
NEWYDDION
Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yn penodi Evan Dawson yn Brif Weithredwr Newydd
Bydd Evan yn dechrau ar ei swydd gyda Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru (CCIC) ym mis Hydref 2023. Mae Evan, sy’n Gymro Cymraeg a aned yng Nghaerdydd, wedi gweithio fel Prif Swyddog Gweithredol Live Music Now ac, yn fwy diweddar, fel Prif Swyddog Gweithredol y Gymdeithas Ffotograffig Frenhinol
Mae Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru, yr elusen genedlaethol ar gyfer perfformwyr a phobl ifanc greadigol 11-25 oed, wedi penodi Evan Dawson yn Brif Weithredwr newydd.
Bydd Evan yn dechrau ar ei swydd gyda Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru (CCIC) ym mis Hydref 2023.
Mae Evan, sy’n Gymro Cymraeg a aned yng Nghaerdydd, wedi gweithio fel Prif Swyddog Gweithredol Live Music Now ac, yn fwy diweddar, fel Prif Swyddog Gweithredol y Gymdeithas Ffotograffig Frenhinol – lle y datblygodd strategaeth a hunaniaeth gynhwysol newydd, ei rhaglen ieuenctid gyntaf a chyfres o brosiectau celfyddydau gweledol a llesiant.
Yn sacsoffonydd a phianydd, roedd ei hyfforddiant cerddorol ef ei hun yn cynnwys grwpiau cerddoriaeth sirol De Morgannwg, cyn ymuno â’r Gerddorfa Jazz Genedlaethol Ieuenctid a threuliodd flwyddyn yn astudio jazz a cherddoriaeth stiwdio yng Ngholeg Cerdd a Drama y Guildhall. Ers hynny mae wedi arwain ei fand mawr 50 offeryn ei hun, mae wedi gwirfoddoli fel arweinydd cerddoriaeth ar brosiect ystâd dai ac wedi cyfansoddi cerddoriaeth ar gyfer y teledu a pherfformiadau byw.
Evan Dawson (ar y chwith), Prif Weithredwr newydd CCIC, a David Jackson (ar y dde), Cadeirydd Bwrdd Ymddiriedolwyr CCIC, yn yr ymarferion ar gyfer taith haf Cerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru
Bydd gwaith Evan yn adeiladu ar etifeddiaeth gref Gillian Mitchell, a ymunodd â CCIC fel Prif Weithredwr yn 2018. Gadawodd Gillian CCIC ym mis Gorffennaf 2023 i ymgymryd â rôl Cyfarwyddwr Prosiect ar gyfer Oriel Celf Gyfoes Genedlaethol Cymru.
““Rwy’n teimlo’n gyffrous o gael y cyfle i helpu i arwain y sefydliad i’r bennod nesaf””
Gan sôn am ei benodiad, dywedodd Evan Dawson: “Rwy’n falch iawn o ymuno â Chelfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru fel Prif Weithredwr newydd. Ers ei sefydlu yn 2017, mae David a Gillian wedi datblygu tîm angerddol a medrus iawn o ymddiriedolwyr ac aelodau o staff, sy’n cyflwyno profiadau celfyddydol ysbrydoledig i filoedd o bobl ifanc. Mae angen y gwaith pwysig hwn nawr yn fwy nag erioed o’r blaen.
“Rwy’n teimlo’n gyffrous o gael y cyfle i helpu i arwain y sefydliad i’r bennod nesaf, gan ddatblygu llwybrau i ystod eang o ddiwydiannau creadigol a helpu pobl o bob cefndir i gysylltu a ffynnu drwy ddigwyddiadau celfyddydol rhyfeddol a chydweithredol. Yn ystod y blynyddoedd nesaf byddwn yn gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau ac artistiaid ledled Cymru, gan feithrin gyda’n gilydd wlad hyderus a chyfoes, lle y gall pob person ifanc dawnus ffynnu.”
Dywedodd David Jackson, Cadeirydd Bwrdd Ymddiriedolwyr CCIC: “Rydym wrth ein bodd bod Evan yn ymuno â Chelfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru fel Prif Swyddog Gweithredol newydd. Gyda’i arbenigedd eang yn y celfyddydau, busnes a gweinyddiaeth, ef yw’r person delfrydol i arwain CCIC i ddyfodol sy’n argoeli i fod yn gyffrous a heriol.
““Rydym wrth ein bodd bod Evan yn ymuno â Chelfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru...ef yw’r person delfrydol i arwain CCIC i ddyfodol sy’n argoeli i fod yn gyffrous a heriol.””
“Mae’n cymryd yr awenau oddi wrth ein Prif Weithredwr, Gillian Michell, sydd wedi datblygu’r elusen yn wych, gan adael cyfleoedd rhagorol i Evan adeiladu arnynt, ac rwy’n hyderus y bydd yn cyflwyno ei frand ei hun o wychder creadigol i’r rôl. Mae fy nghyd-ymddiriedolwyr a minnau’n edrych ymlaen yn fawr iawn at gael gweithio gydag ef.”
Mae Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yn elusen gofrestredig, ac mae'n derbyn cyllid rheolaidd gan Gyngor Celfyddydau Cymru, fel aelod o Bortffolio Celfyddydol Cymru.
Evan Dawson – bywgraffiad llawn
Ganed Evan yng Nghaerdydd, a mynychodd ysgolion Cymraeg, cyn cwblhau gradd yn y gyfraith yng Ngholeg Prifysgol Llundain, a chymhwyso fel cyfreithiwr gyda Mishcon de Reya. Yna cwblhaodd MA mewn Rheolaeth yn y Celfyddydau ym Mhrifysgol Dinas Llundain, gan arbenigo mewn effeithiau addysgol a chymdeithasol y celfyddydau.
Mae Evan yn chwarae’r sacsoffon a’r piano, ac mae ganddo ddiddordeb yn y theatr, llenyddiaeth, ffotograffiaeth a gwneud ffilmiau. Wrth dyfu i fyny, fe wnaeth elwa ar gyfleoedd cerddoriaeth enwog sir De Morgannwg yn y 1980au a’r 90au, gan gynnwys y Band Chwyth Ysgolion Uwchradd a band mawr “Jazz News”. Yn dilyn hyn, ymunodd â’r Gerddorfa Jazz Genedlaethol Ieuenctid a threuliodd flwyddyn ôl-raddedig yng Ngholeg Cerdd a Drama y Guildhall yn astudio jazz a cherddoriaeth stiwdio. Arweiniodd ei fand mawr 50 offeryn ei hun yn Llundain, a bu’n gwirfoddoli fel tiwtor cerddoriaeth i blant ar Ystâd Dai Aylesbury. Mae hefyd wedi cyfansoddi cerddoriaeth ar gyfer rhaglenni teledu, gan gynnwys y diwn thema pedwarawd llinynnol ar gyfer “Only Connect” BBC Two (a ffilmiwyd yng Nghaerdydd) ac anthem gorawl (gyda band pres) ar gyfer yr Olympiad Diwylliannol yn 2012, a chwaraewyd am y tro cyntaf yn Neuadd Dora Stoutzker.
Yn ei yrfa broffesiynol, bu Evan yn Bennaeth Datblygu yn Making Music, yn datblygu polisi celfyddydau ac iechyd, yn ymchwilio i effaith grwpiau canu cymunedol ledled y wlad, a chomisiynu llawer o ddarnau newydd ar gyfer cerddorfeydd a chorau. Yna cafodd ei benodi’n Brif Swyddog Gweithredol Live Music Now (LMN), sy’n cyflenwi gwaith ar sail tystiolaeth mewn ysgolion, lleoliadau gofal iechyd a chymunedau ledled y DU, gan weithio gyda 350 a mwy o gerddorion llawrydd bob blwyddyn. Yn 2019, o dan ei arweinyddiaeth, cyrhaeddodd LMN rownd derfynol Elusen y Flwyddyn fel cydnabyddiaeth o’i gwaith gydag ysgolion arbennig. Mae wedi cyflwyno gwaith ymchwil ar y celfyddydau ac iechyd yn Nhŷ’r Arglwyddi, y Gymdeithas Feddygaeth Frenhinol, Oriel Sydney New South Wales ac (yn Gymraeg) yng Nghynulliad Cymru. Yn dilyn hynny, fe’i penodwyd yn Brif Swyddog Gweithredol y Gymdeithas Ffotograffig Frenhinol, lle y creodd strategaeth a hunaniaeth gynhwysol newydd, ei rhaglen ieuenctid gyntaf a chyfres o brosiectau ar y celfyddydau gweledol a llesiant. Mae hefyd wedi bod yn Gynghorydd Cenedlaethol i Gyngor Celfyddydau Cymru, ac yn ymgynghorydd gwerthuso i Sefydliad Cymunedol Quartet ym Mryste.
Llongyfarchiadau i enillwyr ein gwobrau Cerddorfa a Band Pres 2023
Bob blwyddyn ar ein preswyliadau, rydym yn dathlu ein cerddorion sy'n dangos yr addewid a'r ymroddiad mwyaf. Y tiwtoriaid adrannol sy'n penderfynu pwy sy'n derbyn pob gwobr yn ystod y cyfnodau preswyl.
Bob blwyddyn ar ein preswyliadau, rydym yn dathlu ein cerddorion sy'n dangos yr addewid a'r ymroddiad mwyaf. Y tiwtoriaid adrannol sy'n penderfynu pwy sy'n derbyn pob gwobr yn ystod y cyfnodau preswyl.
Hoffai Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru rhoi diolch i'r rhai sydd wedi rhoi arian i greu'r gwobrau hyn.
Band Pres Cenedlaethol Ieuenctid Cymru
Tlws Coffa John Childs
Dyfarnwyd i’r chwaraewr mwyaf addawol ar y cwrs preswyl eleni
Ellie Carlsen
Gwobr David Mabey
Dyfarnwyd i’r chwaraewr sydd wedi gwella fwyaf ar y cwrs preswyl
Sion Lloyd
Tlws y Prif Gornet
Rhoddir gan Tony Small
Erin Maloney & Elizabeth Rogers
Cerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru
Gwobr Haydn Davies
Dyfarnwyd i’r chwaraewr mwyaf addawol sy’n dal i fod ym myd addysg
Jacob Adams (Corn Ffrengig)
Gwobrau Irwyn Walters (Ffrindiau CGIC)
Dyfarnwyd i’r ddau chwaraewr llinynnol mwyaf addawol yn y cwrs preswyl eleni
Rhys Nicholson (soddgwrth) a Luke Doyle (feiolin)
Gwobr Wil Jones
Dyfarnwyd i’r chwaraewr chwythbrennau mwyaf addawol yn y cwrs preswyl eleni
Catrin Davies (clarinet)
Gwobr Goronwy Evans
Dyfarnwyd i'r chwaraewr pres mwyaf addawol yn y cwrs preswyl eleni
Dafydd Owen (tiwba)
Gwobr Telyn Tony Moore
Dyfarnwyd i’r telynor mwyaf addawol yn y cwrs preswyl eleni
Erin Fflur Jardine
Gwobr Offerynnau Taro Tony Moore
Dyfarnwyd i’r chwaraewr offerynnau taro mwyaf addawol yn y cwrs preswyl eleni
Nathan Corish
Gweld dyfodol Celfyddydau Cymru. Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yn cyhoeddi digwyddiadau haf 2023.
Yr haf hwn, bydd dros 230 o actorion, cerddorion, a chantorion ifanc 16-22 oed yn perfformio mewn cyngherddau a chynyrchiadau ledled Cymru.
Mae perfformwyr ifanc hynod dalentog Cerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru, Band Pres Cenedlaethol Ieuenctid Cymru, Côr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru, Theatr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru a Dawns Genedlaethol Ieuenctid Cymru yn barod i ddangos eu hangerdd a'u potensial.
Yr haf hwn, bydd dros 230 o actorion, cerddorion, a chantorion ifanc 16-22 oed yn perfformio mewn cyngherddau a chynyrchiadau ledled Cymru.
28 – 30 Gorffennaf, bydd Band Pres Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yn perfformio mewn cyngherddau ym Mangor, Aberystwyth a Chaerdydd.
Wedi'i arwain gan Paul Holland, bydd band pres yn dangos ei hyblygrwydd gyda darnau sy'n cynnwys High Peak gan Eric Ball, Five Blooms in a Welsh Garden gan Gareth Wood ynghyd â cherddoriaeth gan Debussy, Walton a Paul Lovatt-Cooper. Mae’r unawdydd cornet a’r seren newydd o Wlad Belg, Lode Violet, yn dod â’i ddawn ifanc ei hun i’r arlwy.
1 – 5 Awst, bydd Cerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru yn perfformio mewn digwyddiadau ym Mangor, Llanbedr Pont Steffan a Chaerdydd, yn ogystal â dwy ŵyl, yn Nhyddewi.
Wedi'i harwain gan Carlo Rizzi, bydd y gerddorfa yn mynd â chynulleidfaoedd ar daith drwy ardaloedd gwledig gwlad Tsiec gyda Vltava o Má vlast gan Smetana. Bydd hefyd yn perfformio Four Last Songs gan Richard Strauss gyda'r soprano Elizabeth Llewellyn, a Symffoni Rhif 5 gan Shostakovich.
25 – 28 Awst, bydd Côr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yn perfformio mewn cyngherddau ym Mangor a Chaerdydd, yn ogystal â gŵyl yn Nhyddewi.
Mae cantorion CCIC wedi cael dweud eu dweud gan lunio rhaglen o'u ffefrynnau ar gyfer y cyngherddau eleni. Bydd cynulleidfaoedd yn cael blas ar bopeth o gerddoriaeth atmosfferig Eric Whitacre i alawon hyfryd cyfansoddwyr Cymreig. Bydd hyd yn oed drefniant o un o ganeuon chwedlonol Stevie Wonder i'w glywed hefyd. Tim Rhys-Evans, sy'n fwyaf adnabyddus am ei waith gydag Only Men Aloud ac Only Boys Aloud, yw'r arweinydd.
31 Awst – 2 Medi, bydd addasiad newydd o glasur Dylan Thomas ar gyfer lleisiau ifanc beiddgar Theatr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru, Dan y Wenallt / Under Milk Wood, yn cael ei llwyfannu yn Theatr y Sherman yng Nghaerdydd.
Daw byd telynegol Llaregubb a'r Gymru gyfoes ynghyd mewn cydblethiad o'r Gymraeg a'r Saesneg, a fydd yn fwrlwm o gerddoriaeth, meicroffonau a phedalau dolen. Cafodd y cynhyrchiad hynod wreiddiol hwn ei addasu gan Mari Izzard, yn seiliedig ar ddrama wreiddiol Dylan ar gyfer lleisiau a chyfieithiad Cymraeg gan T James Jones. Emma Baggott yw'r cyfarwyddwr.
Mae rhywbeth at ddant pawb yn yr arlwy yr haf hwn. Cyfle gwych i brofi, a chefnogi, angerdd ac addewid perfformwyr ifanc o bob cwr o Gymru.
Bwrw goleuni ar Iechyd Meddwl mewn Perfformio yn ystod Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl 2023.
Gall llawer o berfformwyr ifanc ganfod eu bod yn wynebu trafferth gyda gorbryder wrth berfformio, yn enwedig ers pandemig Covid-19. Gan ei bod hi’n Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl, a'r thema eleni yw Gorbryder, roedden ni am rannu ein hoff ffeithlenni i'ch helpu i berfformio'n hyderus, ac adnoddau i'ch cyfeirio at y cymorth cywir.
Gall llawer o berfformwyr ifanc ganfod eu bod yn wynebu trafferth gyda gorbryder wrth berfformio, yn enwedig ers pandemig Covid-19. Gan ei bod hi’n Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl, a'r thema eleni yw Gorbryder, roedden ni am rannu ein hoff ffeithlenni i'ch helpu i berfformio'n hyderus, ac adnoddau i'ch cyfeirio at y cymorth cywir.
Ers Covid, bu cynnydd cyffredinol mewn gorbryder, ac fel sefydliad creadigol, rydyn ni’n annog ein haelodau i godi llais gan groesawu'r sgwrs ynghylch lles meddyliol.
““Roedd bod yn aelod o CCIC yn werthfawr iawn i fy iechyd meddwl dros y cyfnod clo... Roedd dychwelyd i waith preswyl wyneb yn wyneb yn 2022 yn brofiad anhygoel, ac fe wnaeth hyn fy helpu i adennill llawer o’r hyder roeddwn i wedi’i golli dros y cyfnod clo.””
Beth yw gorbryder perfformio? Beth yw'r symptomau?
Fel y disgrifiwyd gan Mind UK (2021) "Gorbryder yw'r hyn rydyn ni'n ei deimlo pan rydyn ni'n poeni, dan straen neu'n ofnus - yn enwedig am bethau sydd ar fin digwydd, neu rydyn ni'n meddwl y gallen nhw ddigwydd yn y dyfodol. Mae gorbryder yn ymateb dynol naturiol pan fyddwn ni’n teimlo ein bod dan fygythiad. Gellir ei brofi drwy ein meddyliau, ein teimladau ac yn gorfforol." Gall hyn arwain at ofn camu i’r llwyfan, pyliau o banig, dryswch, ymhlith symptomau eraill.
Pa gyngor fyddech chi'n ei roi i rywun sy'n teimlo'n orbryderus am berfformio?
Mae rhai aelodau wedi canfod bod ioga, gan ei fod yn ymarfer corff myfyriol, yn eu helpu gyda'u gorbryder perfformio. Beth am leddfu’r pryder a’r straen a chymryd eiliad i edrych ar ôl eich lles corfforol a meddyliol gyda chyfres o sesiynau ioga a meddwlgarwch dan arweinad ganddon ni yma yn Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru, dan arweiniad tiwtor ioga preswyl Dawns Genedlaethol Ieuenctid Cymru Jessica Jones.
Beth mae CCIC yn ei wneud i helpu?
Mae CCIC yn cymryd llesiant ac iechyd meddwl aelodau a staff o ddifrif. Yn ystod preswylfeydd, mae gan CCIC staff lles sydd â phrofiad o berfformio. Ochr yn ochr â hyn, yn ystod cyfnodau preswyl rydyn ni’n cynnal dosbarthiadau ioga i aelodau gan wneud ymarfer iach yn rhan o’r preswyliadau.
Adnoddau defnyddiol:
Lansiad Rhaglen Llwybrau Proffesiynol 2023 Theatr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru
Y mis hwn, rydym ni’n edrych yn ôl ar lansiad Rhaglen Llwybrau Proffesiynol Theatr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru 2023, sy’n cael ei rhedeg mewn partneriaeth â'n cydweithwyr hirdymor Theatr Clwyd.
Y mis hwn, rydym ni’n edrych yn ôl ar lansiad Rhaglen Llwybrau Proffesiynol Theatr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru 2023, sy’n cael ei rhedeg mewn partneriaeth â'n cydweithwyr hirdymor Theatr Clwyd.
Lluniau gan Kirsten McTernan Photography
Ym mis Ebrill, cymerodd 53 o'n haelodau Theatr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru 2023 ran mewn cwrs preswyl tridiau yng Nghaerdydd (gyda chefnogaeth Canolfan Mileniwm Cymru) fel cam cyntaf y cynnig aelodaeth cynyddol hwn gan ThCIC. Wedi'i gynllunio i ehangu sgiliau ac ymwybyddiaeth o lwybrau gyrfa o fewn theatr, ffilm a'r byd digidol, daeth y grŵp at ei gilydd i ddysgu am adrodd straeon trochol yn ei holl ffurfiau.
“Roedd y tiwtoriaid yn gyfeillgar iawn, ac mae’r cyfnod preswyl wedi fy helpu tuag at fy ngwaith yn y theatr yn y dyfodol drwy
ddatblygu fy sgiliau.
”
Gyda chyllid gan Lywodraeth Cymru drwy Cymru Greadigol, rydym ni wedi ehangu ein cynnig Llwybrau Proffesiynol eleni i gynnwys hyfforddiant sgiliau penodol ar waith digidol a sgrin gan gynnwys gweithdai gan arloeswyr Darkfield Studios, a sesiynau ymarferol ar glyweliadau hunan-dâp ar gyfer y sgrin a'r llwyfan gyda'r actor sgrin a'r hwylusydd Dean Fagan.
Lluniau gan Kirsten McTernan Photography
Beth yw eich uchafbwynt o'r cyfnod preswyl?
“Mae’r cyfan wedi bod yn wych iawn. Rydym ni wedi cwrdd â chymaint o bobl a gweithwyr creadigol wahanol o bob math o gyfryngau.”
“Roeddwn i wrth fy modd â’r persbectif newydd a roddodd i mi”
Cynhaliwyd gweithdai yn ystod y cyfnod preswyl gan amrywiaeth eang o artistiaid a chwmnïau gyda ffocws ar y grefft o adrodd straeon trochol. Roedd y rhain yn cynnwys sesiynau gydag Amie Burns Walker a'r cynhyrchiad safle-benodol sydd ar y gweill yn Theatr Clwyd o The Great Gatsby, sgiliau symud a pherfformio gyda'r tîm o Theatr Clwyd ynghyd â chipolwg ar sut mae WMC yn arwain y ffordd mewn perfformiad trochol digidol yng Nghymru.
Diolch i'r holl aelodau a staff a gymerodd ran mewn cyfnod preswyl llwyddiannus arall. Edrychwn ymlaen at eich croesawu yn ôl y flwyddyn nesaf!
Beth sydd Nesaf?
Bydd camau nesaf y rhaglen Aelodaeth Llwybrau Proffesiynol yn cynnwys ein Clwb Darllen Dramâu poblogaidd (gyda'r curadu Cymraeg wedi'i gefnogi gan Theatr Genedlaethol Cymru a'r awdur Rebecca Jade Hammond yn curadu'r rhaglen waith Saesneg) ynghyd ag amrywiaeth o weithdai gwneud theatr a chefn llwyfan yng Ngogledd a De Cymru sy'n gysylltiedig â chynyrchiadau o bob cwr o Gymru yn Gymraeg a Saesneg a gefnogir gan RWCMD a Theatr Clwyd.
Os ydych chi'n gynhyrchydd, yn lleoliad neu'n gwmni theatr sy'n ymwneud â theatr ym mha bynnag ffordd ac yn dymuno agor eich perfformiadau i'n carfan, cysylltwch â ThCIC.
I gael rhagor o wybodaeth, cofrestrwch ar gyfer ein rhestr bostio neu e-bostiwch nyaw@nyaw.org.uk.
Mae Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yn partneru â Chanolfan Mileniwm Cymru i gyflwyno Hard Côr
Grŵp lleisiol i bobl ifanc yw Hard Côr, sy’n dod â phobl 16–25 oed sy’n byw yng Nghaerdydd ynghyd i ganu, rapio, bît-bocsio a chreu cerddoriaeth gyda’i gilydd.
Grŵp lleisiol i bobl ifanc yw Hard Côr, sy’n dod â phobl 16–25 oed sy’n byw yng Nghaerdydd ynghyd i ganu, rapio, bît-bocsio a chreu cerddoriaeth gyda’i gilydd.
Caiff aelodau’r grŵp eu dylanwadu gan ystod o arddulliau cyfoes, gan gynnwys hip-hop, grime, rap a RnB, ac maen nhw’n dathlu byd cerddoriaeth arloesol Cymru.
Diben y grŵp yw ehangu cyfleoedd i wneuthurwyr cerddoriaeth ifanc a thalentog o Gymru sydd am ganu a lleisio mewn arddulliau annhraddodiadol ar y lefel uchaf, gan eu galluogi i weithio gyda rhai o ymarferwyr cerddorol mwyaf gwefreiddiol y wlad.
“Roedd yn teimlo fel teulu a chymuned arall llawn amrywiaeth.”
Fideo trwy garedigrwydd Canolfan Mileniwm Cymru.
Gwnaeth tri hwylusydd a oedd yn arbenigo mewn meysydd gwahanol arwain a chefnogi’r prosiect cyntaf yma, sef:
Dionne Bennett – canwr soul (canu)
Tumi Williams – MC, awdur geiriau a Chydymaith Creadigol yng Nghanolfan Mileniwm Cymru (‘mcing’)
Matthew Hann – bîtbocsiwr a hwylusydd celfyddydau (bîtbocsio)
Am fwy o wybodaeth cofrestrwch ar gyfer ein rhestr bostio neu e-bostiwch nyaw@nyaw.org.uk neu education@wmc.org.uk. Mae Hard Côr yn brosiect ar y cyd rhwng Canolfan Mileniwm Cymru a Chelfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru.
Mae Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yn ehangu prosiectau datblygu talent greadigol, gyda chyllid drwy Cymru Greadigol
Mae CCIC wedi derbyn cyllid – dros £45,000 – gan Lywodraeth Cymru drwy Cymru Greadigol i helpu i ddatblygu talent greadigol Cymru yn y sectorau ffilm, teledu, cerddoriaeth fasnachol a digidol.
Mae CCIC wedi derbyn cyllid – dros £45,000 – gan Lywodraeth Cymru drwy Cymru Greadigol i helpu i ddatblygu talent greadigol Cymru yn y sectorau ffilm, teledu, cerddoriaeth fasnachol a digidol.
Wedi’i lansio yn ystod mis Medi llynedd, crëwyd Cronfa’r Sector Sgiliau Creadigol gyda’r bwriad o gefnogi prosiectau a all gyflawni yn erbyn un neu fwy o’r deg blaenoriaeth a nodwyd yn y Cynllun Gweithredu Sgiliau Creadigol o fewn tair blynedd a arweinir gan y diwydiant.
Mae’r Cynllun Gweithredu yn ceisio mynd i’r afael ag anghenion sgiliau’r tri sector â blaenoriaeth: cerddoriaeth, cynnwys digidol, a sgrin yn y tymor byr, yn ogystal ag ystyried yr anghenion hirdymor a fydd yn sicrhau bod Cymru’n parhau i fod â sector creadigol ffyniannus.
Yn gynharach y mis hwn, cyhoeddodd Dawn Bowden AS, Dirprwy Weinidog dros y Celfyddydau a Chwaraeon, fod dros £1.5m i’w rannu rhwng 17 o brosiectau ar draws y diwydiannau creadigol, meddai:
“Diben y gronfa hon yw parhau i gefnogi partneriaethau sgiliau strategol ledled Cymru, ac rwyf wrth fy modd ein bod wedi gallu dyfarnu'r cyllid i brosiectau cydweithredol a fydd yn darparu cyfleodd gwych ar gyfer y rhai sy'n gweithio yn y sector neu sydd am weithio yn y sector o bob cefndir.” Darllennwch y datganiad ysgrifenedig lawn yma.
Fel derbynwyr y gronfa, bydd CCIC yn defnyddio hwn i ehangu dau o’i brosiectau ar gyfer pobl ifanc – Llwybrau Proffesiynol a Cerdd Y Dyfodol.
Llwybrau Proffesiynol
Mae ein rhaglen Llwybrau Proffesiynol yn gynllun datblygu gyrfa ar gyfer perfformwyr drama ifanc dawnus, a ddarperir mewn partneriaeth â Theatr Clwyd a Chanolfan Mileniwm Cymru. Yng ngwanwyn 2023, bydd 45 o bobl ifanc 16-22 oed yn cymryd rhan mewn rhaglen hyfforddi breswyl ddwys, gan roi cipolwg uniongyrchol iddynt ar yr ystod o sgiliau trosglwyddadwy yn y sectorau theatr, sgrin a digidol.
Mae pob penwythnos preswyl neu ddiwrnod hyfforddi yn canolbwyntio ar sgiliau penodol gan gynnwys techneg perfformio, dylunio set, gwisgoedd, a goleuo, ysgrifennu sgriptiau, hygyrchedd o fewn perfformiad a marchnata a rhaglennu drama. Darllenwch mwy am y prosiect yma.
Gan ddefnyddio’r cyllid gan Cymru Greadigol, bydd ein rhaglen Llwybrau Proffesiynol yn cynnig mynediad ehangach i weithdai ffilm a theledu a sut mae’r arferion hyn yn berthnasol i’r sector digidol, gweithredu ar gyfer sgrin werdd, hyfforddiant llais ar gyfer sgrin, podlediadau a gwaith trosleisio, a llawer mwy hefyd.
Cerdd y Dyfodol
Mewn mannau eraill, bydd y cyllid yn helpu i barhau â Cerdd Y Dyfodol, ein prosiect cerddoriaeth gyfoes sy’n cefnogi cerddorion ifanc 16-18 oed i wneud eu marc ar y sin gerddoriaeth Gymraeg gyfredol ar draws ystod eang o genres – o Grime i Indie, Electronica i RnB.
Wedi’i ddatblygu gyntaf yn 2019, mae’r prosiect yn cefnogi gwneuthurwyr cerddoriaeth sydd â’r potensial i ddatblygu a thyfu fel artistiaid, gan ddatblygu eu sgiliau ysgrifennu caneuon, hunanreolaeth, a sgiliau cerddor mewn amgylchedd diogel a chefnogol. Mae’n cynnig profiad diwydiant dilys, a chipolwg ar yrfa cerddor sy’n gweithio, gan fynd â chyfranogwyr drwy gylch bywyd llawn cyfansoddi caneuon – gan gynnwys cyfansoddi a recordio, perfformio, teithio a hyrwyddo.
Fel rhan o’n hymrwymiad parhaus i feithrin talent amrywiol, bydd o leiaf 25% o’r cyfranogwyr yn dod o gefndir mwyafrif byd-eang, o leiaf 15% o’r 70 o fuddiolwyr yn byw ag anabledd, gan helpu i feithrin diwydiant cerddoriaeth Gymraeg fwy amrywiol a chynhwysol.
Ochr yn ochr â hyn byddwn yn cyflogi Cynhyrchydd dan Hyfforddiant newydd sy’n benodol i’r prosiect Cerdd Y Dyfodol, gyda recriwtio’n dechrau ym mis Mawrth 2023, ac yn gweithio gyda Mentoriaid y Dyfodol eto i helpu i hwyluso’r rhaglen, a chynnig y mynediad a’r wybodaeth orau bosibl i gyfranogwyr i’r sector cerddoriaeth gyfoes yng Nghymru. Mae mentoriaid blaenorol wedi cynnwys Kizzy Crawford, Heledd Watkins (HMS Morris) a Tumi Williams (Afrocluster, Skunkadelic).
Edrychwn ymlaen at ddatblygu ein prosiectau ymhellach dros y misoedd nesaf ac i mewn i gyfnod preswyl yr haf.
Mae Prosiect Datblygu Corawl CCIC, Sgiliau Côr, Yn Ail-lansio Ar Gyfer 2023
Mae gweithgareddau ar gyfer Sgiliau Côr, ein rhaglen datblygu gorawl, wedi dechrau gyda phedwar gweithdy ym mis Ionawr wedi eu cynnal i baratoi ar gyfer preswyliad mis Chwefror
Mae gweithgareddau ar gyfer Sgiliau Côr, ein rhaglen datblygu gorawl, wedi dechrau gyda phedwar gweithdy ym mis Ionawr wedi eu cynnal i baratoi ar gyfer preswyliad mis Chwefror.
Wedi’i ddatblygu fel llwybr i wella hyder a gallu cantorion ifanc mewn canu corawl, a dwy flynedd ar ôl y cynllun peilot a ddatblygwyd gydag arweinydd Côr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru Tim Rhys-Evans, lansiwyd y prosiect gyda gweithdai yn Haf 2022.
Gan recriwtio cantorion ifanc brwdfrydig trwy gyfuniad o broses galwad agored ochr yn ochr ag ymgyrchoedd wedi’u targedu gydag ysgolion, corau ieuenctid, a gwasanaethau cerdd, bydd Sgiliau Côr yn ymgysylltu â phobl ifanc o ystod amrywiol o gefndiroedd ac mae wedi’i gynllunio i gefnogi’r rhai sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn y celfyddydau ar hyn o bryd – yn enwedig pobl ifanc mwyafrif byd-eang a phobl ifanc o deuluoedd incwm isel.
Mae aelodau presennol CCIC a allai elwa o ddatblygiad ychwanegol hefyd wedi cael eu gwahodd i gymryd rhan yn y preswyliad.
Gyda dros 80 o fyfyrwyr yn cymryd rhan mewn pedwar gweithdy a gynhaliwyd yng Nghaerdydd ac Abertawe dan arweiniad ein tîm o hwyluswyr uchel eu parch – sy’n cynnwys Iori Haugen, un o sylfaenwyr Choirs for Good ac Anna Beresford, arweinydd ac aelod o dîm WNO – bu pob myfyriwr yn gweithio ar “This Is Me” gan The Greatest Showman. Gan ganu mewn harmoni tair rhan, buont yn canolbwyntio ar amrywiaeth o dechnegau lleisiol, eu dawn gerddorol gyffredinol, wedi'i mireinio trwy amrywiaeth o ymarferion a gemau.
Dywedodd Naomi Davies, pennaeth y Celfyddydau Mynegiannol yn Ysgol Uwchradd Gymunedol Gorllewin Caerdydd, hyn am y gweithdy. “Roedd y disgyblion yn bositif iawn ac wedi mwynhau'n fawr! Gobeithio gallwn ni eich cael chi i mewn eto yn y dyfodol! Mae ambell un yn gwneud cais am y gweithdy yn ystod hanner tymor sy’n gyfle gwych iddyn nhw.”
Mae Bruna Garcia, Cynhyrchydd dan Hyfforddiant Sgiliau Côr yn cytuno. “Roedd yn wych gweld sut gwnaeth y myfyrwyr ymgysylltu â’r gweithdy, a gwnaethant yn dda iawn. Mae’n galonogol gwybod eu bod wedi cael hwyl tra’n mynd â rhywbeth gwerthfawr gyda nhw hefyd.”
Gan ddatblygu ar yr hyn a gweithiwn ar yn ystod y gweithdai, bydd ein cwrs preswyl yn cynnig cyfle i gyfranogwyr weithio gyda thîm arbenigol o arweinwyr canu a gwesteion arbennig.
Cynhelir y cyfnod preswyl hwn rhwng 18fed a 21ain Chwefror 2023 yng Nghanolfan yr Urdd ym Mae Caerdydd, lle bydd cyfranogwyr yn cymryd rhan mewn ystod gyffrous o weithdai, dosbarthiadau meistr gyda gwesteion arbennig, a sesiynau canu un-i-un pwrpasol. Bydd y cyfnod preswyl yn dod i ben gyda rhannu perfformiad anffurfiol ar gyfer ffrindiau, teulu a gwesteion arbennig.
Ein nod yw i bob cyfranogwr adael y cyfnod preswyl gyda’r hyder a’r sgiliau i gael clyweliad ar gyfer unrhyw gyfleoedd corawl eraill a allai ddod i’w rhan yn y dyfodol, ac wrth gwrs Côr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru.
I gael rhagor o wybodaeth am y preswyliad, gan gynnwys y gost a sut i wneud cais, ewch draw i dudalen prosiectau Sgiliau Côr.















Mae'r Celtic Collective yn Croesawu ei Haelod Diweddaraf
Bydd llysgennad DGIC, Erin Mared, yn ymuno â National Youth Dance Company Scotland am y flwyddyn gyfan, gan greu gwaith newydd i fynd ar daith ledled y DU a thramor
Bydd llysgennad DGIC, Erin Mared, yn ymuno â National Youth Dance Company Scotland am y flwyddyn gyfan, gan greu gwaith newydd i fynd ar daith ledled y DU a thramor
Bydd llysgennad DGIC, Erin Mared, yn ymuno â National Youth Dance Company Scotland am y flwyddyn gyfan, gan greu gwaith newydd i fynd ar daith ledled y DU a thramor.
Yn 2020 datblygodd NYDCS bartneriaeth newydd gyda DGIC trwy The Celtic Collective, a gynlluniwyd i gysylltu aelodau DGIC a NYDCS trwy angerdd ac awydd a rennir i wella eu datblygiad dawns a’u hymwybyddiaeth o’r sector, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. , trwy ddod â nhw at ei gilydd trwy brofiadau a rennir. Yn ystod y cyfnod cloi, cymerodd dawnswyr o’r ddau gwmni ran mewn gweithdai ar-lein gyda choreograffwyr o bob rhan o’r DU.
Eleni, mae partneriaeth y Celtic Collective wedi datblygu ymhellach ac yn cynnwys dawnswyr yn teithio rhwng gwledydd i gymryd rhan mewn rhaglenni a phreswyliadau.
Ym mis Awst 2022, bu aelodau Dawns Genedlaethol Ieuenctid Cymru yn gweithio gyda’r coreograffwyr Lea Anderson MBE ac Arielle Smith i greu dau waith dawns newydd a berfformiwyd am y tro cyntaf fel rhan o daith hydref Ballet Cymru. Dros gyfnod preswyl o bythefnos yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, canolbwyntiodd y rhaglen ar ymestyn a herio aelodau yn greadigol ac yn artistig, gan ddatblygu eu sgiliau technegol a pherfformio ar yr un pryd.
Daeth tri aelod o NYDCS i Gymru i ymuno â DGIC ym mhreswyliad mis Awst fel perfformwyr gwadd, gan ymuno â’r cwmni mewn ymarferion ac ar lwyfan.
Mae'n bleser gennym gyhoeddi eleni, am y tro cyntaf, y bydd NYDCS yn croesawu llysgennad DGIC. Bydd Erin Mared, 23, o Aberystwyth, Cymru, sydd ar hyn o bryd yn astudio Sbaeneg ac Almaeneg ym Mhrifysgol Glasgow yn ymuno â NYDCS am y flwyddyn gyfan, gan greu gwaith newydd i deithio ar draws y DU a thramor.
Mae Erin wedi bod yn dawnsio ers yn bedair oed ac mae ganddi angerdd gwirioneddol am y llawenydd o ddawnsio, “Rwy’n dwli ar y ffaith bod dawns yn iaith gyffredin i bobl ledled y byd. Os na allwch gyfathrebu â rhywun trwy eiriau, gallwch chi bob amser ddod o hyd i gysylltiad trwy ddawns.”
Mae Dawns Genedlaethol Ieuenctid Cymru ac YDance, sy’n rhedeg NYDCS, yn darparu cyfleoedd hyfforddi a pherfformio o’r radd flaenaf i ddawnswyr ifanc. Mae’n tynnu ar egni a chyffro brwdfrydedd pobl ifanc dros ddawns ac yn ei sianelu i fod yn rym creadigol, cyfoes sy’n dathlu’r ddawns ieuenctid orau yng Nghymru a’r Alban heddiw.
“Rydym wrth ein bodd yn gweithio mewn partneriaeth â NYDCS. Trwy ddod at ein gilydd, gallem rannu cyfleoedd i ddawnswyr o DGIC a NYDCS i gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau gwahanol yn rhithwir ac yn bersonol. Mae’r bartneriaeth Celtic Collective yn gyfle gwych i ddawnswyr o’r un anian o bob rhan o Gymru a’r Alban i rannu profiadau, datblygu sgiliau, a gwneud cysylltiadau newydd gyda chyfoedion ar draws y ddwy wlad.
Rwy’n gyffrous iawn i weld sut bydd y bartneriaeth yn datblygu dros y flwyddyn neu ddwy nesaf.” Jamie Jenkins, Cynhyrchydd Dawns.
“Mae eleni ar fin bod yn flwyddyn gyffrous i NYDCS gyda chyfleoedd anhygoel i berfformio y tu allan i'r DU! Braf yw cael partneriaeth Celtic Collective gyda DGIC i gynnig mwy o brofiadau i’r dawnswyr yn ystod eu taith gyda ni. Rydyn ni’n gyffrous i groesawu Erin fel rhan o’r cwmni eleni ac yn edrych ymlaen at y dyfodol ar y cyd gyda DGIC.” Anna Kenrick, Cyfarwyddwr Artistig YDance.
Bydd Erin yn ymddangos am y tro cyntaf gyda NYDCS yn eu perfformiad byw cyntaf yn nigwyddiad YDance eleni, Destinations, a gynhelir yn Eden Court, Inverness ar y 18fed o Chwefror.
Cyngor Celfyddydau Cymru yn ymateb i adroddiad ar gelfyddydau ieuenctid yng Nghymru
Wedi’i gomisiynu llynedd, mae’r cydweithrediad rhwng rhwng CCIC a YANC wedi’i chyhoeddi, gan amlinellu’r cynlluniau ar gyfer datblygu’r sector Celfyddydau Ieuenctid gyda mwy o gyfranogiad gan bobl ifanc
Wedi’i gomisiynu llynedd, mae’r cydweithrediad rhwng rhwng CCIC a YANC wedi’i chyhoeddi, gan amlinellu’r cynlluniau ar gyfer datblygu’r sector Celfyddydau Ieuenctid gyda mwy o gyfranogiad gan bobl ifanc
Ym mis Tachwedd 2020, cyflwynwyd llythyr ar y cyd gan Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru (CCIC) a Rhwydwaith Celfyddydau Ieuenctid Cymru (YANC) i Gyngor Celfyddydau Cymru (CCC) yn amlinellu pryderon sylfaenol am ddyfodol y sector celfyddydau ieuenctid yng Nghymru; yn ymwneud yn bennaf â chanlyniadau dinistriol Covid-19 ar bobl ifanc a sector y celfyddydau.
Tynnodd sylw at y diffyg hanesyddol o adnoddau ar gyfer celfyddydau ieuenctid, effaith y pandemig ar les pobl ifanc a’u dyheadau ar gyfer gyrfaoedd yn y celfyddydau yn y dyfodol, ynghyd â’r diffyg llais cafodd pobl ifanc hyd yma yn y disgwrs yn ystod y pandemig.
Wedi’i gomisiynu gan Gyngor Celfyddydau Cymru yn 2021, ymunodd Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru â Rhwydwaith Celfyddydau Ieuenctid Cymru (YANC) i gynnal cyfres o sesiynau ymgynghori ar-lein gyda phobl ifanc, sefydliadau celfyddydau ieuenctid, ac ymarferwyr i benderfynu ar yr angen am fforwm ieuenctid yng Nghymru ac ymgynghoriad ar dyfodol cyllid loteri celfyddydau ieuenctid.
Isod mae crynodeb o'r adroddiad, yn dilyn ei gyhoeddiad gan Gyngor Celfyddydau Cymru.
I ddarllen yr adroddiad llawn ar wefan Cyngor Celfyddydau Cymru, cliciwch yma. I ddarllen yr adroddiad Hawdd ei Ddarllen, cliciwch yma.
Beth mae pobl ifanc eisiau
Roedd cytundeb cyffredinol bod angen i Gyngor Celfyddydau Cymru a Llywodraeth Cymru wneud mwy i gymryd anghenion pobl ifanc yn fwy o ddifrif a’u gosod yn uwch ar yr agenda, megis gwrando ar bobl ifanc, meithrin gwell cysylltiadau sy’n gosod pobl ifanc y ganolfan waith, a chyllid mwy hyblyg a dirwystr ar gyfer prosiectau gyda phobl ifanc.
Soniodd y cyfranogwyr am fod eisiau rhwydwaith i bobl ifanc gysylltu a chydweithio â’i gilydd yn ogystal â chefnogi eu hymgysylltiad a’u gyrfaoedd yn y celfyddydau trwy gefnogaeth, gwybodaeth ac adnoddau.
Rhwydwaith a llais ieuenctid
Yn syml, dywedodd pobl eu bod eisiau rhwydwaith celfyddydol i bobl ifanc a fyddai'n eu helpu i gwrdd a gweithio gyda'i gilydd. Pwrpas y rhwydwaith hwn fyddai helpu pobl ifanc i gydweithio, cael gwybodaeth am y celfyddydau a chysylltu â sefydliadau celf yng Nghymru, cael cymorth gyda chyllid a cheisiadau a helpu i roi hwb i yrfaoedd yn y celfyddydau.
Cafwyd awgrymiadau hefyd ynghylch cynyddu cyllid a chefnogaeth i YANC. Gallai YANC cryfach, gyda phartneriaethau cryfach gyda sefydliadau celfyddydol a chymunedol ledled Cymru weithio gyda phobl ifanc, sefydliadau a CCC i ddatblygu rhwydwaith o'r fath.
Yn amlwg mae creu rhwydwaith o’r fath yn dasg fawr, ond dylai gael ei wneud gan bobl ifanc yn hytrach nag ar gyfer pobl ifanc, gyda chyfle i ymgysylltu ar-lein ac yn bersonol. Hefyd y dylai’r rhwydwaith fod yn hygyrch ac yn gynhwysol i bobl ifanc o bob cymuned ledled Cymru, gyda phwyntiau mynediad gwahanol i bobl ifanc ar wahanol adegau o’u taith o fewn y celfyddydau.
Rhaid i'r rhwydwaith hefyd fod ar gael yn ddwyieithog a sicrhau bod pobl ifanc sydd am chwilio am gyfleoedd, cefnogaeth neu gysylltiadau drwy'r Gymraeg yn gallu gwneud hynny drwy gynrychiolaeth gyfartal yn y Gymraeg.
Yn ystod y sesiynau yn trafod ehangu cynrychiolaeth llais ieuenctid, trafodwyd sawl syniad a fyddai'n rhoi llwyfan i bobl ifanc gael gwrandawiad dilys gan CCC, heb roi'r cyfrifoldeb arnynt i ddatrys yr holl broblemau.
Trafodwyd grŵp ieuenctid sy’n cyfarfod i drafod materion parhaus, a byddai’r grŵp yn gallu pwyso ar CCC, tra’n adleisio strwythurau Cyngor Ieuenctid Caerdydd, Senedd Ieuenctid Cymru neu Senedd Ieuenctid San Steffan.
Codwyd pwyntiau hefyd am bwysigrwydd bod gan y grŵp y fraint i ddylanwadu ar benderfyniadau.
Roedd awgrymiadau eraill yn cynnwys gosod dau berson ifanc ar Gyngor y Celfyddydau ei hun, a datblygu rhaglen sgiliau a hyfforddiant sy’n buddsoddi mewn pobl ifanc o bob rhan o Gymru.
Cyllid ar gyfer celfyddydau ieuenctid
Y farn gyffredinol yw bod y model presennol yn cyflwyno rhwystrau sylweddol i lawer o bobl ifanc, yn ogystal â chyfyngiadau gan sefydliadau sy'n anelu at redeg prosiectau mewn ffyrdd mwy hyblyg ac ymatebol.
Cafwyd sawl galwad i ddileu jargon a geiriad anodd mewn ceisiadau cyllido, ac i ailedrych ar y geiriad a ddefnyddiwyd a’r gofynion sydd yn eu lle i gyflwyno syniadau.
Roedd galwadau hefyd i sicrhau bod cyllid mentora yn ofynnol er mwyn cynnig y cyllid yn y lle cyntaf.
Roedd nifer o artistiaid ifanc yn y sesiynau a wnaeth sylwadau ar faint yr oeddent wedi elwa o gyngor ac arweiniad y sefydliadau oedd yn ymwneud â nhw wrth ysgrifennu ceisiadau, ond roedd galwadau clir hefyd am gefnogaeth ehangach oddi wrth Gyngor Celfyddydau Cymru. Yn bwysig, mae angen i’r cymorth ehangach hwn fod yn yma fod yn agored i’r bobl hynny sydd heb rwydweithiau sy’n bodoli eisoes, drwy ddiwrnodau hyfforddi a chanllawiau ar sut i wneud cais.
Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn cynnig gwybodaeth am wneud cais am arian mewn print bras, Braille, sain, Hawdd ei Ddeall ac Iaith Arwyddion Prydain, ond mae artistiaid B/byddar ddim yn ymwybodol o hyn, neu pa brosesau eraill sydd ar gael i helpu gyda cheisiadau.
Awgrymwyd y dylid cynyddu gwelededd cefnogaeth mynediad, ac y dylid ystyried ceisiadau fideo.
Beth sy'n digwydd nesaf?
Beth mae pobl ifanc am weld yn ystod y 3 mis nesaf
I’r adroddiad hwn gael ei gyhoeddu yn Gymraeg a Saesneg, gyda chymorth ychwanegol ar cyfryngau cymdeithasol
Fideos i'w gwneud gan bobl ifanc yn y celfyddydau yn ymateb i'r adroddiad
Beth mae pobl ifanc am weld yn ystod y 6 mis nesaf
Deialog rhwng Cyngor Celfyddydau Cymru a sefydliadau celfyddydol ar sut i gychwyn y rhwydwaith celfyddydau ieuenctid
Cynnydd mewn digwyddiadau dwyieithog gyda phobl ifanc
I ddefnyddio’r digwyddiadau i gynyddu cefnogaeth i bobl ifanc i weithio gyda Chyngor Celfyddydau Cymru
Beth mae pobl ifanc am weld yn ystod yr 1 i 2 flynedd nesaf
Cyllid uniongyrchol ar gyfer celfyddydau ieuenctid sydd ar gael i bobl ifanc
Ffurflenni cais syml heb jargon a gyda iaith symlach
Sefydliadau celfyddydol i gydweithio’n ddwyieithog i greu rhwydwaith ar gyfer celfyddydau ieuenctid, gyda chefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru
Gwahodd dau berson ifanc i ymuno â Chyngor Celfyddydau Cymru
Rhaglenni hyfforddi a chyfleusterau i bobl ifanc arwain yn y sector celfyddydau
I gael rhagor o wybodaeth am Gyngor Celfyddydau Cymru ewch i'w gwefan.