Ballet Cymru

Read More
Guest User Guest User

Theatr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru a Solomonic Peacocks Theatre, Malawi yn cydweithio ar brosiect ffilm rhyngwladol newydd

Bydd dau gwmni theatr ieuenctid, sydd 5000 o filltiroedd oddi wrth ei gilydd, yn cyflwyno ffilm newydd yng Ngŵyl Pasg Solomonic Peacocks Theatre ym mis Ebrill – wedi ei chreu gan y perfformwyr ifanc fel rhan o brosiect cydweithredol rhyngwladol blwyddyn o hyd.

Bydd dau gwmni theatr ieuenctid, sydd 5000 o filltiroedd oddi wrth ei gilydd, yn cyflwyno ffilm newydd yng Ngŵyl Pasg Solomonic Peacocks Theatre ym mis Ebrill – wedi ei chreu gan y perfformwyr ifanc fel rhan o brosiect cydweithredol rhyngwladol blwyddyn o hyd. 

Mae’r prosiect, a gynhaliwyd yn ddigidol dros Zoom a WhatsApp, wedi cynnwys gweithdai creadigol rheolaidd ar-lein yn archwilio llais ieuenctid a’u grymuso – a darganfod y pethau sydd gan bobl ifanc yn y ddwy wlad yn gyffredin. 

Mae’r ffilm deirieithog – a berfformir yn Gymraeg, Chichewa a Saesneg – yn gerdd lafar gydweithredol a berfformir gan y crewyr a’i ffilmio ar ffonau symudol, un o’r technolegau cyffredin sy’n uno pobl ifanc o amgylch y byd. Un agwedd bwysig o’r prosiect oedd sicrhau bod y bobl ifanc wrth galon creu’r gwaith – gyda’r grŵp yn penderfynu canolbwyntio ar y themâu o rymuso merched a menywod ifanc, a’u cysylltiad cyffredin o ddwyieithrwydd a’u hawydd i rannu eu bywydau bob dydd a’u diwylliant yn ddigidol.

Ynghyd â’r premiere yng Ngŵyl Pasg SPT ar Ddydd Gwener 8 Ebrill, bydd ffilm ddogfen yn cael ei rhyddhau’n dangos creu’r ffilm a sut y mae’r prosiect wedi effeithio ar y bobl ifanc oedd yn rhan o’r prosiect. Yn y DU, caiff y ffilm ei lansio ar yr un pryd ar blatfform AM, ar www.amam.cymru/nyaw

Ariennir y prosiect trwy gronfa ‘Mynd yn Ddigidol’ y British Council Cymru, a ddyluniwyd i hwyluso partneriaethau digidol rhwng cwmnïau celfyddydau yng Nghymru gyda phobl ifanc yn Affrica Is-Sahara.

Mae’r prosiect a’i sesiynau wythnosol wedi eu cyd-gynhyrchu gan y ddau gwmni, ac mae hefyd wedi galluogi hwyluswyr a chynhyrchwyr theatr ifanc i ddysgu oddi wrth ei gilydd, gan alluogi gwir gyfnewidfa ddiwylliannol. 

Fe wnaeth Dawn Bowden, Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon Llywodraeth Cymru, longyfarch y bartneriaeth: “Mae’n wych gweld y cydweithredu rhyngwladol hwn rhwng Theatr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru a Solomonic Peacocks Theatre, Malawi.  Mae’r gyfnewidfa ddiwylliannol gyffrous hon rhwng perfformwyr ifanc, ar thema grymuso ieuenctid, wir yn gwneud y gorau o’r cyfryngau digidol a phartneriaeth ryngwladol.

“Mae ffurfio’r math yma o gysylltiadau rhyngwladol yn rhan allweddol o’n strategaeth gelfyddydol yng Nghymru – ac mae’n galonogol gweld pobl ifanc yng Nghymru’n ymateb trwy ffocysu ar yr hyn sydd gennym yn gyffredin, yn hytrach na’r hyn sy’n ein rhannu. Rwy’n edrych ymlaen at wylio’r ffilm orffenedig yn fuan iawn a gweld yr hyn y mae’r bobl ifanc wedi’i greu.”

Meddai Gillian Mitchell, Prif Weithredwraig Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru: “Mae wedi bod yn wych gallu cyflwyno’r gyfnewidfa ddiwylliannol hon i aelodau ThCIC.  Fel mae’r prosiect yn arddangos yn gwbl glir, mae mwy o elfennau’n dod â phobl ifanc at ei gilydd o amgylch y byd nac sy’n eu gwahanu.  Rydym yn ddiolchgar i British Council Cymru am ariannu’r prosiect, sydd wedi hwyluso’r cyfnewid syniadau hyn a bydd yn gadael etifeddiaeth barhaol yn ein dwy wlad.

Dywedodd Natasha Nicholls, Rheolwraig Prosiect Celfyddydau’r British Council Cymru:  “Rydym yn falch iawn i fod yn cefnogi’r bobl ifanc o Gelfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru a Solomonic Peacocks Theatre yn Malawi i archwilio theatr ddigidol a chyfnewidfa ddiwylliannol.

“Mae ‘Mynd yn Ddigidol’ yn rhaglen gan y British Council Cymru i alluogi partneriaid o Gymru ac Affrica Is-Sahara i gysylltu’n ddigidol, datblygu perthnasau newydd ac archwilio ffyrdd newydd o weithio.  Mae’r rhaglen wedi ei chynnal yng Nghymru ac 8 gwlad ar draws Affrica Is-Sahara, gan gwmpasu dawns, theatr, llythrennedd, ffilm a chelfyddydau gweledol.”

Dywedodd McArthur Matukuta, Cyfarwyddwr Gweithredol’r Solomonic Peacocks Theatre“Er bod pandemig Covid-19 wedi atal cysylltiad corfforol, mae grym celfyddyd wedi chwalu’r rhwystr drwy dechnoleg ddigidol. Mae wedi profi i fod yn un o’r cyfryngau gorau er mwyn parhau cyfnewid a rhannu sgiliau ymysg pobl Ifanc.”

Bydd y ffilm ar gael i’w gwylio, am ddim, ar www.amam.cymru/nyaw o Ddydd Gwener 8 Ebrill. 

Read More
Guest User Guest User

Cyhoeddi mentoriaid Cerdd y Dyfodol 2022

Yn dilyn fersiwn hybrid / ar-lein o’r prosiect yn 2021, gan alluogi 20 o bobl ifanc i ddatblygu eu doniau gyda chefnogaeth mentoriaid adnabyddus, mae Cerdd y Dyfodol wedi cychwyn ar gyfer 2022.

Yn dilyn fersiwn hybrid / ar-lein o’r prosiect yn 2021, a wnaeth alluogi 20 o bobl ifanc i ddatblygu eu doniau gyda chefnogaeth mentoriaid adnabyddus, rydyn ni mor gyffrous fod Cerdd y Dyfodol wedi cychwyn ar gyfer 2022!

Mae Cerdd y Dyfodol yn brosiect cerddoriaeth gyfoes a chyfle datblygu rhad ac am ddim ar gyfer gwneuthurwyr cerdd Cymru i’r dyfodol. Mae’n galluogi pobl ifanc 16-18 oed i dyfu i fod yr artistiaid y maent am eu bod ac mae’n eu cefnogi i wneud eu marc ar y sîn gerddoriaeth gyfoes yma yng Nghymru. 

Mae’n bleser gan Gelfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru gyhoeddi’r mentoriaid ar gyfer Cerdd y Dyfodol eleni. Yn amrywio o ran genre o Grime i Indie, DJio i RnB, rydym yn falch i fod yn gweithio gyda charfan o bobl greadigol sy’n cynrychioli’r gorau o dirwedd miwsig cyfoes Cymru. 

MACE THE GREAT

Mae Mace The Great yn artist cyffrous o Caerdydd, Cymru sy’n creu cerddoriaeth Grime a Hip Hop. Enillodd Wobr Triskel yng Ngwobrau Cerddoriaeth Gymreig 2020, ac mae e wedi ennill cefnogaeth BBC 1Xtra, BBC Cymru, ITV, S4C (gorsaf deledu genedlaethol i Gymru), Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd, gŵyl a chynhadledd arddangos FOCUS Wales, cafodd ei Enwebu ar gyfer Gwobr Gerddoriaeth Gymreig 2021, Llysgennad Cymru ar gyfer wythnos lleoliadau annibynnol 2022, a’i wahodd i berfformio yn SXSW 2022 a hefyd yn rhan o MOBO Unsung Class of 2022. Nawr yn barod am 2022 enfawr, a fydd yn ei weld yn rhyddhau ei brosiect hir-ddisgwyliedig, yn dilyn llwyddiant ei EP poblogaidd 'My Side Of The Bridge', a ryddhawyd ym mis Mawrth 2021 drwy label MTGM.

 

HEMES

Yn ddiweddar, rhyddhaodd Hemes ei EP cyntaf 'Matters of the mind' ac fe wnaeth ei sengl 'Matters of the mind' gyrraedd 'Rhestr-A Cymru' ar BBC Radio Wales. Gan gymysgu synau R&B gydag alawon pop, ganwyd Hemes i rieni Arabeg ac roedd ei chariad at gerddoriaeth a chaneuon yn deillio o gael ei magu o amgylch cymysgedd o gerddoriaeth orllewinol a dwyreiniol canol.

 

TUMI WILLIAMS

Tumi Williams yw'r prif perfformwr ar gyfer Afro Cluster, band 9-darn ffync enfawr ac mae wedi ysgrifennu, recordio a theithio yn helaeth gyda'r grŵp ers dros ddegawd. Mae wedi perfformio ochr yn ochr ag artistiaid fel Talib Kweli, Chali 2na a The Pharcyde, ac wedi ymddangos mewn nifer o wyliau a digwyddiadau proffil uchel gan gynnwys SXSW, Glastonbury, Womad, Greenman a Boomtown.

 

HELEDD WATKINS

Astudiodd Heledd fel gwneuthurwr theatr cyn symud ymlaen i weithio fel gitarydd sesiwn bas, gan deithio gydag Emmy the Great, Chloe Howl a Paper Aeroplanes. Dechreuodd ysgrifennu ei cherddoriaeth ei hun fel prif perfformwr y band roc celf, HMS Morris gydag uchafbwyntiau yn cynnwys perfformio yn Glastonbury, rhyddhau dwy albwm ac ennill dau enwebiad Gwobrau Cerddoriaeth Gymreig. Ar hyn o bryd mae hi'n gweithio ar drydedd albwm HMS Morris, ac yn dylunio sain ar gyfer sioe theatr a fydd yn cael ei pherfformio yn 2023.

 

DJ DABES

Mae DJ Dabes yn arbenigo mewn feibiau mawr ac anthemau parti ac wedi gweithio i BBC Radio Wales, Capital FM, Radio Cardiff, Beacons a Radio Plattform Canolfan Mileniwm Cymru. Pan nad yw DJ Dabes y tu ôl i'r deciau mae'n addysgu, yn cyflwyno ar y radio, yn cynhyrchu cynnwys ar-lein neu’n ysgrifennu cerddoriaeth.

Grandewch ar ei gymysgedd Bring The Summer ar Mixcloud

 

LILY BEAU

Symudodd Lily Beau i Lundain yn 16 mlwydd oed a sicrhaodd brofiad gwaith yn Island UK, Universal Music Publishing a Warner Music Group. Fe wnaeth hyn arwain wedyn at rôl llawn amser yn Sony Music Publishing fel A&R. Ar ôl symud yn ôl i Gymru yn ddiweddar, cyfansoddodd a pherfformiodd gân fel rhan o ail-agoriad y Senedd i'r Frenhines yn 2021. O flaen popeth arall, mae Lily wrth ei bodd i fod yn ôl yn ei thref enedigol, yn ysgrifennu wrth y piano ac yn methu aros i rannu cerddoriaeth newydd.

Read More
Guest User Guest User

Dawns Genedlaethol Ieuenctid Cymru’n croesawu Lea Anderson ac Arielle Smith fel coreograffwyr ar gyfer tymor 2022

Efallai bod Lea Anderson, un o goreograffwyr mwyaf arloesol y DU, yn fwyaf adnabyddus am gyd-sefydlu cwmnïau The Cholmondeleys a The Featherstonehaughs, ble bu’n gyfrifol am goroegraffu mwy na 100 o weithiau. Yn 2002, derbyniodd MBE am ei gwasanaeth i ddawns.

Lea Anderson, y coreograffydd rhyngwladol enwog a’r artist dawns a’r coreograffydd Arielle Smith, i greu dau waith newydd ar gyfer Dawns Genedlaethol Ieuenctid Cymru, gan weithio gyda DGIC am y tro cyntaf

  • Dawns Genedlaethol Ieuenctid Cymru yn partneru gyda Ballet Cymru ar gyfer cwrs preswyl 2022, gyda DGIC yn perfformio gyda Ballet Cymru fel rhan o’u taith hydref trwy’r DU 

  • Ceisiadau’n agored nawr ar gyfer ensemble DGIC 2022, sydd ar agor i ddawnswyr ifanc 16-22 oed o Gymru neu sy’n byw yng Nghymru. 

Efallai bod Lea Anderson, un o goreograffwyr mwyaf arloesol y DU, yn fwyaf adnabyddus am gyd-sefydlu cwmnïau The Cholmondeleys a The Featherstonehaughs, ble bu’n gyfrifol am goroegraffu mwy na 100 o weithiau. Yn 2002, derbyniodd MBE am ei gwasanaeth i ddawns. 

Wedi’r cyhoeddiad, dywedodd Lea Anderson: "Rydw i mor hapus i gael fy ngwahodd i greu gwaith newydd gyda Dawns Genedlaethol Ieuenctid Cymru yr haf yma ac rydw i’n edrych ymlaen at allu mynd i’r stiwdio o’r diwedd i gydweithio gyda dawnswyr ifanc gwych." 

Yn ymuno â’r tîm artistig ar gyfer 2022 hefyd mae Arielle Smith, enillydd y categori Emerging Artist yn y Gwobrau Dawns Cenedlaethol 2021. Mae wedi coreograffu gweithiau gyda English National Ballet, gan gydweithio gyda nhw yn 2021 a gyda’r gantores Anne-Marie i greu gwaith newydd ar gyfer y dathliad croeso adref o’r Gemau Olympaidd i Team GB yn Wembley.

Meddai Arielle Smith: “Dwi wrth fy modd i weithio gyda Dawns Genedlaethol Ieuenctid Cymru. Mae nawr, fwy nag erioed, yn amser i ddod at ein gilydd, i greu, rhannu a mwynhau dawns ac rydw i’n gyffrous iawn i weithio gyda’r genhedlaeth nesaf o ddoniau.”

Bydd Anderson a Smith yn creu gwaith newydd yr un ar gyfer Dawns Genedlaethol Ieuenctid Cymru, wrth i DGIC ddod at ei gilydd am eu cwrs preswyl haf cyntaf ers 2019. Yna byddant yn perfformio gyda Ballet Cymru, fel rhan o daith hydref Ballet Cymru trwy’r DU.

Clyweliadau DGIC 2022

Bob blwyddyn bydd Dawns Genedlaethol Ieuenctid Cymru’n cynnal clyweliadau ar gyfer dawnswyr ifanc o bob cwr o Gymru i ymuno â’r ensemble. Yn y clyweliadau cyfeillgar a chefnogol hyn, bydd y dawnswyr ifanc yn cymryd rhan mewn dosbarth meistr llawn sy’n archwilio technegau dawns cyfoes. Yna, bydd y rhai gaiff eu dethol yn mynd ymlaen i gymryd rhan mewn cwrs preswyl yn yr haf, gan greu dau ddarn newydd o goreograffi i’w perfformio yn yr hydref.

Am y tro cyntaf eleni, caiff cwrs preswyl yr haf ei gyfannu gan gyfres o ddosbarthiadau meistr ar-lein fel rhan o’r Cymundod Celtaidd, sef partneriaeth rhwng DGIC a Chwmni Dawns Cenedlaethol Ieuenctid yr Alban. Mae’r prosiect ar y cyd hwn yn ein helpu i drosglwyddo dosbarthiadau meistr a hyfforddiant o safon ryngwladol i ddawnswyr ifanc, gan ddefnyddio Zoom i gysylltu artistiaid dawns ifanc gyda’i gilydd.

Mae pob dawnsiwr ifanc 16-22 oed, a aned yng Nghymru neu sydd bellach yn byw yng Nghymru, yn gymwys i ddod am glyweliad. Ceir clyweliadau am ddim ar gyfer pobl ifanc sydd angen cymorth ariannol - a hynny ar sail “dim cwestiynau”, a bwrsariaethau o hyd at 100% o’r ffïoedd ar gyfer rhai o deuluoedd incwm is.

Dywedodd Gillian Mitchell, Prif Swyddog Gweithredol Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru: “Allwn ni ddim aros i gynnal clyweliadau unwaith eto ym mhob cwr o Gymru, er mwyn chwilio am y genhedlaeth nesaf o artistiaid dawns Cymreig.

“Diolch i gefnogaeth hael Ymddiriedolaeth Leverhulme, Cyngor Celfyddydau Cymru, a chefnogwyr ein cronfa bwrsariaethau, gallwn gynnig clyweliadau am ddim a bwrsariaethau o hyd at 100% ar gyfer y rheini sydd angen cymorth ariannol - felly ’does dim byd i’w golli trwy ddod am glyweliad! 

“Mae Dawns Genedlaethol Ieuenctid Cymru, sydd bellach yn ei ail flwyddyn ar hugain, unwaith eto’n gallu dod â rhai o’r coreograffwyr gorau i Gymru, gan ganiatáu i ddawnswyr ifanc brofi a dysgu oddi wrth y profiad trochi, unigryw hwn. Allwn ni ddim aros i arddangos eu gwaith wrth iddyn nhw berfformio gyda Ballet Cymru yr hydref hwn.” 

Am fwy o wybodaeth am ddod am glyweliad gyda Dawns Genedlaethol Ieuenctid Cymru, ewch i www.ccic.org.uk/clyweliadauY dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau yw Dydd Sul 20 Chwefror, 11.59pm.

Read More
Guest User Guest User

Y Prif Weinidog yn llongyfarch CGIC ar ei phen-blwydd yn 75ain

Mae’r Prif Weinidog Mark Drakeford wedi dathlu pwysigrwydd Cerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru, fel rhan o neges fideo arbennig a recordiwyd ar gyfer 75ain Pen-blwydd yr ensemble yn 2021.

Mae’r Prif Weinidog Mark Drakeford wedi dathlu pwysigrwydd Cerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru, fel rhan o neges fideo arbennig a recordiwyd ar gyfer 75ain Pen-blwydd yr ensemble yn 2021.

Nododd y Prif Weinidog bod yr ensemble - sef cerddorfa ieuenctid genedlaethol hynaf y byd - yn chwarae rhan bwysig yn nhirwedd gerddorol cyfoethog Cymru, gan gefnogi miloedd o gerddorion ifanc a rhoi cyfle iddynt berfformio i safon broffesiynol. 

Cyfeiriodd hefyd at bwysigrwydd rhwydwaith cyn-aelodau’r gerddorfa, gyda’i chyn-aelodau wedi mynd ymlaen i berfformio mewn cerddorfeydd proffesiynol ledled y byd, yn ogystal â dilyn gyrfaoedd proffesiynol mewn amrywiol feysydd, fel meddygon, cyfreithwyr, athrawon, arweinyddion busnes a gwleidyddion.

Waeth beth eu cefndir, mae cyn-aelodau’r gerddorfa’n mynd ymlaen i helpu i ffurfio’r Gymru yr ydym yn falch i fyw ynddi.
— Mark Drakeford

Trwy gydol y pandemig Covid-19, mae Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru wedi darparu rhaglen gyfoethog o gefnogaeth a datblygiad i aelodau ei ensembles. Mynegodd y Prif Weinidog cyn bwysiced fu hyn i gerddorion ifanc i gael eu cefnogi trwy ddosbarthiadau meistr ar-lein, gweithdai digidol, a sesiynau llesiant trwy gydol y cyfnod hwn.

Wrth i’r gerddorfa ieuenctid genedlaethol ail-gyflwyno gweithgarwch wyneb-yn-wyneb, bydd yn parhau i ysbrydoli cerddorion ifanc y dyfodol.
— Mark Drakeford

Yn ddiweddar, fel rhan o’i dathliadau pen-blwydd yn 2021, mae Cerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru wedi recordio cyngerdd sy’n cynnwys 10 comisiwn newydd sbon o weithiau siambr gan gyfansoddwyr Cymreig. Mae’r cyngerdd llawn ar gael i’w ffrydio am ddim ar-lein tan 30ain Tachwedd - gallwch ei wylio yma.

Llongyfarchiadau unwaith eto i bawb yng Ngherddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru, dymunwn bob llwyddiant ichi, ac edrychwn ymlaen at weld be ddaw yn y 75 mlynedd nesaf.
— Mark Drakeford
Read More
Guest User Guest User

10 comisiwn digidol newydd yn helpu i ddathlu 75 mlynedd o Gerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru

Bydd Cerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru - y gerddorfa ieuenctid genedlaethol hynaf yn y byd - yn dathlu ei phen-blwydd yn 75 oed eleni, gyda chymorth 10 comisiwn newydd gan gyfansoddwyr o Gymru.

  • Mae Cerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru (CGIC) yn troi’n 75 yn 2021, sy’n golygu mai hi yw’r gerddorfa ieuenctid genedlaethol hynaf yn y byd

  • Mae CGIC wedi comisiynu 10 gwaith siambr newydd, gan gyfansoddwyr o Gymru

  • Comisiynwyd rhai o gyn-aelodau mwyaf adnabyddus CGIC, yn cynnwys Syr Karl Jenkins, Hilary Tann a Patrick Rimes

Bydd Cerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru - y gerddorfa ieuenctid genedlaethol hynaf yn y byd - yn dathlu ei phen-blwydd yn 75 oed eleni, gyda chymorth 10 comisiwn newydd gan gyfansoddwyr o Gymru.

Mae’r 10 gwaith siambr newydd wedi eu comisiynu gan Gelfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru er mwyn i aelodau’r Gerddorfa, a rhywfaint o gyn-aelodau, eu perfformio gyda’i gilydd mewn grwpiau bychain. Rhoddwyd penrhyddid i’r cyfansoddwyr ysgrifennu ar gyfer unrhyw gyfuniad o offerynnau’r Gerddorfa ac mae pob gwaith yn amrywio o ran maint, o driawdau a phedwarawdau hyd at weithiau siambr ar gyfer 15-20 cerddor. Mae wyth o’r gweithiau newydd wedi eu recordio eisoes gan aelodau a chyn-aelodau CGIC mewn sesiwn recordio yn Neuadd Dewi Sant, Caerdydd, yn barod ar gyfer dathliad pen-blwydd arbennig ar-lein ar Ddydd Iau 21 Hydref.

Mae rhai o gyn-aelodau enwocaf CGIC ymysg y cyfansoddwyr a gomisiynwyd, yn cynnwys Hilary Tann, Patrick Rimes, a Syr Karl Jenkins, a gychwynnodd ei yrfa gerddorol fel oböydd gyda’r Gerddorfa.

“Mae mor gyffrous, allwn i ddim aros i fod yn ôl yn chwarae gyda phobl nad oeddwn i wedi chwarae gyda nhw ers cyhyd. Mae fel pe bae dim wedi newid”
Isobel, aelod CGIC

“Mae bod yn ôl gyda Cherddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru yn gymaint o bleser, a rhyddhad! Mae wedi bod yn gyfnod mor hir ond ry’n ni mor gyffrous i fod yn ôl.”
Nathan Dearden, Cyfansoddwr a Chyn-aelod CCIC

Llun: Jamie Chapman

Y cyfansoddwyr a’r gweithiau comisiwn yw:

  • Jo Thomas - Seeds (i dri chlarinét, ffidil, bas dwbl ac offerynnau taro)

  • Bethan Morgan-Williams - Parodi i Dri (clarinét, ffidil, piano)

  • Angharad Jenkins a Patrick RimesMusic for 13 voices

  • Lloyd ColemanMachine (i naw offeryn chwyth)

  • Gareth Olubunmi HughesHorizon One (ar gyfer ensemble siambr)

  • Syr Karl JenkinsChums! (trefniant i ensemble siambr ar gyfer pen-blwydd CGIC yn 75 oed)

  • Mark BowdenWych Elm (daru ddarn ar gyfer ffliwt, fiola a thelyn)

  • Claire Roberts - Rhywbeth ar y gweill (i biano, offerynnau taro a llinynnau)

  • Hilary Tann - Penrhys Fanfare (i bedwar trymped)

Meddai Gillian Mitchell, Prif Swyddog Gweithredol Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru: “Mae mor gyffrous gallu gweithio gyda chymaint o gyfansoddwyr Cymreig disglair ar y prosiect hwn. Mae Cerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru wedi cefnogi rhai o gerddorion gorau Cymru dros y degawdau, ac er ein bod yn siomedig nad oes modd inni eto ddod a’r gerddorfa lawn at ei gilydd ar gyfer cwrs preswyl, ry’n ni wir wrth ein bodd ein bod yn gallu cwrdd â’r grwpiau siambr hyn wyneb-yn-wyneb i recordio.”

Mae pob darn wedi ei recordio a’i ffilmio gan lynu at fesurau ymbellhau cymdeithasol priodol, yn unol â’r cyngor iechyd cyhoeddus oedd yn ei le ar y pryd. Ynghyd â nifer fawr o weithgareddau ar-lein eraill, mae’r rhain wedi cymryd lle'r profiad cwrs preswyl byw arferol, sydd dal yn amhosibl oherwydd y cyngor ymbellhau cymdeithasol parhaus. Trwy gydol y pandemig, mae aelodau CGIC wedi elwa o lu o ddosbarthiadau meistr ar-lein yn cynnwys gan y delynores Catrin Finch, y ddau feiolinydd Patrick Rimes a Rachel Podger, y trympedwr Philip Cobb a’r clarinetydd Robert Plane.

Llun: Jamie Chapman

Bydd premiere byd-eang y 10 darn ar gael i’w ffrydio ar-lein am 7pm ar Ddydd Iau 21 Hydref. Caiff y cyngerdd ei ffrydio trwy AM ar amam.cymru/nyaw

Yn ogystal, bydd pob darn ar gael i’w wylio ar-alw am chwe mis arall ar sianelau CCIC ar AM a Youtube. Mae mynediad i’r premiere yn rhad ac am ddim, ond croesewir cyfraniadau tuag at gronfa bwrsariaethau CCIC.

Mae CGIC yn cael ei rhedeg gan Gelfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru, a sefydlwyd yn 2017 i arwain datblygiad chwe ensemble cenedlaethol clodfawr Cymru, yn ogystal ag ystod eang o brosiectau i ddarparu cyfleoedd creadigol ar gyfer pobl ifanc yn y celfyddydau.

Fel elusen gofrestredig, mae Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru’n dibynnu ar eich cyfraniadau hael i sicrhau bob amser bod y rhai mwyaf haeddiannol yn gallu ymgysylltu â’r celfyddydau ar y lefel uchaf, waeth beth eu cefndir neu eu sefyllfa economaidd. Dysgwch sut allwch chi ein cefnogi ar ccic.org.uk/cefnogwch-ni

Read More
Guest User Guest User

Mae cariad yn yr aer ar gyfer aelodau Theatr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru ym mhremiere eu cynhyrchiad ffilm cyntaf erioed

A cast of 14 young members of National Youth Theatre of Wales go on an epic music-fuelled journey this October, as their digital production of Y Teimlad | That Feeling is streamed online.

Photo: Kirsten McTernan

Theatr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru (ThCIC) yn cyflwyno premiere eu cynhyrchiad ffilm cyntaf erioed, wedi ei ffilmio ar leoliad ledled Cymru

Cast o 14 o actorion ifanc rhwng 16-23 oed, o bob cwr o Gymru, yn perfformio taith epig, llawn cerddoriaeth

Ysgrifennodd y sgriptwraig Hanna Jarman (cydawdur Merched Parchus S4C) sgript a gomisiynwyd yn arbennig ac a ysbrydolwyd gan ensemble y cast

Mae’r sgôr gerddorol epig yn cynnwys cân newydd sbon gan y gantores-gyfansoddwraig Kizzy Crawford

Bydd y cynhyrchiad, sy’n waith ar y cyd rhwng ThCIC a Theatr Clwyd, ar gael i’w ffrydio ar-lein o wefan Theatr Clwyd o Ddydd Gwener 1 - Ddydd Sadwrn 9 Hydref.


Mae cast o 14 o aelodau ifanc Theatr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yn mynd ar daith epig, llawn cerddoriaeth yr Hydref hwn, wrth i’w cynhyrchiad digidol o Y Teimlad | That Feeling gael ei ffrydio ar-lein.

Yn y plot, sydd wedi ei ysbrydoli gan ensemble y cast a’i ysgrifennu gan y sgriptwraig Hanna Jarman, mae byd y Duwiau Cariad hynafol yn gwrthdaro gyda realiti cariad yn y Gymru gyfoes. Mae’r gybolfa liwgar, ddwyieithog o ffilm a theatr, gydag ambell lwyaid o Zoom seicedelig, yn cyd-blethu straeon y cymeriadau ifanc wrth iddynt ddathlu ac ailddiffinio’r hyn all cariad fod.

Daw teitl y ffilm o gân syml hyfryd o’r 90au, sef Y Teimlad, gan y band unigryw Datblygu - ac mae’r recordiad gwreiddiol i’w glywed yn y cynhyrchiad, ynghyd â fersiwn newydd a ysbrydolwyd gan aelodau’r cast, a’i chyfannu gan y comisiwn newydd sbon gan y gantores-gyfansoddwraig Kizzy Crawford. Golygodd marwolaeth drist cyn pryd David R Edwards, canwr y band, bod ail-ddychmygu’r themâu hyn gan genhedlaeth newydd o artistiaid ifanc Cymreig yn chwerw-felys.

Mae Hanna Jarman ei hun yn gyn-aelod o Theatr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru, ac roedd yn falch iawn i ddychwelyd at ThCIC:

“Mae cael bod yn rhan o Theatr Ieuenctid Cymru eto pymtheg mlynedd ar ôl ymuno y tro cyntaf (rhan o gynyrchiadau'r cwmni yn 2006 a 2008) yn fraint anhygoel. Dwi'n dweud o hyd, mewn ffordd dyna oedd dechre fy ngyrfa fel Actor, a dyna lle nes i gwrdd â Mari Beard fy nghyd sgwennwr ar amryw o brosiectau heddiw.

“Ar ôl trafodaeth gyda’r cwmni, roedden nhw’n awyddus i berfformio darn llawn hwyl ac yn benodol dim byd i neud gyda'r pandemig! Nes i fwynhau yr her a pa well pwnc i drafod na chariad?”

Dyma’r pedwerydd prosiect cydweithredol rhwng ThCIC a Theatr Clwyd yn y blynyddoedd diwethaf a, gyda Hannah Noone, maent wedi ffurfio gweledigaeth ar gyfer cynhyrchiad ffilm theatrig uchelgeisiol a difyr, gaiff ei ffrydio ar-lein gan Theatr Clwyd, sydd wedi canolbwyntio ar y sgiliau y mae perfformwyr eu hangen er mwyn actio ar y sgrîn - yn y Gymraeg a’r Saesneg.

“Pwy ddwedodd eich bod angen llwyfan i greu theatr” Aelod ThCIC

Y cynhyrchiad digidol hwn yw’r cynhyrchiad llawn cyntaf i ThCIC ei berfformio dan y canllawiau ymbellhau cymdeithasol. Roedd yn glir bod y tîm creadigol am ymgolli’n llwyr mewn fformat ffilmio digidol, gan ganiatáu llwyfan ehangach ar gyfer ymateb i anghenion a lleisiau’r perfformwyr ifanc. I lawer o’r perfformwyr, dyma’r tro cyntaf iddynt actio o flaen camera, gan helpu i roi hwb i’w profiad a’u sgiliau fel artistiaid amryddawn.

“Ges i amser a phrofiad gwych. Fe wnaeth fy helpu gymaint gydag ochr actio ar gyfer ffilm ac roedd creu fideo cerddorol yn wallgo’!” Aelod ThCIC

“Mae wir wedi fy helpu i brofi gwahanol agweddau actio, a’r profiad o actio o flaen camera. Mae wedi bod yn wych a dwi wedi mwynhau pob eiliad. Alla’ i ddim aros i weld y ffilm, mae’n mynd i fod yn anhygoel!” Aelod ThCIC

Datblygwyd yr agwedd gydweithredol o weithio gyda’r perfformwyr ymhellach gyda’r gantores-gyfansoddwraig Gymreig Kizzy Crawford, a gomisiynwyd i ysgrifennu anthem gariad newydd sbon ar gyfer ein hoes ni ar gyfer y cynhyrchiad, sef Cymaint o Liwiau, sy’n ymddangos mewn fideo ddathliadol yn arddull yr 80au a goreograffwyd gan Matteo Marfoglia.

Dan lygad creadigol y gwneuthurwr ffilmiau Nico Dafydd, cynhaliwyd y gwaith ffilmio mewn sesiynau Covid-ddiogel mewn lleoliadau ar hyd a lled Cymru, yn amrywio o olygfeydd panoramig o’r mynyddoedd a’r môr ger Bangor, gwacter ingol prif lwyfannau eiconig Theatr Clwyd a Theatr y Sherman, i strydoedd a synau Cathays, Canol y Ddinas a Butetown yng Nghaerdydd. Wedi eu gwasgaru rhwng y golygfeydd hyn, ceir enghreifftiau hynod ddyfeisgar o ffilmio o hirbell o bob cwr o Gymru. Ceir hyd yn oed ambell lwyaid o sesiynau Zoom seicedelig yn cynnwys Duwiau Cariad hynafol cecrus y mae eu cyfarfodydd yn cael eu dyrchafu gan ddyluniad gwisgoedd hardd a grëwyd ar gyfer y cynhyrchiad gan y dylunydd Jacob Hughes, sydd newydd ddylunio ar gyfer cynhyrchiad Shakespeare’s Globe o Romeo and Juliet.

“Fe weithiais ochr-yn-ochr ag artistiaid anhygoel a brwdfrydig a chast talentog a’r grŵp o bobl mwyaf uchelgeisiol imi gwrdd â nhw erioed” Aelod ThCIC

Meddai Tamara Harvey, Cyfarwyddwr Artistig Theatr Clwyd: “Rydym wrth ein bodd yn cydweithio gyda Theatr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru ar ‘Y Teimlad / That Feeling’, prosiect ffilm/theatr newydd beiddgar wedi ei ysgrifennu gan y dramodydd rhyfeddol Hannah Jarman. Mae Theatr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yn sefydliad pwysig ac arloesol sydd wedi cynnig y cam cyntaf hanfodol i berfformwyr ifanc Cymru am dros 40 mlynedd. Mae’r cyd-gynhyrchiad hwn yn help i arddangos rhai o egin dalentau mwyaf addawol y Gymru gyfoes.”

Meddai Gillian Mitchell, Prif Weithredwraig Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru: “Er gwaethaf heriau gweithio’n ystod y pandemig Covid, rydym wedi bod yn gweithio’n galed i roi cyfleoedd perfformio cyffrous i bob un o’n haelodau ifanc - ac mae’r comisiwn newydd uchelgeisiol hwn yn Gymraeg a Saesneg yn ddim ond un enghraifft. Gyda rhai o ddoniau mwyaf cyffrous Cymru’n rhan o’r cynhyrchiad, alla’ i ddim aros i weld sut mae’r canlyniad terfynol yn edrych ar y sgrîn.

“Mae ein haelodau ifanc wedi ei gwneud hi’n gwbl glir i ni pa mor bwysig yw’r perfformiadau hyn iddyn nhw, ac rydym yn gwybod y gallant fod yn falch o’r cynhyrchiad epig hwn ar gyfer y sgrîn, wrth iddyn nhw symud ymlaen gyda’u gyrfaoedd actio.”


Mae’r prosiect yn rhan o dymor Maniffest ThCIC 2021. Mae’r rhaglen blwyddyn gron hon o weithiau comisiwn, prosiectau cydweithredol a mentrau creadigol newydd yn arddangos yr hyn sy’n atgyfnerthu pobl ifanc, ac yn arddangos Cymru fel y mae pobl ifanc yn ei gweld hi yn yr 21ain ganrif – gwlad egnïol, amrywiol a dwyieithog gyda llais artistig cryf.

Am fwy o wybodaeth am Theatr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru ewch i www.ccic.org.uk

Mae’r cynhyrchiad ar gael i’w ffrydio ar ddyddiadau penodol rhwng Dydd Gwener 1 a Dydd Sadwrn 9 Hydref. Mae tocyn ffrydio 24-awr yn costio £5 (£3 pris mynediad, £10 pris cefnogwr). I archebu tocynnau ewch i www.theatrclwyd.com.

Read More